Rhwng 6 a 7 Medi, cynhaliodd y Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol ei 18fed Gynhadledd Ryngwladol Flynyddol mewn fformat hybrid, ar y pwnc 'Dadleuon Masnachol - Eu Datrys ac Awdurdodaeth'.
Denodd y digwyddiad nifer sylweddol o gyfranogwyr a oedd yn bresennol ar y campws a nifer o rai eraill a gyfranogodd ar-lein, a chymerodd pob un ohonynt ran frwdfrydig yn y dadleuon a ddilynodd y cyflwyniadau a gyflwynwyd gan academyddion blaenllaw, ymarferwyr ac aelodau'r farnwriaeth.
Yn ogystal, cynigiwyd cyflwyniadau gan yr aelodau canlynol o’r Sefydliad: Yr Athrawon Baughen, Leloudas a Tettenborn a Dr Mammadzada. Hefyd, cyflwynodd yr unigolion canlynol gyflwyniadau yn ystod y digwyddiad:
- David Steward, Cymrodeddwr a Chyfryngwr, Llywydd LMAA
- Richard Sarll, Bargyfreithiwr, 7KBW
- Karen Maxwell, Bargyfreithiwr a Chymrodeddwr, Twenty Essex
- Ruth Hosking, Bargyfreithiwr a Chymrodeddwr, Quadrant Chambers
- Brian Perrott, Partner, HFW, Llundain
- Yr Athro Francesco Munari, Prifysgol Genoa,
- Yr Athro Marta Pertegas Sender (M.), Prifysgol Maastricht
- Syr William Blair, 3VB, Cymrodeddwr a Chyn-farnwr Llys Masnachol Llundain
- Athro Cyswllt Masood Ahmed, Prifysgol Caerlŷr
- John A. Kimbell KC, Bargyfreithiwr, Quadrant Chambers, Llundain
- Daniel Wand, Bargyfreithiwr, 4KBW
- Dr Patricia Živković, Darlithydd, Prifysgol Aberdeen
Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, meddai'r Athro Soyer (Cyfarwyddwr y Sefydliad):
"Mae'r ddau ddiwrnod wedi bod yn hynod ddiddorol. Gwnaeth y ffaith bod y gynulleidfa wedi ymrwymo'n llawn (ar-lein ac wyneb yn wyneb) yn y dadleuon, drwy ofyn cwestiynau ystyrlon a gwneud sylwadau craff, greu argraff dda iawn arnaf.
Imi dyna oedd y cadarnhad ein bod yn parhau i ddenu siaradwyr ardderchog ar faterion cyfoes, megis diwygiadau arfaethedig i'r gyfraith o ran Deddf Cymrodeddu 1996, rôl AI wrth ddatrys dadleuon a dethol materion mewn perthynas â'r Gyfraith.
Rwy'n ddiolchgar i'r holl gydweithwyr hynny a gymerodd ran ac i'm cydweithwyr, yn enwedig Angie Nicholas, Lyn Ryland a Dean Richards, am eu cymorth. Hoffwn fynegi fy niolchgarwch i Informa Law am noddi'r digwyddiad a chytuno i gyhoeddi'r trafodion mewn fformat llyfr yn 2024. Bellach bydd gan y siaradwyr 3 mis i loywi eu papurau a bydd y trafodaethau a gynhaliwyd yn ystod y digwyddiad yn eu helpu'n fawr wrth wneud hynny."