Image of Andema Victoire Vunanga

Andema Victoire Vunanga

Gwlad:
Democratic Republic of Congo
Cwrs:
MSc Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd

Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe (y ddinas/yr ardal)?

  1. Traethau
  2. Lleoliad: cysylltiadau trafnidiaeth da
  3. Golygfeydd naturiol

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?

Dewisais i Brifysgol Abertawe oherwydd yr enw da academaidd cryf sydd ganddi ar gyfer iechyd y cyhoedd a'i hymrwymiad i degwch iechyd byd-eang. Gwnaeth diwylliant dysgu a phroffil rhyngwladol y brifysgol fy nenu hefyd. Yn ogystal â'r rhaglen academaidd ardderchog, mae amgylchedd arfordirol hardd Abertawe, gyda thraethau a mannau agored, yn lle gwych i fyfyrio ac astudio.  Dwi wir yn teimlo bod gan Abertawe gyfuniad gwych o ragoriaeth academaidd ac ansawdd bywyd.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?

Fy hoff agwedd ar y cwrs yw ei ymagwedd ymarferol a byd-eang at iechyd y cyhoedd. Dwi'n gwerthfawrogi sut mae'r modiwlau'n cyfuno damcaniaeth â chymwysiadau yn y byd go iawn.  Mae'r cwrs yn annog meddwl yn feirniadol am anghydraddoldebau iechyd ac mae'n rhoi'r offer i mi ddylunio ymyriadau sy'n berthnasol o ran diwylliant a chyd-destun; sgiliau sy'n uniongyrchol berthnasol i fy ngwaith mewn lleoliadau heb lawer o adnoddau ac wedi'u heffeithio gan wrthdaro. Dwi hefyd yn gwerthfawrogi'r amgylchedd academaidd cefnogol a'r cyfle i ddysgu gan gymheiriaid sydd â phrofiadau rhyngwladol amrywiol.

Beth rydych chi'n bwriadu ei wneud ar ôl i chi raddio?

Ar ôl i mi raddio, dwi'n bwriadu dychwelyd i Weriniaeth Ddemocrataidd Congo i ddefnyddio'r sgiliau a'r wybodaeth dwi wedi'u datblygu i gryfhau systemau iechyd mewn ardaloedd yr effeithiwyd arnynt gan wrthdaro a thlodi. Dwi'n gobeithio canolbwyntio ar iechyd a maeth plant, drwy weithio gyda sefydliadau lleol a rhyngwladol i ddatblygu ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill? Pam?

Byddwn i'n bendant yn argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill heb amheuaeth. Cefais syndod faint o gymorth academaidd sydd ar gael i fyfyrwyr a'u gallu i gymhwyso cynnwys y cwrs i sefyllfaoedd iechyd cyhoeddus go iawn. Mae gan y brifysgol gymuned ryngwladol groesawgar sy'n eich cyflwyno i ddiwylliannau newydd ac mae'n dathlu amrywiaeth a chydweithio.

Ydych chi cymryd rhan mewn tîm chwaraeon, clwb a/neu gymdeithas ym Mhrifysgol Abertawe?

Ydw, rwy'n aelod o'r Undeb Cristnogol ym Mhrifysgol Abertawe, lle dwi'n cymryd rhan mewn digwyddiadau amrywiol, gan gynnwys teithiau a digwyddiadau cymdeithasol. Hefyd dwi’n gwirfoddoli, sydd wedi rhoi'r cyfle i mi ymgysylltu â'r gymuned leol a chyfrannu at achosion da y tu hwnt i'm hastudiaethau academaidd. Mae'r profiadau hyn wedi rhoi'r cyfle i mi feithrin cysylltiadau, datblygu sgiliau arweinyddiaeth a chreu effaith gadarnhaol.

Ydych chi wedi defnyddio'r gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe?

Ydw, yn enwedig yn ystod cyfnod anodd i mi o ran y sefyllfa yn fy ngwlad enedigol. Roedd y brifysgol yn arbennig o gefnogol a chefais y cymorth yr oedd ei angen arnaf, gan fy helpu i ddelio â'r heriau a pharhau â'm hastudiaethau heb deimlo fy mod yn cael fy llethu.

Os yn berthnasol, pa gyfleusterau rydych chi wedi mwynhau eu defnyddio fel rhan o'ch cwrs a pham?

Dwi'n mwynhau defnyddio'r llyfrgell a'r mannau astudio yn y brifysgol fel rhan o fy nghwrs. Mae'r llyfrgell yn lle gwych i weithio mewn amgylchedd tawel gydag adnoddau gwych i gynnal ymchwil neu astudio. Mae'r adnoddau digidol hefyd wedi bod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer cyrchu cyfnodolion a chyhoeddiadau academaidd. Dwi hefyd wedi defnyddio'r gwasanaeth iechyd ar y campws.