Yn ddiweddar cynhaliodd y Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Rhyngwladol (IISTL) y gynhadledd gyntaf ar Fframio Hawliau Eiddo Deallusol. Y prif nod oedd integreiddio gwaith y Sefydliad ar gyfraith fasnachol ac eiddo deallusol ymhellach drwy ddod ag ysgolheigion eiddo deallusol a thechnoleg gyfreithiol ynghyd i drafod rôl eiddo deallusol mewn materion sy'n dod i'r amlwg.
Dros ddeuddydd, bu 21 o gyflwyniadau'n canolbwyntio ar eiddo deallusol a thechnoleg, lles, diwylliant, biodechnoleg a datrys anghydfodau. Roedd y rhain yn gyfle gwych i gyfranogwyr a chynadleddwyr gynnal trafodaethau, gan gynnig amgylchedd cynhyrchiol ar gyfer ymgysylltu academaidd.
Roedd y rhai hynny a fu'n cyflwyno yn cynnwys ffigurau blaenllaw megis yr Athro Johanna Gibson a'r Athro Jonathan Griffiths o QMU, Llundain a ffigurau blaenllaw eraill a rhai sy'n dod i'r amlwg yn y byd academaidd a'r sector ymarfer, yn eu plith, Dr Basak Bak (Prifysgol Reading), Lawrence Cullen (Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa Eiddo Deallusol y DU) a Pranav Narang (y Ganolfan ar gyfer Cyfraith Masnach a Buddsoddi).
Hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol roedd myfyrwyr PhD o QMU, Prifysgol y Frenhines Belfast, NOVA IPSI, Prifysgol Caeredin a myfyrwyr ac aelodau o'r IISTL ym Mhrifysgol Abertawe, sef y Doctoriaid Lowri Davies, Ogulcan Ekiz, Aygün Mammadzada ac Alicia Mckenzie.
Wrth siarad am y digwyddiad wedyn, meddai'r Athro Soyer, Cyfarwyddwr yr IISTL:
"Rhaid i chi gofio bod cyfraith eiddo deallusol yn rhan o'n DNA. Am flynyddoedd lawer, roedden ni'n cynnal prosiect IP Cymru, a ddaeth â buddion sylweddol i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru drwy eu helpu i fasnacheiddio eu hawliau eiddo deallusol.
Mae'r digwyddiad diweddaraf hwn yn dangos ein bod bellach yn barod i fynd i'r afael ag unrhyw heriau newydd yn y maes hwn; mae themâu trawsbynciol megis eiddo deallusol, technoleg, hawliau dynol a datrys anghydfodau bellach yn rhan o'n gwaith beunyddiol.
Rwy'n hynod ddiolchgar i'n haelodau, Dr Davies, Dr Ekiz a Dr Mammadzada am ysgwyddo'r gwaith o gynnal y digwyddiad hwn. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu'r trafodaethau a gynhaliwyd dros y ddau ddydd hyn ymhellach o lawer yn y dyfodol.