
Y GYFRAITH YN ABERTAWE'N CYRRAEDD EI SAFLE GORAU ERIOED YN NHABLAU PRIFYSGOLION Y BYD 2025
Y Gyfraith yn Abertawe'n cyrraedd ei safle gorau erioed yn Nhablau Prifysgolion y Byd 2025.
Mae Ysgol y Gyfraith Abertawe'n parhau â'i chynnydd cyson yn nhablau prifysgolion ac mae yn y 125 o safleoedd uchaf yn Nhablau Prifysgolion y Byd 2025 sydd newydd gael eu cyhoeddi. Caiff y tablau eu cynhyrchu gan ddefnyddio methodoleg sy'n cynnwys 18 o ddangosyddion perfformiad sy'n mesur perfformiad ysgolion y gyfraith ar draws pum maes: addysgu, yr amgylchedd ymchwil, ansawdd ymchwil, diwydiant a rhagolygon rhyngwladol. Mae'r llwyddiant hwn yn dilyn Ysgol y Gyfraith yn cyrraedd y 150 safle yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS ddwy flynedd yn olynol yn 2023 a 2024.
Dyma a ddywedodd yr Athro Alison Perry, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, am y llwyddiant anhygoel hwn:
"Rwyf mor falch gweld Ysgol y Gyfraith yn cyrraedd safle gwych yn y 125 gorau yn y byd yn y tablau cynghrair o fri hwn. Yn Abertawe, yn ogystal â darparu ymchwil sydd wedi'i chydnabod yn rhyngwladol, rydym yn cynnig rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig â'r nod o baratoi ein myfyrwyr i ymuno ag amgylchedd proffesiynol sy'n datblygu'n gyflym. Mae galw mawr am ein myfyrwyr gan gyflogwyr yn y DU ac yn rhyngwladol. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i fy nghydweithwyr am eu hymrwymiad i Ysgol y Gyfraith yn Abertawe, i'n myfyrwyr ac i'r gyfraith fel disgyblaeth.”