Yn ddiweddar, croesawodd yr Athro Soyer, Cyfarwyddwr y Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (IISTL), ar y cyd ag aelodau eraill o’r IISTL, Dr Song (Rheolwr Gyfarwyddwr Cymdeithas Sicrwydd Cydfuddiannol Tsieina) a Mr Shufeng Cau (Rheolwr Swyddfa Llundain y Clwb) i Abertawe.
Roedd yr ymweliad yn gyfle i drafod ffyrdd posib o gydweithredu a chynlluniau a fydd o fudd i aelodau a myfyrwyr yr IISTL a Chymdeithas Sicrwydd Cydfuddiannol Tsieina. Cafodd Dr Song a Mr Cau gyfle hefyd i weld cyfleusterau blaengar Prifysgol Abertawe, gan gynnwys Clinig y Gyfraith arobryn a'r Ystafell Seiberddiogelwch.
Meddai'r Athro Soyer:
“Nod y Sefydliad yn y pen draw yw bod wrth wraidd ymarfer y gyfraith ac yswiriant a chynnig pont rhwng y byd academaidd a'r byd proffesiynol. Mae'r cyfarfod hwn, sy'n dilyn ymweliad a chytundeb â The International Group of Protection and Indemnity Clubs (IISTL), yn arwydd arall o gyfraniad blaenllaw'r IISTL at y byd morgludiant a masnach.”