Yn ddiweddar, cynhaliodd y BioHYB Cynhyrchion Naturiol gynhadledd ryngwladol o bwys ym Mhrifysgol Abertawe – gan ddod ag arbenigwyr mewn Rheoli Plâu yn Integredig (IPM) ynghyd i drafod ffyrdd newydd o leihau dibyniaeth ar blaladdwyr cemegol niweidiol.

Gwnaeth mwy na 130 o gyfranogwyr o ugain gwlad, gan gynrychioli 66 sefydliad lleol a rhyngwladol, gymryd rhan yn y digwyddiad, a'i enw oedd New IPM Symposium 2022.

Cafwyd cynrychiolwyr o bob sector sy'n rhan o'r maes, megis byd diwydiant, y byd academaidd a'r awdurdodau rheoleiddio.

Eu nod cyffredin yw lleihau'r defnydd o blaladdwyr wrth gynhyrchu bwyd er mwyn atal yr effeithiau cysylltiedig ar yr amgylchedd ac iechyd.

Gwaith IPM yw cyfuno natur a thechnoleg fodern i fynd i'r afael â phroblemau amgylcheddol byd-eang. Mae ceisiadau posib yn cynnwys:

*Datblygu ymwrthedd i blaladdwyr ymhlith plâu cnydau a gwrthfiotigau sy'n gwrthsefyll clefydau
*Mynd i'r afael â phlanhigion ymledol, megis clymog Japan, sy'n difrodi tai ac isadeiledd
*Lleihau'r defnydd o gemegau wrth gynhyrchu bwyd, a fyddai'n lleihau risgiau i iechyd a pherygl i lygru pridd a dŵr
*Mae ymagwedd gydweithredol amlasiantaethol wrth wraidd IPM ac mae gan Brifysgol Abertawe yr arbenigedd a'r gallu i ddod â phawb sy'n cymryd rhan ynghyd..

Trefnwyd y digwyddiad gan yr Athro Tariq Butt (Y Biowyddorau, Prifysgol Abertawe) a Dr Ian Baxter (IBMA UK).

Oriel Luniau

I weld oriel o'r holl luniau, ewch i:https://bit.ly/3MKjm9m

Dr Farooq Shah – Rheolwr Prosiect y BioHYB

Yn siarad am lwyddiant y digwyddiad, meddai Dr Farooq Shah:

"Mae mentrau megis y BioHYB Cynhyrchion Naturiol, sy'n dod â rhanddeiliaid amrywiol ynghyd (byd academaidd, diwydiant, llunwyr polisi a defnyddwyr) yn allweddol i gyflwyno potensial IPM ar gyfer diogelwch bwyd, lleihau effaith newid yn yr hinsawdd a thwf cynaliadwy technolegau arloesol.  Mae ymagweddau amlddisgyblaethol sy'n cynnwys cydweithio o ran ymchwil ar draws sectorau'n cynnig cyfleoedd i ddatblygu strategaethau arloesol a chost effeithiol ar gyfer IPM.

Mae IPM yn cynnig dewis amgen sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd ac yn gynaliadwy i leihau'r defnydd o gemegau niweidiol wrth gynhyrchu bwyd.Dangosodd y symposiwm New-IPM botensial asiantau rheoli biolegol yn arbennig ficro-organeb wrth reoli plâu pryfed o bwysigrwydd economaidd ac wrth hybu twf planhigion".

Siaradwyr

Meddai'r Athro Tariq Butt o Brifysgol Abertawe, cyd-drefnydd y gynhadledd:

"Mae'r ystod o siaradwyr yn dangos natur ryngddisgyblaethol IPM a'r angen taer am gydweithio ar ymchwil i ddatblygu rhaglenni arloesol sy'n creu New IPM yn ein byd heddiw gan nodi'r rhwystrau i ddatblygu a masnacheiddio.

Mae'r digwyddiad hwn yn enghraifft dda o sut mae'r BioHyb Cynhyrchion Naturiol newydd, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, yn gallu dod â sectorau gwahanol ynghyd.Roedd y gynhadledd hefyd yn gyfle gwych i gydweithwyr o Brifysgol Abertawe gan gynnwys Dr Farooq Shah, yr Athro Peter North, Dr Will Allen, Dr Ben Clunie, Alex Dearden, Dr Joel Loveridge, Pierre-Antoine Bourdan, a Dr Martyn Wood i arddangos eu harbenigedd a'u llwyddiannau ymchwil i gynulleidfa fyd-eang ac i atgyfnerthu a datblygu cyfleoedd newydd i gydweithio.”

Meddai Dr Ian Baxter o IBMA UK:

‘’Roedd IBMA UK yn falch o gael cyd-drefnu'r digwyddiad hwn gyda Phrifysgol Abertawe. Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn arbennig o heriol i ni i gyd, ond nid yw cyfradd mabwysiadu'r dechnoleg gan dyfwyr wedi arafu o ganlyniad i hyn – os rhywbeth, mae'r pwysau amlwg ar adnoddau wedi cyflymu'r broses hon.

Roedd hon yn eiliad berffaith i ddod ynghyd a chyfnewid gwybodaeth ar y datblygiadau diweddaraf o ran New IPM.’’

Y BioHYB Cynhyrchion Naturiol

Mae'r BioHYB Cynhyrchion Naturiol yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe a Chyngor Dinas Abertawe i ddod â'r byd academaidd, byd diwydiant a'r gymuned ynghyd i gefnogi twf busnes gwydn a dyfodol gwyrddach i bawb.  Mae'r BioHYB yn gweithio gyda Chymdeithas Cynhyrchwyr Bioreolaeth Ryngwladol (IBMA) i gynnal symposiwm NEW IPM ym mis Medi 2023 sy'n canolbwyntio ar gyfranogiad amlddisgyblaethol ac ar draws sectorau.

Rhannu'r stori