Mae technoleg ddigidol wedi trawsnewid y ffordd rydyn ni'n byw, yn gweithio, yn chwarae ac yn rhyngweithio â'n gilydd. Fodd bynnag, mae pobl dros 65 oed wedi wynebu heriau wrth fabwysiadu'r technolegau hyn.
Mae tîm o academyddion o Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, niwro-wyddonydd ac arbenigwr heneiddio o Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd y Brifysgol, a chwmni technoleg lleol yn cydweithio i geisio deall yr heriau hyn yn well ynghyd â sut y gallant wneud dyfeisiau digidol yn fwy hygyrch i genedlaethau hŷn ac yn haws iddynt eu defnyddio.
Yn dilyn llwyddiant ein partneriaeth gydag Innovate UK Management Knowledge Transfer Partnership (M-KTP), yn ddiweddar, prosiect dwy flynedd â chyllid gwerth £143,000. Mae'r prosiect amlddisgyblaethol yn cyd â Sefydliad Awen. Nod yr astudiaeth hon yw datblygu ein dealltwriaeth o sut mae pobl oedrannus, a phobl sy’n byw gyda chlefydau sy’n gysylltiedig ag oedran, yn defnyddio technoleg ddigidol. Bydd y tîm o ymchwilwyr o feysydd amrywiol yn dod â safbwyntiau a mewnwelediadau unigryw i'r astudiaeth, a fydd yn gwella ansawdd yr ymchwil i'r pwnc pwysig hwn.
Mae nifer y bobl oedrannus yn tyfu'n gyflym. Mae'n wych bod technoleg yn gallu eu helpu i gadw mewn cysylltiad ag anwyliaid, cael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau pwysig, a pharhau yn annibynnol. Fodd bynnag, mae llawer o bobl oedrannus yn ei chael hi'n anodd defnyddio technoleg, a gall fod yn heriol iddyn nhw ddysgu sgiliau newydd ac addasu i ddyfeisiau newydd. Bydd yr astudiaeth yn ein helpu i ddeall pam bod hyn yn wir a beth y gellir ei wneud i'w cefnogi.
Bydd yr ymchwilwyr yn defnyddio cyfuniad o ddulliau meintiol ac ansoddol i gasglu data a thystiolaeth. Byddant yn gweithio gyda Sefydliad Awen, a busnesau bach a chanolig lleol ym maes technoleg, i ddatblygu technolegau ac offer newydd sy'n hygyrch ac yn hawdd i bobl oedrannus eu defnyddio. Bydd canlyniadau’r astudiaeth yn cyfrannu at lunio polisïau a rhaglenni newydd i gefnogi’r boblogaeth sy’n heneiddio wrth iddynt fabwysiadu technolegau digidol.
Mae'r cydweithrediad hwn rhwng yr Ysgol Reolaeth, y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, busnesau bach a chanolig lleol ym maes technoleg, a Sefydliad Awen yn gam sylweddol ymlaen yn yr astudiaeth o sut mae’r boblogaeth oedrannus yn mabwysiadu technoleg ddigidol. Bydd gan ganlyniadau'r astudiaeth oblygiadau pellgyrhaeddol wrth ddylunio a datblygu technolegau newydd a darparu gwasanaethau cymorth a hyfforddiant. Bydd y project cyffrous hwn yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i faes heneiddio a thechnoleg, ac yn helpu i wella bywydau pobl oedrannus.
I gloi, mae'r prosiect ar y cyd yn fenter flaengar a fydd yn ein helpu i ddeall yn well yr heriau a wynebir gan bobl oedrannus wrth ddefnyddio technoleg, a bydd yn cyfrannu gwybodaeth tuag at ddatblygu atebion newydd sy'n cefnogi eu hanghenion.
Mae'r project ymchwil cyffrous hwn yn gam i'r cyfeiriad iawn, ac edrychwn ymlaen at y canlyniadau gyda diddordeb mawr.
Ymchwilwyr: Dr Dan Rees, Dr Harry Bell, Mr Edward Miller, Dr Jeff Davies, Yr Athro Nick Rich a’r Athro Gareth Davies.
Partner Corfforaethol: CPR Global Tech ltd