Blwyddyn Wych Arall o Ddatblygu Sgiliau a Llwyddiant Cystadlu

Daeth blwyddyn ardderchog arall i ben i’r myfyrwyr ar Raglen Sgiliau Cyfathrebu Ysgol y Gyfraith ym mis Gorffennaf. Mae'r rhaglen hon yn canolbwyntio drwy'r flwyddyn ar ddatblygu sgiliau eiriolaeth, negodi, cyfweld â chleientiaid a chyfryngu gyda myfyrwyr yn dysgu'r sgiliau ac wedyn yn profi eu dealltwriaeth mewn cystadlaethau mewnol a rhwng prifysgolion.

Yn ystod blwyddyn academaidd 2024/25, bu myfyrwyr o bob blwyddyn astudio yn cystadlu mewn 26 o gystadlaethau allanol (cafodd dwy gystadleuaeth eu canslo am resymau amrywiol) a threfnwyd pedair cystadleuaeth fewnol, gan gynnwys Ffug Lys Barn Cyfraith Feddygol Redkite LLP. Cynigiwyd cyfleoedd i 188 o fyfyrwyr ac achubodd 93 o fyfyrwyr unigol ar y cyfleoedd i feithrin profiad.

Un o ddatblygiadau allweddol y flwyddyn oedd y gefnogaeth benodol i'r rhaglen gan gwmnïau cyfreithwyr a siambrau bargyfreithwyr. Roeddem wrth ein boddau y cytunodd y sefydliadau canlynol i gefnogi'r rhaglen drwy'r flwyddyn ac edrychwn ymlaen at barhau â'r partneriaethau hyn y flwyddyn nesaf.

  • JCP Solicitors
  • RedKite Law LLP
  • Acuity Law
  • Gomer Williams
  • DW Harris
  • Angel Chambers
  • Iscoed Chambers
  • Pendragon Chambers

Cafwyd llawer o lwyddiannau nodedig eleni. Yn benodol, enillon ni ddau deitl cenedlaethol a dau deitl rhyngwladol gan roi cyfanswm o bedwar, sef y nifer uchaf erioed i Abertawe eu hennill mewn un flwyddyn academaidd. Enillodd Keara-Lynn Douglas ac Amelia Triaca Ffug Lys Barn Rhyngolegol y Deml Fewnol, gan ddilyn Prifysgol Rhydychen fel y pencampwyr, a bu Samuel Berkeley a Maggie Jessop yn fuddugol yng Nghystadleuaeth Negodi Cymru a Lloegr CEDR. Yn rhyngwladol, enillodd Nour Road Gystadleuaeth Rithwir Cwnsela Cleientiaid Mediate Guru ac enillwyd Cystadleuaeth Negodi Rithwir Mediate Guru gan Lewis Green ac Amelia Smith.

Ymhlith llwyth o gyflawniadau nodedig eraill, daeth Simbisai Zhou yn ail yng Nghystadleuaeth Gyfryngu Rithwir Mediate Guru ac enillodd Lucy Palmer ac Annabelle Shephard yr ail wobr yng Nghystadleuaeth Ffug Lys Barn Cymru. Llwyddodd Tegan Bennett a Taylor-May Price i gyrraedd y rowndiau cynderfynol yn yr un digwyddiad. 

Daeth Tegan Bennett a Maren Julian yn ail yn un o gystadlaethau ffug lys barn mwyaf nodedig y DU, sef Cystadleuaeth Ffug Lys Barn English Speakers Union-Essex Court Chambers, gan gynnwys rownd derfynol ddramatig yn y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol. Roedd Colm Yethon a Naomi Headley hefyd yn rhan o'r tîm gan gymryd rhan yn y rowndiau cynharach.

Cyflawnodd Colm Yethon a Taylor-May Price lwyddiannau digynsail ar gyfer y Brifysgol, gan gyrraedd rowndiau cynderfynol Cystadleuaeth Ffug Lys Barn Genedlaethol Southampton a chymhwysodd William Wilton a Maisie Bollom ar gyfer rowndiau gogynderfynol y Gystadleuaeth Ffug Lys Barn Genedlaethol i Fyfyrwyr y Flwyddyn Gyntaf: canlyniad gwych sy'n argoeli'n dda ar gyfer eu hymdrechion yn y dyfodol.

Yn fewnol, enillwyd y Gystadleuaeth Ffug Lys Barn i Fyfyrwyr Hŷn gan Amelia Triaca a gafodd y fraint o dderbyn y wobr gan yr Arglwydd Lloyd-Jones oherwydd cynhaliwyd y rownd derfynol yng Ngoruchaf Lys y DU. Hefyd yn cystadlu yn y rownd derfynol roedd Maren Julian, Tegan Bennett a Cara Di Teodoro. Enillwyd y Gystadleuaeth Ffug Lys Barn i Fyfyrwyr y Flwyddyn Gyntaf gan Jessica Davies, gan drechu Eesha Boby, Maisie Bollom a Shauna Prosser o drwch blewyn yn y rownd olaf, a chynhaliwyd ffug lys barn newydd i ni gan RedKite Law. Gan ganolbwyntio ar gyfraith feddygol, enillwyd y gystadleuaeth hon gan Abigail Edwards a gurodd Finn Meikle o drwch blewyn yn y rownd derfynol.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn ragorol ac edrychwn ymlaen yn fawr at ddechrau tymor sgiliau 2025/26 gyda Chystadleuaeth Negodi Ysgolion y Gyfraith APIT a gynhelir ddiwedd mis Awst.

Os hoffech chi ddysgu mwy am Raglen Sgiliau Cyfathrebu Ysgol y Gyfraith, e-bostiwch Matthew Parry (m.j.parry@abertawe.ac.uk).

Rhannu'r stori