Daeth dros 250 o bobl i'r digwyddiad yn Neuadd Brangwyn, a chafwyd trafodaethau a syniadau craff yn y gynhadledd.

Ddydd Llun 27 Mehefin 2022, cymerodd y BioHYB Cynhyrchion Naturiol ran yn y Gynhadledd Adferiad Gwyrdd.

Daeth y digwyddiad diwrnod cyfan, a drefnwyd gan 4theRegion â busnesau ynghyd ar draws dinas a sir Abertawe i rwydweithio, dysgu a llunio cynllun gweithredu ar y cyd ar faterion hinsawdd ac amgylcheddol.

Mae 4TheRegion yn gynghrair o bobl, busnesau a sefydliadau ar draws de-orllewin Cymru, sy'n rhannu gweledigaeth i hyrwyddo dyfodol ar gyfer y rhanbarth sy'n gwella lles pobl a'r blaned.

Daeth dros 250 o bobl i'r digwyddiad yn Neuadd Brangwyn, a chafwyd trafodaethau a syniadau craff yn y gynhadledd.

Mae gwybodaeth o'r gynhadledd wedi cael ei nodi a'i choladu mewn fformat hygyrch gyda chamau gweithredu ar gyfer grwpiau o randdeiliaid amrywiol – yn Adroddiad Busnesau Gwyrdd Abertawe.

Thema Natur

Noddodd y BioHYB thema Natur y gynhadledd, gyda Rheolwr Prosiect y BioHYB, Dr Farooq Shah (ac Arbenigwyr Prifysgol Abertawe mewn Gwyddor Ddyfrol a Biotechnoleg Algaidd, yr Athro Kam Tang a Dr Alla Silkina) yn hwyluso trafodaethau am Natur a sut i gefnogi busnesau lleol i fabwysiadu arferion gwyrddach a mwy cynaliadwy i leihau'r defnydd o gemegau a'u hôl troed carbon.

Yn ogystal, trafododd Dr Shah sut gall y BioHYB gefnogi sector cynhyrchion naturiol rhanbarthol cynyddol drwy fentrau i hyrwyddo twf a datblygiad busnes; a chynnig cyfleoedd hyfforddi i greu gweithlu lleol medrus. Gallai mentrau o'r fath gyfrannu at greu mwy o gyfleoedd busnes a chyflogaeth; a mwy o ffyniant yn yr ardal, wrth fynd i'r afael â materion amgylcheddol.

Roedd Prifysgol Abertawe hefyd yn gallu arddangos enghreifftiau o sut mae ymchwil a datblygiad presennol eisoes yn cyfrannu at ddyfodol gwyrddach a mwy gwydn, megis biotechnoleg algaidd - y defnydd o ficroalgâu i ddal allyriadau CO2 ac i uwchgylchu gwastraff o ddiwydiannau.

Gwyliwch

Gwyliwch y fideo hwn o dîm y BioHYB yn trafod sut mae menter y BioHYB yn gallu cyfrannu at Adferiad Gwyrdd y Rhanbarth yma >>

Mae'r BioHYB Cynhyrchion Naturiol yn fenter ar y cyd sy'n cefnogi ymchwil, datblygiad a thwf busnes yn sector cynhyrchion naturiol y rhanbarth. Mae'r fenter yn cynnig cyfle unigryw i gydweithio a chryfhau cysylltiadau presennol â diwydiant, busnesau a'r gymuned ehangach, a defnyddio arbenigedd academaidd i fanteisio ar botensial organeddau daearol a dyfrol ymhellach, heb gael effeithiau andwyol ar yr amgylchedd.

Mae cynnwys cynhwysfawr o drafodaethau'r gynhadledd, ynghyd â fideos amrywiol o'r digwyddiad, ar gael ar wefan 4theRegion:https://www.4theregion.org.uk/green-recovery-conference/

Rhannu'r stori