
Bydd y digwyddiad rhwydweithio'n canolbwyntio ar sefydlu consortia o arbenigedd rhyngddisgyblaethol ac offer arloesol i gyflymu'r gwaith o droi ymchwil yn ddatblygiadau cynnyrch a gwasanaethau newydd.
Bydd y digwyddiad hynod ddiddorol hwn, a arweinir gan y BioHYB Cynhyrchion Naturiol, yn archwilio cyfleoedd i ddatblygu cynhyrchion naturiol yn y diwydiannau cynhyrchion fferyllol, cosmetigau fferyllol a bwyd.
Mae cynhyrchion naturiol yn gyfansoddion a grëir o organeddau byw, gan gynnwys bacteria, ffyngau, algâu, planhigion a phethau eraill. Maen nhw'n ffynhonnell bwysig er mwyn cael diwydiannau cynhyrchion fferyllol, cosmetigau fferyllol a bwyd o safon. Cafwyd llawer o gynnydd wrth ddatblygu cynhyrchion naturiol, ond dim ond cyfran fechan iawn o botensial cynhyrchion naturiol sydd wedi cael ei harchwilio a'i hecsbloetio. Mae cynhyrchion naturiol yn allweddol er mwyn mynd i'r afael â heriau datrys yr argyfwng iechyd ac amgylcheddol presennol.
Mae'r datblygiadau diweddaraf mewn bioleg gyfrifiadol, deallusrwydd artiffisial ac ymchwil arbrofol ar raddfa fawr yn cynnig y cyfle i gyflymu datblygu cynnyrch drwy ecsbloetio synergeddau a photensial ar draws rhanddeiliaid amrywiol.
Ein Digwyddiad
Bydd y digwyddiad rhwydweithio hwn yn dod ag arbenigedd ynghyd o ymchwil ryngddisgyblaethol, diwydiant a'r sector cyhoeddus i greu consortia a gwella gallu ymchwil a datblygu ar y cyd. Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar y themâu allweddol canlynol:
1. Biochwilio am foleciwlau bioactif newydd o ffynonellau dyfrol a daearol nad ydynt yn cael eu hecsbloetio'n ddigonol
2. Echdynnu, puro ac egluro strwythur cyfansoddion bioactif
3. Llwyfannau presennol a rhai’r dyfodol ar gyfer bioddarganfod a sgrinio bioweithredu
4. Modelu cyfrifiadol ac ymagweddau deallusrwydd artiffisial at ymchwil i gynhyrchion naturiol
5. Systemau profi anifeiliaid a'r rhai nad ydynt yn profi ar anifeiliaid
6. Technolegau llunio a chymhwyso
7. Straeon llwyddiant (busnesau newydd a rhwydweithiau cydweithredol)
Cofrestru
Cynhelir y digwyddiad hwn dros ddeuddydd (dydd Mawrth 18 a dydd Mercher 19 Gorffennaf) ym Mhrifysgol Abertawe.
Gallwch gofrestru yn awr - ewch i'n gwefan Cynhyrchion Naturiol - Cyfleoedd sydd ar Ddod i gael mwy o fanylion.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu ym mis Gorffennaf!