Hondi Mushagasha

Hondi Mushagasha

Gwlad:
Democratic Republic of Congo
Cwrs:
MSc Rheoli (Busnes Cynaliadwy)

Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe (y ddinas/yr ardal)?

Mae Abertawe'n lle gwych i fyw ac astudio, mae'n hamddenol ac yn gyfeillgar, yn berffaith ar gyfer canolbwyntio ar eich gwaith heb ormod o drafferthion. Hefyd, mae ganddi draethau anhygoel a golygfeydd arfordirol hyfryd. Os ydych chi'n dwlu ar fyd natur, mae digonedd o fannau gwyrdd i'w harchwilio, o barciau fel Parc Singleton i hyfrydwch gwyllt Penrhyn Gŵyr a Bannau Brycheiniog sydd gerllaw. Mae awyrgylch hamddenol i fyfyrwyr yma yn Abertawe gyda llawer o leoedd gwych i ymlacio ynddynt.

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?

Mae Abertawe'n adnabyddus am ei rhagoriaeth academaidd, ac roedd ganddi raglen a oedd yn berffaith i mi, sef cyfuno busnes ag egwyddorion cynaliadwyedd i ddeall yr ymagwedd y mae cwmnïau'n ei chymryd i fynd i'r afael â galwadau cynaliadwyedd rydym yn eu hwynebu fel cymdeithas heddiw. Yn ogystal â hynny, mae Abertawe wedi bod yn brifysgol hynod gefnogol, o'r broses dderbyn i gyrraedd y campws, lefel o gymorth a wnaeth fyd o wahaniaeth ac yn un rwy'n parhau i elwa ohoni fel myfyriwr. Hefyd, mae gan Brifysgol Abertawe gyfradd gyflogaeth graddedigion gref, ynghyd â chymorth cyflogadwyedd sy'n hygyrch hyd yn oed ar ôl graddio. Yn olaf, mae fy rhaglen meistr hefyd wedi'i hachredu ar gyfer achrediad Lefel 7 CMI gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig, sy'n fantais arall ar gyfer y farchnad swyddi.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?

Fy hoff beth am fy nghwrs yw pa mor berffaith y mae'n cyfuno theori ag achosion o'r byd go iawn. Nid yw'r cwrs yn trafod cynaliadwyedd yn unig; mae'n eich tywys i ganol trafodaethau presennol wrth roi i chi offer ymarferol i ddeall a mynd i’r afael â’r heriau hyn. Nid siarad am fframweithiau'n unig rydym yn ei wneud ond yn eu cymhwyso nhw'n ymarferol, ac nid yw'r dysgu'n aros yn yr ystafell ddosbarth chwaith; mae'n dylanwadu ar sut byddwch yn gweld pob diwydiant yn y dyfodol.

Beth rydych chi’n bwriadu ei wneud ar ôl i chi raddio?

Ar ôl i mi raddio, rwy'n bwriadu dychwelyd i Weriniaeth Ddemocrataidd Congo a chymryd rhan yn yr ymdrech i drawsnewid diwydiannau allweddol y wlad drwy atebion cynaliadwy ac ymarferol. Bydd fy ffocws ar weithredu systemau ynni adnewyddadwy a chyflwyno modelau economi gylchol mewn amaethyddiaeth. Byddaf yn chwilio am rolau gyda chwmnïau ymgynghoriaeth gynaliadwyedd blaenllaw neu Fentrau Twf Gwyrdd newydd y llywodraeth lle gallaf ddefnyddio fy sgiliau arweinyddiaeth ardystiedig i ysgogi newid.

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill? Pam?

Yn bendant, byddwn yn argymell Prifysgol Abertawe heb amheuaeth. Mae ansawdd yr addysg yn rhagorol, gyda darlithwyr hynod gefnogol sydd bob amser ar gael i'ch helpu chi. Mae gan y brifysgol adnoddau gwych a gwasanaethau cymorth myfyrwyr cryf, sy'n cynnig cymorth cynhwysfawr i sicrhau llwyddiant academaidd a phersonol. Y cyfuniad hwn o ragoriaeth academaidd a gwir ofal am fyfyrwyr sy'n gwneud Abertawe'n unigryw.

A wnaethoch chi gymryd rhan mewn tîm chwaraeon, clwb a/neu gymdeithas ym Mhrifysgol Abertawe?

  • Llysgennad Academaidd i Fyfyrwyr
  • Y Gymdeithas Affricanaidd a Charibïaidd
  • Y Gymdeithas Ôl-raddedig
  • Y Gymdeithas Gyllid

Y Gymdeithas Fusnes