Mae Dr James Courtney yn Ddarlithydd mewn Hydrogen ym Mhrifysgol Abertawe. Wedi canfod ei angerdd am wyddoniaeth amgylcheddol yn ifanc iawn, bu James yn gweithio gyda Hydrogen, Ynni ac Electrogemeg am bron 20 mlynedd cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe yn 2022.

Dywedwch wrthyf ychydig am eich rôl...

Rwy'n ddarlithydd mewn hydrogen yn yr Adran Peirianneg Gemegol ym Mhrifysgol Abertawe. Fy rôl i yw edrych ar dechnolegau hydrogen a sut i helpu cwmnïau a myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe i greu arloesedd llawn effaith drwy ymchwil, dysgu, sgiliau newydd, mentrau a rhwydweithio. Mae fy ymchwil yn ystyried deunyddiau allweddol ar draws cadwyn gwerth gyfan hydrogen.  I ddechrau mae hydrogen yn dibynnu ar lawer o fetelau gwerthfawr ar gyfer catalysis, boed hynny o ran cynhyrchu hydrogen neu droi hydrogen yn drydan. Mae ystyried sut i ailgylchu ac atgynhyrchu’r rhain yn agwedd bwysig wrth i ni geisio pontio i sero net.  Un o'm ffocysau yw edrych ar amgylchoedd llygredig a sut y gallwn eu hadfer nhw er budd economaidd.   Rwyf yn hyrwyddo prosiectau difyr i greu effaith ar sut rydym yn meddwl. Er enghraifft, mynd â slag haearn afraid a gweld a allwn ei adnewyddu i'w ffurf fetel a’i ddefnyddio fel catalydd ar gyfer cynhyrchu hydrogen. Mae hyn hefyd o fudd i'r amgylchedd gan ein bod ni wedi “ailddefnyddio” deunydd gwastraff. 

 

Pam hydrogen?

Rydw i wedi bod yn gweithio ym maes hydrogen am oddeutu 20 mlynedd. Gwnes i adeiladu dyfais hydrogen am y tro cyntaf yn fy ngarej pan oeddwn i'n 16 oed ac mae hynny i gyd yn deillio o'm tad-cu, cemegydd, a sbardunodd fy niddordeb mewn cemeg ac a'm hanogodd i feddwl am yr amgylchedd. Ers hynny, rydw i bob amser wedi meddwl bod hydrogen yn enghraifft gylchol wych o sut i gludo ynni o amgylch y byd. Gwnes i astudio celloedd biodanwydd ar gyfer fy ngradd israddedig ac wedyn gwnes i ymchwilio ymhellach i hyn ar gyfer fy ngradd meistr a'm PhD yn y Ganolfan Ymchwil i Hydrogen yn Birmingham. Y cwestiwn sy'n fy ysgogi yw sut rydym yn mynd ati i gadw a gwella ansawdd bywyd rydym bellach yn ei ddisgwyl heb niweidio'n dyfodol.   Yn fy marn i, mae hydrogen yn rhan fawr o'r sgwrs honno, fel y dylai fod, ochr yn ochr â thechnolegau eraill megis batris a thyrbinau gwynt.

Yn aml mae tueddiad i osod technolegau sero net yn erbyn ei gilydd ond nid wyf yn credu mai dyma'r ffordd orau o edrych ar y ddadl amgylcheddol. P'un a ydych chi'n edrych ar ddal carbon, batris, solar neu hydrogen, mae'r holl opsiynau'n arwain at effaith amgylcheddol sy'n well na defnyddio'r adnoddau rydym yn eu defnyddio ar hyn o bryd, felly mae'n rhaid ystyried pob un. Er fy mod o blaid hydrogen, mae posibilrwydd na fydd yn gweithio ar gyfer pob amgylchedd ar hyn o bryd, ac felly dylen ni ystyried yr holl atebion posibl eraill hefyd. Os yw'r amgylchedd yn elwa o'r technolegau sero net hyn, mae pawb ar eu hennill.

 

Beth mae cynaliadwyedd yn ei olygu i chi?

