Mae myfyrwyr sydd ar hyn o bryd yn astudio entrepreneuriaeth ac arloesedd yn yr Ysgol Reolaeth wedi bod yn cymryd rhan mewn Dydd Mawrth Masnach.
Mae Dydd Mawrth Masnach yn gyfle gwych i gwmnïau bach ein myfyrwyr sy’n astudio Entrepreneuriaeth Gymhwysol arddangos eu busnesau ar draws y Brifysgol.
Bob dydd Mawrth i ddod, fel rhan o ddatblygiad Dydd Mawrth Masnach, mae busnesau myfyrwyr a mwy i’w gweld y tu allan i’r Ysgol Reolaeth, Campws y Bae, neu Dŷ Fulton, Campws Singleton.
“Rydym mor falch o’n myfyrwyr entrepreneuriaeth gymhwysol. Mae pob un ohonynt wedi gweithio’n galed tu hwnt i sicrhau bod eu busnes yn llwyddiant. Rydym i gyd yn ddiolchgar iawn am waith caled a chefnogaeth Angus Phillips yn y tîm Menter a Gwyneth Thomas mewn Ystadau am helpu i wireddu Dydd Mawrth Masnach.” Corina Edwards
Cadwch lygad allan am fusnesau bach newydd canlynol y myfyrwyr ar y campws:
Enw’r Busnes |
Busnes |
Arall |
Sir Benjamin's LTD |
Trîts organig i gŵn |
Facebook - @sirbenjamins Instagram - the_sir_benjamins |
Ileki |
Brand dillad |
Gwefan - ilekiofficial.com Facebook - @ilekiofficial Instagram - Ileki_official |
Pandad Pets Ltd |
Basgedi nwyddau maldod |
Facebook - @PandadPets Instagram - pandadpets Tiktok - pandadpets1 |
Pendragon Boxing |
Menig bocsio |
Facebook - @pendragonboxing Instagram - @pendragonboxing Tiktok - @pendragonboxing |
Kambu |
Brand offer awyr agored |
Gwefan : Kambu.co.uk Tiktok @kambu.co.uk |
Grid Slot Clothing |
Dillad chwaraeon modur |
Gwefan - Grid Slot Clothing |
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Corina Edwards C.J.Edwards@Swansea.ac.uk