
Cyfle i roi llais ystyrlon i gwmnïau lleol a rhan i'w chwarae wrth bontio i ddulliau gwyrdd y rhanbarth.
Roedd tîm y BioHYB Cynhyrchion Naturiol yn falch o gael cefnogi'r Gynhadledd Adferiad Busnesau Gwyrdd ar 27 Mehefin 2022, a drefnwyd gan 4The Region - cynghrair o bobl, busnesau a sefydliadau ar draws de-orllewin Cymru, sy'n rhannu gweledigaeth i hyrwyddo dyfodol ar gyfer y rhanbarth sy'n hybu lles pobl a'r blaned.
Roedd yn gyfle i roi llais ystyrlon i gwmnïau lleol a chael chwarae rhan wrth i'r rhanbarth bontio i ddulliau gwyrddach. Daeth pobl a busnesau lleol ynghyd i greu cynllun gweithredu a rennir er mwyn cael dyfodol cynaliadwy a ffyniannus.
Bu Rheolwr Prosiect y BioHYB, Dr Farooq Shah ac Arbenigwyr Prifysgol Abertawe mewn Gwyddor Ddyfrol a Biotechnoleg Algaidd, yr Athro Kam Tang a Dr Alla Silkina yn hwyluso trafodaethau am y thema Natur a sut i gefnogi busnesau lleol i fabwysiadu arferion gwyrddach a mwy cynaliadwy i leihau'r defnydd o gemegau a'u hôl troed carbon.
Fel noddwr y thema 'Natur', cyflwynodd y BioHYB ffyrdd y gall gefnogi'r sector cynhyrchion naturiol rhanbarthol, drwy fentrau i hyrwyddo twf busnes a datblygiad a chynnig cyfleoedd hyfforddi i greu gweithlu lleol medrus - a fydd yn cyfrannu at sefydlu mwy o gyfleoedd busnes a chyflogaeth a gwella ffyniant yn yr ardal, wrth fynd i'r afael â materion amgylcheddol.
Roedd Prifysgol Abertawe hefyd yn gallu arddangos enghreifftiau o sut mae gwaith ymchwil a datblygu presennol eisoes yn cyfrannu at ddyfodol gwyrddach a mwy gwydn, megis biotechnoleg algaidd - y defnydd o ficroalgâu i ddal allyriadau CO2 ac uwchgylchu gwastraff o ddiwydiannau.
GWYLIWCH
Gwyliwch fideo o dîm y BioHYB yn trafod sut gall y fenter gyfrannu at Adferiad Gwyrdd y Rhanbarth yma >>