Y gwir amdani yw nad oes dim byd sy'n 100% yn dda neu'n ddrwg, ond mae angen i ni ymdrechu am well. Os ydym yn gwthio am gynaliadwyedd a gallwn ddadlau ein bod yn gwneud popeth y gallwn ni i wella'r blaned, yna dyma'r ymagwedd gywir at fynd i'r afael â'r drafodaeth. Mae angen i ni gael dadleuon cyfeillgar ynghylch y pwnc fel y gallwn ni barhau i dyfu. Yn ddiweddar es i ddigwyddiad lle roedd dŵr carbon niwtral yn cael ei ddefnyddio. Arweiniodd hyn at drafodaeth ynghylch ai marchnata gonest oedd hyn ac a oedd hynny o unrhyw bwys mewn gwirionedd. Mae'n hanfodol deall pwysigrwydd creu prosesau/cynhyrchion cylchol a chynaliadwy, yn hytrach nag atodi sticer "gwyrdd" ar unrhyw beth y gellid ystyried ei fod yn ecogyfeillgar i ryw raddau. 

Prosiectau Cyfredol

Ar hyn o bryd rydym yn cysylltu hydrogen ar draws de Cymru ac yn y de orllewin. Rwy'n rhan o GW-SHIFT sy'n PBIAA sydd i bob golwg yn ceisio datblygu clwstwr lle gallwn roi pobl mewn cysylltiad â'i gilydd i ddatblygu syniadau i alluogi hydrogen i ffynnu fel technoleg sylfaen. Yn rhan o hynny, rydyn ni'n ystyried cefnogi hyn trwy gynnig gwybodaeth ac ariannu grantiau ymchwil bach i ddatblygu cynhyrchion a chael effaith yn yr ardal. Rydym yn gweld effaith go iawn o safbwynt lleol, boed hynny mewn addysg, drwy fynd i ysgolion i godi ymwybyddiaeth pobl o dechnoleg hydrogen, neu drwy alluogi pobl â syniadau i lansio eu cwmnïau deillio eu hunain. Dyma le mae’n gwaith ni’n gysylltiedig â gwaith y BioHYB Cynhyrchion Naturiol. Mae gennym ymagweddau tebyg sy’n ategu ei gilydd gan ein bod ni'n gallu rhannu rhwydweithiau ac ehangu ein cyrhaeddiad. Un o'r pethau gwych am hydrogen yw pa mor ddemocrataidd mae'n gallu bod, gan fod llu o ffyrdd y gallwn ei wneud e, gan gynnwys rhai biolegol. Gallwn ddefnyddio bacteria ac algâu yn y prosesau hyn i greu hydrogen, torri cynhyrchion gwastraff i lawr neu hyd yn oed ail-ddal catalyddion. Trwy wneud hyn, gallwn ni hefyd fanteisio ar yr arbenigedd a geir yn y BioHYB Cynhyrchion Naturiol.

Rydym wedi bod yn gweithio ar y cyd â Dr Alla Silkina a Dr Emily Preedy i ddatblygu syniad o sut i fynd â rhywfaint o'r biomas algaidd sydd wedi dal carbon a deall a oes modd i ni wedyn droi hyn yn gynnyrch hydrogen a charbon. Byddai hyn yn gwella credadwyedd dal carbon gan y gallai ddal a defnyddio carbon am gyfnod hwy o bosib a byddai hynny'n arwain at lawer o gynhyrchion gwahanol.  Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda Dr Steve Slocombe i weld a all algâu gynhyrchu hydrogen mewn amgylchedd lleol. Mae'n wych gallu meithrin y cydweithrediadau hyn drwy'r Brifysgol ac yn benodol yn y BioHYB a CARI (Y Sefydliad Ymchwil i Weithredu ar yr Hinsawdd).

 

Beth gallwch chi ei gynnig i gwmnïau GEC?

Os oes unrhyw ffordd o ystyried hydrogen yn eu cadwyn gwerth, gall  newid GW a lle BioHYB helpu i sbarduno'r sgwrs am y dechnoleg y mae ei hangen, yn ogystal â sut gallwn ni eu helpu i gyflawni eu nodau. Nid oes rhaid iddo fod yn benodol i fyd diwydiant - os oes gennych chi gwmni pobi sydd â burum o does sy'n weddill o'r llynedd a allai ddod yn ddeunydd biomas neu rywun yn y farchnad ynni adfywiol, rydyn ni yma i gael pob math o drafodaeth.

Yn y bôn, rwy'n arbenigwr hydrogen sydd naill ai'n gallu'ch helpu chi neu eich ailgyfeirio i'r person gorau am y dasg! Felly, os oes gennych chi gwestiynau am hydrogen, mae pob croeso i chi gysylltu â mi yn j.m.courtney@abertawe.ac.uk.

Rhannu'r stori