Mae'r grant yn rhan o'r rownd ddiweddaraf o ddyfarniadau gan Gronfa Arloesi’r Rheoleiddwyr (RPF), sy'n helpu i gysylltu'r rhai hynny sy'n datblygu technolegau cyfreithiol newydd â'r rhai hynny y mae arnynt angen eu gwasanaethau fwyaf.
Bydd y dyfarniad gwerth £167,856 gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) yn cael ei ddefnyddio i greu rhwydwaith newydd lle gall rheoleiddwyr, sefydliadau a llywodraeth leol gydweithio i wella mynediad cyfreithiol mewn cymunedau, drwy gefnogi, profi a hyrwyddo technoleg gyfreithiol newydd.
Mae hyn yn cydnabod bod y prosiect yn un o'r 21 menter newydd feiddgar a gefnogir gan Gronfa Arloesi Rheoleiddwyr y Llywodraeth, gwerth miliynau o bunnoedd sy'n ysgogi arloesedd ledled y DU. Mae'r Gronfa yn cefnogi prosiectau dan arweiniad rheoleiddwyr ac awdurdodau lleol sy'n helpu i gefnogi amgylchedd rheoleiddiol y wlad i aros ar flaen y gad o ran datblygiadau technolegol y dyfodol – gan fod o fudd i entrepreneuriaid a defnyddwyr.
Mae'r prosiect wedi cael ei arwain gan yr SRA a phartneriaid eraill y prosiect fydd Prifysgol Gorllewin Lloegr, yr ICO ac Awdurdod Cyfun Gorllewin Lloegr. Clinig y Gyfraith Abertawe, sy'n rhan o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham ym Mhrifysgol Abertawe, a Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru (LILW) yw'r partneriaid Cymreig ar gyfer y prosiect.
Bydd cymunedau o amgylch Abertawe a Bryste yn cymryd rhan i brofi datblygiadau newydd. Bydd rhan gyntaf y prosiect yn cynnwys ymchwilio i ba ddatblygiadau arloesol sydd ar gael, a'r ffordd orau i bartneriaid gysylltu'r technolegau â'r rhai hynny y mae eu hangen arnynt.
Wrth siarad am y wobr, meddai Stefano Barazza, Arweinydd Academaidd yn Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru:
"Drwy'r prosiect hwn, ein nod yw deall yn well sut gall technoleg fynd i'r afael â'r heriau y mae cymunedau sy'n cael eu tangynrychioli a chymunedau sy'n agored i niwed yn eu hwynebu wrth gael mynediad at gyngor cyfreithiol. Bydd y cydweithrediad â'n partneriaid ym Mryste, yr SRA a'r ICO yn ein galluogi i lywio rheoleiddio yn y dyfodol ar groestoriadau technoleg a mynediad at gyfiawnder, gan sicrhau bod safbwynt Cymru wrth wraidd ymyriadau polisi o'r fath.
"Bydd y Labordy hefyd yn nodi'r datblygiadau technolegol allweddol y mae eu hangen i wella mynediad at gyfiawnder, gyda'r bwriad o gynnwys cymuned gyfreithiol Cymru wrth eu dylunio, eu prototeipio a'u gweithredu yn y dyfodol. Byddwn yn ymgysylltu â chymunedau lleol, cwmnïau cyfreithiol ac awdurdodau lleol i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gyfrannu eu barn at ein gwaith.
"Rydym yn falch iawn y bydd cymuned Abertawe yn elwa o'r prosiect hwn a fydd, gobeithio, yn gosod y sylfeini ar gyfer sut y gallwn ddefnyddio technoleg yn y sector cyfreithiol i wella mynediad at gyfiawnder i gymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn awyddus i helpu Cymru i arloesi'r defnydd o dechnoleg gyfreithiol i wella mynediad at wasanaethau cyfreithiol i bawb."