Ar 17 ac 18 Mai, trefnodd y Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol weithdy wyneb yn wyneb, a ariannwyd gan Gymdeithas yr Ysgolheigion Cyfreithiol (SLS) ar "Diogelu Pobl Ddiamddiffyn ar y Môr".
Prif amcan y digwyddiad oedd myfyrio ar y fframwaith cyfreithiol rhyngwladol presennol sy'n berthnasol i ddiogelu pobl ddiamddiffyn ar y môr, yn ogystal â nodi bylchau a diffygion yn hynny o beth.
Yn gysylltiedig â hyn, archwiliodd y gweithdy sut gallai’r fath fylchau a gwendidau yn y gyfraith o ran diogelu pobl ddiamddiffyn ar y môr (h.y. cyfraith hawliau dynol a chyfraith y môr) gael eu hunioni.
Cafwyd cyfraniadau gan lawer o bobl ag enw o fri yn y maes ar gyfer y digwyddiad. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Dr Lia Amaxilati, (yr IISTL, Prifysgol Abertawe),
- Yr Athro Richard Barnes (Prifysgol Lincoln/Prifysgol Tromsø),
- Yr Athro Richard Collins (Prifysgol y Frenhines Belffast),
- Yr Athro Edwin Egede (Prifysgol Caerdydd),
- Yr Athro Steven Haines (Prifysgol Greenwich),
- Mr Neil Henderson (Gard),
- Dr Richard L. Kilpatrick Jr. (Coleg Charleston),
- Dr Aphrodite Papachristodoulou (Prifysgol Galway),
- Yr Athro Irini Papanicolopulu (SOAS Prifysgol Llundain),
- Dr Mercedes Rosello (Prifysgol Leeds Beckett), a
- Dr Jessica Schechinger (Prifysgol Glasgow).
Cadeiriwyd y paneli gan yr arbenigwyr canlynol:
- Dr Richard Caddell (Prifysgol Caerdydd),
- Dr Youri van Logchem, (IISTL, Prifysgol Abertawe),
- Yr Athro Bariş Soyer (IISTL, Prifysgol Abertawe),
- Chris Whomersley CMG, a
- Syr Michael Wood CB (Siambrau Twenty Essex, Llundain).
Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, meddai'r Athro Soyer, (Cyfarwyddwr yr IISTL):
"Roedd y digwyddiad yn gyfle ardderchog i drafod y materion cyfreithiol cysylltiedig rhwng agweddau cyfraith ryngwladol gyhoeddus cyfraith forwrol a hawliau dynol. Rydym yn ddiolchgar i Gymdeithas yr Ysgolheigion Cyfreithiol am roi'r cyfle i ni gynnal y digwyddiad hwn a rhoi sylw i'r mater hwn.
Rydym hefyd yn ddiolchgar i Dr Youri van Logchem am ei arwain o safbwynt academaidd a sefydliadol.