
Cafodd PhytoQuest ei sefydlu'n wreiddiol ym 1999 er mwyn darganfod meddyginiaethau o blanhigion. Ar ôl sawl rownd o fuddsoddiad, penderfynodd y cwmni weithredu'n unigol yn 2009, ac ar hyn o bryd caiff ei arwain gan Dr Robert Nash, y Prif Swyddog Gweithredol. Gyda thros 250 o gyhoeddiadau a phatentau gwyddonol, roeddem yn ddigon ffodus i gael sgwrs gyda Robert i drafod arloesiadau diweddar yn PhytoQuest.
Dywedwch ychydig wrthym amdanoch chi eich hun…
Dr Robert Nash ydw i, a fi yw Pennaeth PhytoQuest Ltd sy'n gwmni darganfod cynnyrch naturiol yn Aberystwyth. Rydw i'n rheoli'r cwmni, ond rydw i hefyd yn cymryd rhan yn yr ymchwil yn y labordy. Ar hyn o bryd, mae gennym bedwar aelod o staff, ac rydym am greu amrywiaeth o gynnyrch gan ddefnyddio'r cyfansoddion rydyn ni wedi ymchwilio iddynt. Mae gennym atchwanegiad bwyd a chwaraeon o'r enw Q-Actin, sy'n gwerthu'n dda yn UDA, yn Ne Korea, yn Taiwan ac yn Japan. Mae'n gynnyrch sydd wedi'i batentu ac sy’n seiliedig ar giwcymber, sy'n meddu ar briodoleddau gwrthlidiol, a gall fod o fudd i'r rhai hynny sydd ag osteoarthritis.
Hanes y busnes?
Mae wedi bod yn daith amrywiol iawn! Gwnaethon ni sefydlu'r cwmni ym 1999, a'i enw yn wreiddiol oedd MolecularNature Limited (MNL) gyda buddsoddiad gan gwmni fferyllol o Loegr er mwyn darganfod meddyginiaethau o blanhigion. Roedd MNL yn canolbwyntio ar ddatblygu llyfrgell cyfansawdd gan ddefnyddio planhigion a microbau, yn ogystal ag ymchwilio i foleciwl oncoleg. Yna cawsom ein prynu gan gwmni o Rydychen yn 2006, ond wynebodd y cwmni anawsterau ariannol yn 2009, a dyna'r adeg y gwnaethon ni benderfynu mynd amdani ar ein pennau ein hunain. Fe wnaethom ni gymryd rhai asedau a chodi cyfalaf ar gyfer y busnes presennol, sef PhytoQuest.
{Prif Swyddog Gweithredol PhytoQuest, Dr Robert Nash}
Prosiectau/Cynnyrch
Rydym wedi darganfod moleciwl gwrthganser newydd sydd â gweithgarwch gwrthganser cryf in vivo. Rydym wedi ei brofi ar draws mwy na 100 o linellau celloedd canser heb iddo achosi ymateb, ond pan gaiff ei lyncu gan anifeiliaid, caiff ymateb imiwnyddol cryf ei achosi yn erbyn y celloedd canser. Mae'r rhan fwyaf o gyffuriau a ddefnyddir i drin canser yn wenwynig, ond rydym yn falch o gyhoeddi nad yw ein cyfansoddyn ni'n wenwynig, a dim ond dos bach ohono sydd ei angen er mwyn iddo fod yn effeithiol. Mae hyn yn fanteisiol pan fyddwn yn meddwl am driniaeth hirdymor a chost bosibl, ac efallai y bydd hefyd yn caniatáu i ddosau cyffuriau gwenwynig eraill gael eu lleihau. Er ein bod ni'n medru gweld yr effeithiau cadarnhaol y mae'r cyfansoddyn yn eu cael in vivo, rydym yn dal i geisio deall sut mae'n gweithio, sydd wedi arafu cynnydd y cynnyrch. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe drwy raglenni Cyflymu a CALIN er mwyn deall y cyfansoddyn yn well. Unwaith rydyn ni wedi deall y cynnyrch yn well, rydyn ni'n credu y gall fod yn fuddiol iawn wrth drin canser, oherwydd gellir ei gyfuno â thriniaethau eraill megis cemotherapi ac imiwnotherapi i'w gwneud nhw'n fwy effeithiol ac yn fwy diogel.
Yn y cyfamser, rydym wedi darganfod bod yr un moleciwl hefyd yn bresennol mewn mêl prin. Mae'n deffro'r system imiwnedd a gellir ei ddefnyddio er mwyn atal heintiau amrywiol, nid canser yn unig. Mae'n amddiffyn llygod rhag y ffliw, twlaremia a salmonella, felly rydym yn gobeithio mai'r cam nesaf fydd marchnata'r 'IminoHoney' fel atchwanegiad ataliol i bobl. P'un a yw hynny er mwyn adeiladu eich system imiwnedd cyn hediad pellter hir neu cyn/yn ystod cyfnod yn yr ysbyty. Mae ymchwil wedi'i gwneud i ddangos bod rhoi hwb i'ch system imiwnedd yn helpu i wella eich amddiffyniad yn erbyn heintiau, a dyma ffordd naturiol wych i frwydro'n erbyn clefydau.
Ydy'r cyffur hwn ar gyfer canser yn benodol?
