Llongyfarchiadau mawr i Dr Mohamed Elmagrhi, y mae ei waith a gyhoeddwyd yn International Journal of Auditing ymhlith y papurau a ddyfynnir amlaf, gan gael effaith uniongyrchol yn y gymuned.
Mae gan Dr Mohamed Elmagrhi, sy’n Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifeg, ddiddordebau ymchwil parhaus mewn cyfrifeg, llywodraethu, atebolrwydd a moeseg. Yn benodol, mae ei ymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar yr angen i sefydliadau yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus arddangos atebolrwydd, tryloywder a gwerth am arian, i grwpiau gwahanol o randdeiliaid (e.e. trethdalwyr a’r cyhoedd).
Mae wedi cyhoeddi’n eang mewn cyfnodolion rhyngwladol blaenllaw a adolygir gan gymheiriaid (ABS 4* a 3*) megis Work Employment and Society, Accounting Forum, British Accounting Review, Business Strategy and the Environment, European Management Review, International Journal of Auditing, Journal of International Accounting, ac Auditing and Taxation, ymhlith eraill.
“Rwyf wrth fy modd bod fy ngwaith yn International Journal of Auditing a Business Strategy and the Environment wedi cael ei gydnabod ymhlith eu papurau a ddyfynnwyd amlaf, ac wedi cael effaith uniongyrchol yn ein cymuned. Yn wir, mae fy ngwaith ym meysydd cyfrifeg, llywodraethu, atebolrwydd a moeseg wedi canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth empirig a damcaniaethol drwyadl, gan arwain at effeithiau ymarferol, proffesiynol ac o ran polisi. Mae’r wobr hon yn cymeradwyo’r dull ymchwil hwn.” Dr Mohamed Elmagrhi