Mae Prifysgol Abertawe'n falch o gyhoeddi enillwyr y Gwobrau Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu eleni.
Mae'r gwobrau uchel eu bri'n cydnabod ac yn dathlu ymdrechion eithriadol aelodau staff sydd wedi cael effaith sylweddol ar brofiad dysgu myfyrwyr. Mae Bryan Collings, Jafar Ojra, Helen Williams, a Sarah Owens o'r Ysgol Reolaeth, ymysg yr enillwyr clodwiw.
Caiff Gwobrau Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu (ELTA), Cymorth Myfyrwyr (ESSA) ac Addysgu mewn Tîm (ETTA) Abertawe eu cyflwyno bob blwyddyn i addysgwyr sydd wedi dangos ymrwymiad ac ymroddiad rhagorol i feithrin amgylchedd dysgu cadarnhaol a meithringar i'w myfyrwyr.
Er mwyn cael eu hystyried am y gwobrau hyn, rhaid i enillwyr gael eu henwebu gan o leiaf ddau fyfyriwr yn gyntaf. Ar ôl i'r enwebiadau gael eu casglu, cânt eu gwerthuso'n ofalus gan banel sy'n cynnwys cynrychiolwyr o adrannau academaidd a gweinyddol amrywiol, gan gynnwys Undeb y Myfyrwyr. Roedd y panel eleni'n cynnwys cymeriadau blaenllaw megis yr Athro Deborah Youngs, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Addysg, ac Esyllt Rosser, Llywydd Undeb y Myfyrwyr.
Roedd gan y panel eleni'r dasg heriol o ddewis 15 addysgwr eithriadol o blith rhestr o enwebiadau hynod gymeradwy ledled y Brifysgol. Mae'r gwobrau'n ceisio cyflawni sawl amcan allweddol, gan gynnwys cydnabod yn gyhoeddus y pwyslais y mae Prifysgol Abertawe'n ei roi ar ansawdd y cymorth dysgu ac addysgu, annog arferion myfyriol ymhlith y staff a chynnig llais sylweddol i fyfyrwyr wrth benderfynu ar enillwyr yr anrhydedd uchel ei fri hwn.
Mynegodd Bryan Collings, un o enillwyr y gwobrau, ei ddiolchgarwch a'i wyleidd-dra, gan gydnabod bod cyfranogiad gweithredol y myfyrwyr yn un o'r ysgogiadau a oedd yn gyfrifol am lwyddiant cydweithrediad ei ddosbarth. “Mae'n glod i'r myfyrwyr fod eu cyfranogiad wedi arwain at brofiad mor gadarnhaol i ni i gyd,” meddai.
Roedd Dr Helen Williams, enillydd haeddiannol arall, yn hynod emosiynol am y gydnabyddiaeth a roddwyd iddi. “Mae derbyn gwobr a enwebwyd gan fyfyrwyr fel yr un hon yn destun balchder gwirioneddol. Mae'n gwneud yr holl waith caled sy'n cael ei wneud yn y cefndir yn werthfawr,” datganodd. Yn ogystal, pwysleisiodd bwysigrwydd gwaith tîm a'r cymorth y mae'n ei dderbyn gan ei chydweithwyr, gan nodi bod gan bob myfyriwr, ni waeth am ei gefndir, y potensial i gael effaith gadarnhaol ar y byd drwy addysg.
Mae Gwobrau Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu Abertawe'n dangos ymroddiad a brwdfrydedd staff y Brifysgol wrth feithrin twf a datblygiad deallusol eu myfyrwyr. Drwy eu hymrwymiad diwyro i ragoriaeth, mae'r addysgwyr hyn wedi creu argraff annileadwy ar fywydau eu myfyrwyr ac wedi cyfrannu at fri cyffredinol Prifysgol Abertawe fel canolfan rhagoriaeth academaidd.
Llongyfarchiadau unwaith eto i holl enillwyr y Gwobrau Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu. Mae eu cyfraniadau canmoladwy'n ysbrydoli ac yn ysgogi cymuned gyfan y Brifysgol i ymdrechu i gyflawni mawredd wrth geisio gwybodaeth a rhagoriaeth addysgol.