Nod fy ngwaith ymchwil yw nodi cynhyrchion naturiol bioactif newydd a gynhyrchir gan ffyngau sydd wedi datblygu mewn amgylcheddau cystadleuol.

Helô, fy enw i yw Dr Claudio Greco ac rwy'n gweithio ym maes cynhyrchion naturiol a gynhyrchir gan ffyngau.

Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn deall sut mae micro-organebau'n syntheseiddio'r moleciwlau cymhleth hyn a'u rôl ecolegol.  Gallai'r wybodaeth hon helpu i ddatrys problemau mawr megis ymwrthedd gwrthficrobaidd a sawl cymhwysiad yn y diwydiannau bwyd, agrocemegol a fferyllol.

Nod fy ngwaith ymchwil yw nodi cynhyrchion naturiol bioactif newydd a gynhyrchir gan ffyngau sydd wedi datblygu mewn amgylcheddau cystadleuol. Ni chynhaliwyd llawer o waith ymchwil ar y ffyngau hyn eto er bod ganddynt y potensial i gynhyrchu nifer o fetabolynnau eilaidd bioactif.

Rhaglen Ymchwil

 Mae gennyf dri nod trosgynnol yn fy rhaglen ymchwil:

(I) nodi cynhyrchion naturiol a gynhyrchir gan sawl rhywogaeth ffwngaidd ac ymchwilio i'w rôl biolegol ac ecolegol.

(II) Ymchwilio i fiosynthesis metabolynnau eilaidd.

(III) Datblygu ffyrdd newydd o actifadu clystyrau genyn biosynthetig.

Darganfyddiad gwrth-heintus o ecosystemau cystadleuol

{Ffotograff}

Ar hyn o bryd, rwy'n gweithio ar Gymrodoriaeth Ddarganfod BBSRC o'r enw 'Anti-infective discovery from competitive ecosystems’ a daw hon i ben ym mis Ebrill 2024. Prif ffocws y gymrodoriaeth yw Escovopsis weberi, ffwng ffilamentog pathogenig sydd wedi cyd-ddatblygu gyda morgrug deildorrol, eu ffyngau gardd Leucoagaricus gongylophorus, a'r bacteria cydymddibynnol Pseudonocardia. Er mwyn iddo sefydlu a goroesi yn y microbïom cymhleth hwn, mae E. weberi'n defnyddio metabolynnau eilaidd bioactif.

{Ffotograff}

Gwnaeth gwaith diweddar nodi rhai o'r cyfansoddion hyn ac wrth ddadansoddi'r genom gwelwyd nifer o glystyrau genyn biosynthetig ychwanegol sy'n awgrymu bod llu o fetabolynnau eilaidd cryptig yn dal yn aros i gael eu darganfod. Ar hyn o bryd, mae llawer o'r cyfansoddion gwerthfawr hyn allan o'n cyrraedd gan nad oes offer genetig wedi cael eu datblygu ar gyfer rhywogaethau Escovopsis.

Bydd y prosiect hwn yn gam tuag at nodi gwrthfiotigau newydd ac effeithiol a dangos ymhellach bwysigrwydd ymchwil i gynhyrchion naturiol wrth ddefnyddio ffyngau wedi'u hynysu o ecosystemau cymhleth. Bydd y canlyniadau hefyd yn cynnig dealltwriaeth well o ecosystem morgrug deildorrol ac yn cynnig offer cemegol a genetig a allai hefyd gael eu defnyddio ar gyfer microbïomau eraill.

Y BioHYB Cynhyrchion Naturiol

Mae Dr Claudio Greco'n rhan o dîm y  BioHYB Cynhyrchion Naturiol.  Mae'r BioHYB Cynhyrchion Naturiol yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe a Chyngor Dinas Abertawe i ddod â'r byd academaidd, byd diwydiant a'r gymuned ynghyd i gefnogi gwaith ymchwil, datblygu a thwf busnes sector cynhyrchion naturiol y rhanbarth.

Rhannu'r stori