Ddydd Gwener, 22 Ionawr 2021, traddododd Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, anerchiad i agor Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru, menter wedi'i hariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a leolir yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe. Nod y Labordy yw trawsnewid sut mae gwasanaethau cyfreithiol yn cael eu darparu yng Nghymru a'r tu hwnt.
Denodd y digwyddiad ar-lein, 'Dyfodol y Gyfraith, Gyda'n Gilydd', dros gant o gyfranogwyr a darparodd gyfle i ymarferwyr, llunwyr polisi ac academyddion ddod ynghyd i drafod amrywiaeth o heriau pwysig sy'n wynebu'r sector cyfreithiol yng Nghymru, gan gynnwys mynediad at gyfiawnder, bygythiadau yn y seiber-ofod a'r cyfleoedd trawsnewidiol sy'n cael eu cynnig gan Dechnoleg Gyfreithiol.
Amlygodd y Cwnsler Cyffredinol bwysigrwydd allweddol arloesi cyfreithiol a thechnolegau newydd wrth ddatblygu sector cyfreithiol dynamig, cynhwysol a gwydn yng Nghymru. Pwysleisiodd fod buddsoddi mewn technolegau digidol yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, er mwyn cefnogi sector cyfreithiol Cymru i elwa o fanteision yr economi wybodaeth, arwain trawsnewidiad technolegol gwasanaethau cyfreithiol, gan helpu cymunedau a busnesau lleol i ddechrau ffynnu eto ar ôl y pandemig. Meddai:
"Cawsom ein herio gan Gomisiwn Thomas i gryfhau'r sector cyfreithiol yng Nghymru a gallwn gyflawni hynny drwy helpu rhagor o bobl i gael mynediad at y gyfraith a deall y gyfraith yma.
"Mae Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru, y fenter gyntaf o'i bath yng Nghymru, yn ein helpu i ddarganfod potensial technolegau datblygol, megis technegau darllen peirianyddol a deallusrwydd artiffisial, sy'n galluogi Llywodraeth Cymru, ymarferwyr cyfreithiol proffesiynol, cyrff proffesiynol a'r gymuned academaidd yng Nghymru i ddatblygu a hyrwyddo gwir alluoedd y sector cyfreithiol.
"Rwyf wrth fy modd bod Cymru unwaith eto ar flaen y gad yn yr ymchwil arloesol hon. Mae cronfeydd yr UE yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth foderneiddio ein heconomi, cynyddu cynhyrchiant a datblygu cyfleoedd cyflogaeth a busnes. Edrychaf ymlaen yn fawr at weld i ba raddau gall Technoleg Gyfreithiol helpu i hybu mynediad at gyfiawnder ar gyfer dinasyddion Cymru a datblygu cyfleoedd i fanteisio ar bŵer cyfryngau digidol a data i uchafu budd y cyhoedd."
Mae Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru, a ariennir gan yr ERDF, drwy Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe, wedi bod yn gweithio i ymateb i'r heriau sy'n wynebu'r sector cyfreithiol a thechnoleg drwy arloesi, ymchwil ac addysg.
Meddai Stefano Barazza, Arweinydd Academaidd Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru:
"Mae argyfwng COVID-19 wedi amlygu ac wedi dwysáu rhai o'r heriau sy'n wynebu'r sector cyfreithiol a chymdeithas, gan atgyfnerthu'r angen am ffyrdd cydweithredol ac arloesol o weithio.
Sefydlwyd y Labordy i fod yn amgylchedd o'r radd flaenaf â'r nod o ddod â phobl ynghyd, meithrin ffyrdd cydweithredol o weithio a chefnogi twf cymuned ac economi Technoleg Gyfreithiol ffyniannus yng Nghymru.
Rydym yn parhau'n ymrwymedig i ddarparu amgylchedd agored a chynhwysol ar gyfer cydweithredu, datblygu technolegau cyfreithiol arloesol a chefnogi'r sector i fabwysiadu Technoleg Gyfreithiol. Y digwyddiad agoriadol hwn oedd yr un cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau i gefnogi'r gymuned gyfreithiol a'r agenda Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru."