Mae cyfreithiwr hawliau dynol dan hyfforddiant a chanddo radd LLB yn y Gyfraith o Brifysgol Abertawe wedi lansio ymgyrch fyd-eang i gydnabod iechyd meddwl cadarn fel hawl ddynol sylfaenol.
Mae Mohammed Rafiuddin yn tynnu ar ddegawd o'i frwydrau iechyd meddwl ei hun i ysbrydoli newid byd-eang, i sicrhau bod gan bawb yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag niwed hysbys i iechyd meddwl, a chael mynediad at ofal fforddiadwy o ansawdd.
Cenhadaeth ymgyrch iechyd meddwl Mohammed yw ymgorffori iechyd meddwl cadarn fel Erthygl yn y Ddeddf Hawliau Dynol, yn yr un modd ag y mae'r hawl i breifatrwydd neu'r hawl i dreial teg wedi'u hymgorffori.
Mae'r ymgyrch yn fenter fyd-eang sy'n ceisio grymuso unigolion sy'n brwydro yn erbyn salwch meddwl, gwella gofal iechyd meddwl a hyrwyddo ymwybyddiaeth ac addysg am faterion iechyd meddwl. Gweledigaeth yr ymgyrch yw sicrhau bod iechyd meddwl cadarn yn hawl ddynol a gydnabyddir yn fyd-eang a dileu'r stigma sy'n gysylltiedig â salwch meddwl.
Mae disgwyl y bydd Mohammed, a astudiodd ei radd israddedig yn y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, yn cymhwyso fel cyfreithiwr y gwanwyn nesaf ar ôl i'w salwch iechyd meddwl ei orfodi i oedi ei yrfa gyfreithiol.
Treuliodd bron degawd fel carcharor yn ei gartref ei hun gan ei fod yn dioddef o iselder ysbryd, gorbryder a seicosis. Yn ystod camau cynnar ei frwydr, ar ôl magu'r dewrder i geisio cymorth o'r diwedd, dywed Mohammed fod ei argyfwng iechyd meddwl wedi cael ei ddiystyried gan feddyg teulu fel "dim ond straen ".
Meddai Mohammed am ei brofiadau:
"Roeddwn i'n gwybod sut deimlad oedd straen, ac nid straen oedd hyn. Brwydrais am ddiagnosis a gwelais saith therapydd gwahanol, treuliais fy mhen-blwydd yn 30 oed mewn ward iechyd meddwl ac roeddwn i'n cymryd pedair meddyginiaeth bresgripsiwn wahanol y dydd dim ond i aros yn fyw.
"Gyda'n gilydd, gallwn ni ail-lunio'r naratif sy'n ymwneud ag iechyd meddwl a sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl yn ei frwydr am fywyd o iechyd meddwl cadarn. Dywedodd fy therapydd wrthyf unwaith, 'oni fyddai'n wych pe bai pobl yn trin eu salwch meddwl yn yr un ffordd ag y bydden nhw'n trin salwch yn eu llygaid, neu eu clustiau, neu eu coes?'
"Er bod llawer wedi newid yn ystod y degawd diwethaf, rydyn ni'n dal i gael trafferth wrth drin ein hiechyd meddwl yn yr un modd â chyflyrau corfforol eraill, ac mae'r diffyg cyllid ar gyfer ymchwil i iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd meddwl yn rhan enfawr o hynny."
Gyda chymorth therapi helaeth, meddyginiaeth a'i hunangred ei hun, mae Mohammed wedi goresgyn ei salwch meddwl ac mae bellach yn benderfynol o gwblhau ei hyfforddiant yn y gyfraith.
Gan ddod â'i arbenigedd cyfreithiol a'i arbenigedd mewn hawliau dynol ynghyd â'i brofiad personol, nod Mohammed yw helpu pobl eraill. Mae'n gobeithio y bydd ei ymgyrch yn herio stigma, yn achub bywydau ac yn dylanwadu ar wleidyddion i ddyrannu mwy o gyllid i wasanaethau iechyd meddwl.