Delwedd o Jill Charmaine Sumter

Jill Charmaine Sumter

Gwlad:
Suriname
Cwrs:
LLM Cyfraith Olew, Nwy ac Ynni Adnewyddadwy

Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe (y ddinas/ardal)?

  1. Natur
  2. Cynhesrwydd y bobl
  3. Y Gymuned

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?

Dim ond yn ddiweddar mae Suriname yn datblygu dyddodion olew oddi ar yr arfordir; oherwydd hyn penderfynais gamu i'r sector gan osod fy hun ar wahân yn seiliedig ar arbenigedd yn y diwydiant. O'r fan honno, dechreuais edrych ar brifysgolion a'r cyrsiau ar Olew a Nwy a'r hyn y gallwn ei ennill.

Dewisais Abertawe oherwydd strwythur y cwrs, y cysylltiadau â'r diwydiant ac arbenigedd Ysgol y Gyfraith. Ar ben hynny edrychais hefyd ar nifer yr atyniadau oedd gan y ddinas, a chlywais fod y bobl Gymreig a Gwyddelig yn bobl gyfeillgar iawn (sydd wedi bod yn wir).

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?

Y ffordd mae'r darlithwyr yn hawdd iawn mynd atynt ac ar gael i helpu y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Roedd y mentora o'r radd flaenaf.

Beth rydych chi’n bwriadu ei wneud ar ôl i chi raddio?

Dychwelyd i Suriname a gweithio gyda'r llywodraeth. Ar hyn o bryd rydw i'n gyflogedig fel pennaeth materion personél yn y Weinyddiaeth Chwaraeon. Ond gyda'r radd newydd hon dwi'n meddwl am newid i’r Weinyddiaeth newydd, Olew, Nwy a Materion Amgylcheddol.

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill? Pam?

100%. Rydw i'n ei hargymell i ysgolheigion eraill yn barod. Mae'r cymorth i fyfyrwyr mae Abertawe'n ei gynnig yn ardderchog.

Os yw’n berthnasol, pa gyfleusterau rydych chi wedi mwynhau eu defnyddio fel rhan o’ch cwrs a pham?

Y gampfa i leihau straen a'r teithiau a drefnwyd gan dîm Mynd yn Fyd-eang.