Dydd Mawrth 20 Mehefin 2023, 09:45-15:30
(Ail)Diffinio Cynwysoldeb: Bywydau gwaith mewn byd ar ôl Covid
Mae'n bleser gan y Ganolfan Pobl a Threfniadaeth groesawu'r Athro Debbie Foster a fydd yn rhannu ei gwaith ar brofiadau byw pobl anabl yn y farchnad lafur ac ar yrfaoedd pobl anabl fel grŵp ymylol mewn galwedigaethau proffesiynol. Athro Cysylltiadau Cyflogaeth ac Amrywiaeth yw Debbie, yn Ysgol Fusnes Caerdydd ac, ym mis Ionawr 2023, cafodd ei henwi gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru'n un o 100 o 'Newidiwyr' ("Changemakers") am ei gwaith fel Cyd-gadeirydd (ar y cyd â Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol) ar Dasglu Hawliau Anabledd Llywodraeth Cymru.
Fel a fu mewn blynyddoedd blaenorol, bydd y symposiwm hefyd yn rhannu'r ymchwil a'r ymarfer diweddaraf gan academyddion ac ymarferwyr, yn ogystal â'n myfyrwyr PhD. Bydd y digwyddiad yn gyfle i drafod y cyfleoedd a'r heriau gysylltiedig â bod yn weithle sy'n wirioneddol gynhwysol yn y byd ar ôl Covid.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu ar 20fed Mehefin. Rhaid cadw lle ymlaen llaw a darperir cinio.