Yn ystod mis Tachwedd, aeth myfyrwyr o Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe ar daith anhygoel i safle Tata Steel UK ym Mhort Talbot.
Mae'r lleoliad diwydiannol blaenllaw hwn yn ne Cymru wedi bod yn un o gonglfeini'r rhanbarth ers iddo agor. Rhoddodd yr ymweliad gipolwg uniongyrchol ar galon fyw Cymru a chysylltiad emosiynol ag oes a fu.
Mae safle Tata Steel UK ym Mhort Talbot, sy'n weladwy o lawer o fannau addysgu ar Gampws y Bae, wedi bod yn enghraifft eglurhaol o wersi rheoli adnoddau dynol ym Mhrifysgol Abertawe ers amser hir. Daethpwyd ag arwyddocâd y safle'n fyw i fyfyrwyr yr MSc Rheoli Adnoddau Dynol wrth iddynt weld y prosesau cymhleth sy'n defnyddio deunyddiau craidd i gynhyrchu’r dur sy'n rhan annatod o fywyd yn ne Cymru.
Creodd y profiad dwys argraff annileadwy ar y myfyrwyr, a swynwyd gan olygfeydd a seiniau'r broses cynhyrchu dur.
Fodd bynnag, yr hyn a greodd yr argraff fwyaf oedd sylweddoli bod Tata Steel UK yn cael ei ddiffinio gan y bobl ymroddedig sy'n bywiogi'r diwydiant, yn ogystal â'i gynhyrchion dur. O safbwynt ymarferwyr ac academyddion adnoddau dynol, mae pwysigrwydd pobl i sefydliad yn gred sylfaenol, ond gall cyfleu'r neges hon fod yn heriol, yn enwedig yng nghyd-destun trafodaethau parhaus am ddisodli swyddi â deallusrwydd artiffisial.
Er gwaethaf y datblygiadau technolegol sy'n lleihau nifer y gweithwyr y mae eu hangen ar brosesau penodol, dysgodd y myfyrwyr fod Tata Steel UK yn dal i fod yn hynod ddibynnol ar weithlu sy'n falch o'i gyfraniadau. Gwnaeth y tywysydd am y diwrnod, Bob Emmett, sy'n meddu ar fwy na 50 mlynedd o brofiad yn y diwydiant dur, bontio'r gorffennol a'r presennol i'r myfyrwyr, gan ymgorffori'r balchder a'r wybodaeth sy'n nodweddiadol o Tata Steel UK.
Cafodd y neges ei hatgyfnerthu yn ystod sesiwn gyda Tuesday Ibbotson MCIPD, Rheolwr Adnoddau Dynol Rhanbarthol Tata Steel UK. Trafododd Tuesday y cysylltiad rhwng damcaniaeth ac ymarfer mewn modd deheuig, gan amlygu sut mae ymarferion adnoddau dynol yn ganolog i gynnal diwylliant o ddiogelwch sy'n parchu natur unigryw pob cyflogai yn wyneb heriau newidiol i'r gweithlu.
Rhaid rhoi cydnabyddiaeth arbennig i Morgan Livingstone am drefnu'r diwrnod trawsnewidiol hwn. Mae llwyddiant yr ymweliad yn brawf o'r cydweithrediad a'r ymdrech a sicrhaodd fod y myfyrwyr wedi cael profiad cynhwysfawr a buddiol ar safle Tata Steel UK ym Mhort Talbot. Wrth i'r diwrnod eithriadol hwn dreiddio i'r cof, mae gan y myfyrwyr ddealltwriaeth fwy dwys o'r elfen ddynol sy'n tanategu'r diwydiant dur a chyfraniad hollbwysig arferion adnoddau dynol at gynnal yr elfen honno.
A ydych yn chwilfrydig am effaith arferion sy'n ymwneud â phobl ar ddyfodol gwaith? Ceir rhagor wybodaeth drwy fynd i dudalen ein cwrs MSc Rheoli Adnoddau Dynol.