Un maes diddordeb sy'n tyfu ar gyfer y Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (IISTL) yw effaith technolegau sy'n datblygu ar egwyddorion cyfraith fasnachol a morgludiant, a’r ffordd orau o addasu iddynt.
Y pynciau hyn oedd ffocws ein gweminar ar 15 Ebrill. Trafododd ein Hathrawon Soyer a Tettenborn y materion hyn yn fanwl ag arbenigwyr blaenllaw ym maes cyfraith ac ymarfer llongau; sef, Julian Clarke (Uwch-bartner Byd-eang Ince) a Grant Hunter (Pennaeth Contractau a Chymalau yn BIMCO). Cafodd Comisiwn y Gyfraith hefyd ei gynrychioli gan Laura Burgoyne (Pennaeth y Tîm Cyfraith Fasnachol a Chyffredin) a Daniella Lupini (Cyfreithiwr Arweiniol ar Gontractau Clyfar).
Denodd y digwyddiad gynulleidfa dda iawn nid yn unig o'r DU ond o Ogledd America, Asia, Ewrop ac Affrica. Roedd y nifer mawr o gwestiynau gwybodus a diddorol a ofynnwyd i'r panelwyr gan gyfranogwyr wedi hynny'n arwydd bod y gweminar yn amserol ac wedi cael derbyniad da.
Enw gweminar nesaf yr IISTL yw “The Tomorrowland of Multimodal Transport: How Technology and Law are Transforming Global Commerce and the Supply Chain”, a chynhelir hyn ar 12 Mai.