
...
Gallwch gofrestru yn awr ar gyfer symposiwm NEW IPM 2023 – One Health rhwng 5 a 7 Medi 2023.
Ar gyfer yr ail flwyddyn yn olynol, mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei dewis i gynnal y digwyddiad mawr ei fri hwn, sy'n canolbwyntio ar raglenni arloesi newydd a rhaglenni sy'n cael eu datblygu ym maes IPM (Dulliau Integredig o Reoli Plâu).
Mae'r symposiwm, a arweinir gan y BioHYB Cynhyrchion Naturiol, yn cynnig cyfle unigryw i ymchwilwyr, technolegwyr a defnyddwyr glywed gan bobl eraill sy'n gweithio yn y maes a rhannu syniadau.
Gan fod cyswllt anorfod rhwng iechyd pobl, anifeiliaid a phlanhigion a'r amgylchedd, mae 'One Health' yn ymagwedd integredig ac unedig sydd â’r nod o gydbwyso a gwella iechyd pobl, anifeiliaid ac ecosystemau mewn ffordd gynaliadwy.
Nod rhaglenni IPM yw lleihau mewnbynnau plaladdwyr sy'n niweidiol i bobl a'r amgylchedd, ac o ganlyniad mae'r rhaglenni'n cyfrannu at weledigaeth fyd-eang 'One Health'.
Cynhelir y digwyddiad hwn dros dridiau (dydd Mawrth 5, dydd Mercher 6 a dydd Iau 7 Medi 2023) gyda chinio mawreddog (dydd Mercher 6ed) a derbyniad am ddim gyda'r hwyr sydd ar agor i bawb (nos Lun 4ydd).
Cyfraddau
Gwnewch yn fawr o'r gyfradd gynnar drwy gadw lle cyn diwedd mis Mehefin 2023!
Cyfradd Gynnar Cynhadledd Lawn = £300
Cyfradd Gynnar Diwrnod = £150
Cyfradd Gynnar Cinio Mawreddog = £50
Mae'r cyfraddau cynnar yn cynnwys taith AM DDIM i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddydd Llun 4 Medi ac yna fe gynhelir derbyniad gyda'r hwyr!
Cliciwch YMA i gofrestru.
Beth yw IPM?
Mae IPM (Dulliau Integredig o Reoli Plâu) yn ymagwedd sy'n seiliedig ar yr ecosystem er mwyn datrys problemau plaladdwyr wrth hefyd leihau'r risgiau i bobl a'r amgylchedd.
Mae enghreifftiau arloesol sy'n defnyddio technolegau modern yn cynnwys synwyryddion electronig, arolygwyr cnydau robotig a goleuadau ynni-isel yn y sector garddwriaethol. Nid yw'r 'ymagwedd uwch-dechnoleg hon' ar gyfer cnydau gwarchodedig yn unig, oherwydd fod technoleg drôn, delweddau lloeren a mapio maetholion yn newid y ffordd y mae ffermwyr tir âr a ffermwyr coed ffrwythau yn mynd i'r afael â phroblemau, drwy ddarparu lefel o wybodaeth fanwl, sydd bron yn ddiderfyn, ac sy'n helpu'r tyfwr mewn ffyrdd newydd a chyffrous.
Ein Digwyddiad
Nod ein digwyddiad yw cydnabod a lledaenu dulliau newydd cyffrous ac amlygu rhwystrau i ddatblygu a masnacheiddio.
Rydym yn cynnig platfform i ddod â'r bobl hynny sy'n rhan o'r gadwyn amaeth-fusnes ynghyd, i gyflwyno a thrafod arloesiadau newydd a sut maen nhw'n cael eu gweithredu wrth warchod cnydau. Mae'n gyfle unigryw sy'n dod â diwydianwyr ac ymchwilwyr blaenllaw ynghyd i rannu ymagweddau a phrofiadau yn y maes strategol hwn.
Bydd y sesiynau eleni'n cynnwys y pynciau canlynol:
1 IPM – ONE HEALTH gyda'r Athro Tariq Butt
2 One Health – Cynhyrchion a Strategaethau Newydd gyda Dr Farooq Shah (Prifysgol Abertawe, RAZBIO)
3 Plâu Pryfed a Monitro Fectorau
4 Cyfrwng Bioreolaeth Microbaidd – straeon llwyddiant
5 Dysgu Peirianyddol ac AI ar gyfer Rheoli Plâu Pryfed
6 Defnyddio Gwyddor Gyfrifiadol ar gyfer Rheoli Plâu
7 Cofrestru Macrobialau a'u Dyfodol
8 Microbau Amlswyddogaethol - Endoffytau, Symbylyddion Twf/Gwydnwch
9 One Health - Newid yn yr Hinsawdd
10 Gwneud Penderfyniadau a Chynllunio Hirdymor ar gyfer IPM Llwyddiannus gyda Dr Ian Baxter
11 Sesiwn i Gloi
Bydd mwy o wybodaeth i ddilyn dros yr wythnosau nesaf. Gallwch ddilyn hyn ar ein gwefan a'r cyfryngau cymdeithasol i gael mwy o fanylion.
Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi ym mis Medi!