Yn ddiddorol, nac ydy. Yn gynnar iawn, cynhaliom astudiaethau ar lygod ac fe wnaethon ni ddarganfod ei fod yn cael effaith gryf ar felanoma. Yna, gwnaethon ni ystyried y mêl fel moleciwl naturiol a phenderfynon ni ymchwilio trwy ei fwydo i gŵn a oedd â thiwmorau naturiol, fel dull amgen yn hytrach na radiotherapi neu gemotherapi. Nid ydym yn dweud y gall hyn iacháu’r cŵn yn llwyr na chael gwared ar y tiwmorau yn gyfan gwbl, ond gall hwn fod yn opsiwn i ymestyn bywydau’r cŵn a chynnig ansawdd bywyd gwell iddynt. Rhoddon ni'r mêl i rai cŵn a oedd â chanser terfynol (gyda 3-4 wythnos i fyw), ac er na weithiodd i bob un ohonynt oherwydd ffactorau megis systemau imiwnedd gwan neu ganserau ymosodol, gwnaethon ni ddarganfod fod llawer o'r cŵn hyn wedi gwella'n sylweddol ac fe wnaethon nhw fyw am fisoedd, os nad blynyddoedd, yn hirach na'r disgwyl. Pan oedd gan gŵn diwmorau gweladwy ar eu croen neu ar linellau eu genau, roedden ni'n gallu gweld y tiwmorau'n lleihau, ac hyd yn oed yn diflannu mewn rhai achosion. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i drin anifeiliaid eraill megis ceffylau, sy'n datblygu math o felanoma (sarcoids) sydd fel arfer o gwmpas y man lle mae'r cyfrwy. Drwy gyflwyno'r moleciwl hwn, mae'r sarcoids yn lleihau neu'n diflannu, sydd eto'n gwella ansawdd bywydau. Yn well fyth, mae'r dos ar gyfer ceffyl yr un peth â’r dos a ddefnyddir ar gyfer ci oherwydd, er gwaethaf y gwahaniaeth rhwng pwysau'r ddau anifail, mae'n paratoi'r system imiwnedd sydd wedyn yn actifadu ei hun.
Ni allwn rwystro pobl rhag marw, ond rydyn ni'n credu drwy roi hwb i'r system imiwnedd, gallwn ni atal rhai canserau rhag datblygu neu rhag parhau i dyfu. I'r rhai hynny sydd eisoes yn dioddef yn sgil canser, gobeithiwn y gall hwn gynnig gwell ansawdd bywyd iddyn nhw a lleihau'r angen i dderbyn mwy o driniaethau ymosodol neu anghyfforddus, megis cemotherapi.
{Mae PhytoQuest yn defnyddio offer o'r radd flaenaf er mwyn penderfynu ar strwythurau cyfansoddion planhigion newydd}
Sut gwnaethoch chi glywed am y BioHYB Cynhyrchion Naturiol?
Rydw i wedi bod mewn cysylltiad â rhai gweithwyr allweddol yn y BioHYB am lawer o flynyddoedd, megis yr Athro Tariq Butt, oherwydd rydyn ni wedi cydweithio â'i fyfyrwyr PhD. Pan glywon ni am yr hyb, roeddwn ni'n gwybod ein bod ni eisiau cydweithredu a gweithio â’r tîm. Rydyn ni wedi bod yn gweithio ar rai cynhyrchion ochr yn ochr â Dr Alla Silkina, ac rydyn ni hefyd yn gweithio gyda nhw ar gyfansoddion planhigion eraill rydyn ni wedi'u hynysu ar gyfer eu hastudio. Gan fod gan yr hyb ddiddordeb mewn adeiladu llyfrgell o gynhyrchion naturiol, rydym yn awyddus i gynnig rhai o'n deunydd er mwyn eu hychwanegu at y llyfrgell. Drwy gydweithredu â’r BioHYB Cynhyrchion Naturiol, rydym yn gallu cyrraedd mwy o fusnesau, a dyma sut rydyn ni'n medru deall gwerth gwirioneddol ein cyfansoddion. Bydd yr hyb yn cyflymu'r broses o ddarganfod cynhyrchion naturiol i alluoedd datblygiad yng Nghymru.
Pam rydych chi'n mynychu digwyddiadau New IPM?
Mae gennym ddiddordeb mawr mewn cymwysiadau cynhyrchion naturiol, ac mae rheoli plâu yn un o'r cymwysiadau. Drwy fynychu digwyddiad lle mae pobl sy'n meddu ar amrywiaeth eang o wybodaeth yn bresennol, gallwn ddysgu gan ein cymheiriaid a datblygu gwell ddealltwriaeth o'r cymwysiadau posibl ar gyfer ein moleciwlau drwy lens wahanol. Rydym wedi gwneud rhai cysylltiadau gwych drwy fynychu digwyddiadau New IPM, ac un enghraifft yw grŵp sy'n rhan o reoli pathogenau ar gyfer gwenyn. Gyda niferoedd nythod gwenyn yn dirywio, yn enwedig mewn hinsoddau gwlypach, roedden ni'n trafod sut gall ein moleciwlau gynyddu imiwnedd gwenyn yn erbyn plâu a phathogenau. Rydym yn gobeithio ymuno â New IPM 2025, ac edrychaf ymlaen at rwydweithio â'r gymuned ac ysgogi newid yn y sector hwn.