Mae Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol yn dychwelyd i Abertawe am ei thrydedd flwyddyn, gan arddangos sut mae ymchwil gwyddor gymdeithasol yn dylanwadu ar fywyd pob dydd.
Mae rhaglen eleni'n cynnwys cymysgedd bywiog o ddigwyddiadau am ddim, o arddangosiadau ymdrochol a gweithdai rhyngweithiol i sgyrsiau gan arbenigwyr a gweithgareddau i'r holl deulu. Archwiliwch bynciau sy'n amrywio o iechyd menywod a brandio personol i atgyweirio offer technoleg, diogelwch cymunedol a rôl cŵn mewn addysg.
P'un a ydych chi'n chwilfrydig am faterion cymdeithasol, yn awyddus i ddatblygu sgiliau newydd, neu'n edrych am ddiwrnod allan sy’n llawn ysbrydoliaeth, mae'r ŵyl yn cynnig rhywbeth at ddant pawb. Ymunwch â ni i ddathlu pŵer ymchwil i lywio, herio a chreu newid cadarnhaol.