Hrisha Ramjee

Hrisha Ramjee

Gwlad:
De Affrica
Cwrs:
BSc Cyfrifeg a Chyllid

Pam y dewisaist ti Brifysgol Abertawe?

Un o'r prif resymau dewisais i Brifysgol Abertawe oedd y cwrs a oedd yn cael ei gynnig. Roeddwn i eisiau astudio Economeg a Chyllid ac roedd Prifysgol Abertawe yn un o'r prifysgolion a gynigiodd y ddau bwnc ar y cyd fel gradd. Yn ogystal, mae Prifysgol Abertawe yn cynnig llwybr blwyddyn mewn diwydiant a oedd o ddiddordeb i mi gan fy mod am gael profiad gwaith priodol drwy weithio mewn cwmni am flwyddyn.

Mae Prifysgol Abertawe'n cynnig amrywiaeth eang o glybiau a chymdeithasau, gan gynnwys y gymdeithas ddawns. Rydw i wedi bod yn dawnsio trwy gydol fy oes ac roeddwn i eisiau parhau i wneud hynny yn y brifysgol. Ymchwiliais i'r gymdeithas ddawns ym Mhrifysgol Abertawe a gwelais fod y gymdeithas yn cynnig amrywiaeth eang o arddulliau dawns a oedd o ddiddordeb i mi, o ddawnsio neuadd a dawnsio Lladinaidd i Hip Hop a Gymnasteg Rythmig. Ymaelodais â'r gymdeithas hon ar unwaith ar ôl dechrau yn y brifysgol ac rydw i wir wedi ei mwynhau hyd yn hyn!

Mae'r cymorth cyflogadwyedd y mae Prifysgol Abertawe yn ei gynnig yn anhygoel. Byddant yn eich helpu i gael swyddi, yn darparu arweiniad gyrfaol ac yn eich helpu chi gymaint â phosibl i gael y swydd rydych chi ei heisiau.

Yn olaf, mae lleoliad y brifysgol yn wych oherwydd bod un o'r campysau ger y traeth ac mae'r llall mewn parc. Felly, mae'r golygfeydd yn hyfryd, yn enwedig yn ystod y gwanwyn a'r haf oherwydd gallwch chi fynd i nofio yn y môr neu gerdded yn y parc a mwynhau'r amgylchoedd prydferth. Yn ogystal, mae ardaloedd arfordirol hyfryd y gallwch ymweld â nhw o amgylch Abertawe.

Wyt ti'n hapus gyda'th benderfyniad i astudio yn Abertawe?

Rwy'n hapus iawn gyda fy mhenderfyniad i astudio ym Mhrifysgol Abertawe gan fy mod wedi cael profiadau anhygoel hyd yn hyn! Rydw i wir yn mwynhau astudio ar gyfer fy ngradd ac rydw i wedi cael y cyfle i feithrin perthnasoedd agos â rhai o fy narlithwyr. Mae fy narlithwyr wedi bod yn hynod gymwynasgar gan fy mod i bob amser yn gallu anfon e-bost atynt i drefnu cyfarfod pe bai angen cymorth arna i.

Cwblheais fy mlwyddyn mewn diwydiant fel Cynorthwy-ydd Cyflogadwyedd a Lleoliadau Gwaith i'r Tîm Cyflogadwyedd yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol yn y Brifysgol. Mwynheais fy lleoliad gwaith yn fawr iawn, ac yn bendant dyma oedd fy mlwyddyn orau yn y Brifysgol hyd yn hyn. Cefais lawer o brofiadau drwy gydol fy lleoliad gwaith lle enillais sgiliau newydd a chefais y cyfle i feithrin sgiliau presennol. Cwblheais dasgau a oedd yn fy ngalluogi i dyfu fel person ac yn mynd â mi allan o'm parth cysur.

Roeddwn yn ddigon ffodus i gael nifer o gyfleoedd a ehangodd fy rhwydwaith yn enwedig gyda gweithwyr mewn cwmnïau mawr a sefydliadau ariannol eraill fel HSBS, Aldermore Bank a Deloitte. Bydd hyn yn fuddiol wrth chwilio am swyddi i raddedigion yn fuan. Roedd blwyddyn fy lleoliad gwaith yn rhyfeddol, a dydw i ddim yn difaru gwneud blwyddyn ar leoliad gwaith gan fy mod wedi dysgu cymaint ac wedi ennill profiad gwerthfawr a fydd yn fy helpu mewn sawl ffordd.

Mae Prifysgol Abertawe wedi rhoi cyfleoedd gwaith a rolau ychwanegol i mi. Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i gael fy nerbyn i fod yn fyfyriwr llysgennad, yn gynrychiolydd ysgol ac yn gynrychiolydd myfyrwyr. Yn sgîl y rolau hyn, cefais gyfle i ddysgu, tyfu a datblygu fy sgiliau rhyngbersonol a throsglwyddadwy.