
Chris Bachoke
- Gwlad:
- Democratic Republic of Congo
- Cwrs:
- MA Rhyfel a Chymdeithas
Pam dewisaist ti astudio dy radd yn Abertawe?
Oherwydd ei bod ymhlith y prifysgolion gorau yn y DU, gan gynnig enw da academaidd cryf. Roedd proffiliau ac arbenigedd y darlithwyr ar gyfer fy nghwrs wedi creu argraff arbennig arnaf, a roddodd hyder i mi yn ansawdd yr addysg y byddwn i'n ei derbyn. Yn ogystal, roedd y tîm derbyn myfyrwyr yn gyflym, yn gefnogol ac yn hyblyg drwy gydol fy mhroses ymgeisio, gan wneud y profiad yn ddidrafferth ac yn groesawgar. Ar ben hynny, mae Abertawe'n adnabyddus am fod yn ddinas fwy fforddiadwy o'i chymharu â llawer o ddinasoedd eraill yn y DU.
Beth yw dy hoff beth am dy gwrs?
Mae'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â realiti gwrthdaro arfog yn fy ngwlad i yn ogystal â llawer o genhedloedd eraill y mae gwrthdaro'n effeithio arnynt. Diolch i'r ffocws hwn, roeddwn i'n gallu cael mewnwelediadau gwerthfawr a dealltwriaeth ddyfnach o ddeinameg hanesyddol, gwleidyddol a chymdeithasol rhyfel.
Beth rwyt ti'n bwriadu ei wneud ar ôl i ti raddio?
Rwy'n bwriadu rhoi ar waith yr wybodaeth a'r profiad rydw i wedi'u hennill drwy weithio'n agos gydag arweinwyr a chymunedau lleol i hyrwyddo addysg a chodi ymwybyddiaeth. Fy nod yw trefnu gweithdai rhwng rhieni a myfyrwyr am lafur plant, hawliau plant a menywod, ac ehangu ymgyrchoedd rhoi i gefnogi dioddefwyr ifanc gwrthdaro yn fy ngwlad. Yn y tymor hir, rwy' am ddylanwadu ar bolisïau taleithiol a chenedlaethol, ymgysylltu â chyrff rhyngwladol i frwydro yn erbyn torri hawliau dynol, a grymuso pobl ifanc a menywod i hyrwyddo newid cadarnhaol.
Fyddet ti'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill? Pam?
Mae ansawdd yr addysgu, y staff cefnogol a'r amgylchedd croesawgar yn gwneud Prifysgol Abertawe'n ddewis ardderchog.
A wnest ti gymryd rhan mewn tîm chwaraeon, clwb a/neu gymdeithas ym Mhrifysgol Abertawe?
Do, ces i'r cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, gan gynnwys pêl-droed, crefft, gwylio ffilmiau, ac ati. Drwy gymryd rhan yn y pethau hynny, roedd modd i mi gwrdd â phobl newydd, rhannu profiadau a meithrin sgiliau gwaith tîm ac arweinyddiaeth. Hefyd, mae'n ffordd wych o gydbwyso bywyd academaidd â rhyngweithiadau cymdeithasol a chadw mewn cysylltiad â'r gymuned.
Wyt ti wedi defnyddio'r gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe?
Ydw, yn ystod fy mlwyddyn academaidd, dechreuodd gwrthdaro arfog yn fy ngwlad, a daeth gwrthryfelwyr i rym yn fy nhref enedigol. Gwnaeth y sefyllfa hon effeithio'n ddwfn ar fy lles, gan ei gwneud hi'n anodd canolbwyntio, oherwydd fy mod i'n poeni am fy nheulu. Ar ôl siarad â'm tiwtor, cefais fy nghyflwyno i un o'r tîm cymorth myfyrwyr, a roddodd arweiniad rheolaidd, cymorth moesol, ac amgylchiadau esgusodol ar gyfer fy aseiniadau. Gwnaeth eu cymorth amhrisiadwy wir fy helpu i barhau a llwyddo yn fy astudiaethau. Rydw i mor ddiolchgar am hynny.
Os yn berthnasol, pa gyfleusterau wyt ti wedi mwynhau eu defnyddio fel rhan o dy gwrs a pham?
Rwyf wedi mwynhau'n fawr ddefnyddio cyfleusterau'r llyfrgell ym Mhrifysgol Abertawe. Yno mae ystod eang o adnoddau academaidd ac amgylchedd tawel er mwyn canolbwyntio ar astudio. Roedd y gliniaduron sy' ar gael i'w benthyca hefyd o gymorth mawr i mi, gan nad oeddwn i'n berchen ar gyfrifiadur personol. Mae'r cronfeydd data a'r e-lyfrau ar-lein yn ddefnyddiol iawn ar gyfer fy ymchwil a'm haseiniadau. Yn ogystal, roedd Taliesin yn lle gwych i mi. Roeddwn i'n mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau a drefnwyd ganddynt, canu'r piano wrth ymlacio, yn ogystal â chymdeithasu gyda chydweithwyr.
Wyt ti'n gallu siarad Cymraeg?
Dydw i ddim yn siarad Cymraeg am y tro, er bod gen i ddiddordeb mawr yn yr iaith a'i harwyddocâd diwylliannol. Rwy'n bwriadu dechrau ei dysgu i gyfoethogi fy mhrofiad o fyw yng Nghymru ac i'm helpu i gysylltu'n ddyfnach â'r gymuned a'r dreftadaeth leol.