Llinell Gymorth Clirio: Rydym ar agor heddiw rhwng 09:00 a 17:00 (BST)

Ffoniwch ni: 0808 175 3071

Gall clirio fod yn gyfnod cyffrous yn llawn cyfleoedd newydd. Clirio yw'ch cyfle i ddod o hyd i'r ffit perffaith ar gyfer eich taith academaidd, p'un ai nad ydych chi'n cael y graddau rydych chi'n gobeithio amdanyn nhw neu os ydych chi wedi newid eich meddwl am eich cwrs.

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydyn ni yma i'ch helpu chi bob cam o'r ffordd.

Cyngor ac Arweiniad Clirio

Clirio Cwestiynau Cyffredin

Am restr lawn o Gwestiynau Cyffredin am fywyd prifysgol a'r broses Glirio ewch i'n tudalen we Cwestiynau Cyffredin Clirio.

Pam astudio yn Abertawe?

Myfyrwyr yn sgwrsio ar y traeth yn Abertawe

Abertawe - y ddinas wrth y môr

Darganfyddwch ddinas Abertawe, yr ydym yn gobeithio y byddwch yn ei dewis i fod yn gartref newydd i chi dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. O'r Mwmbwls i'r Chwarter Morwrol, fe welwch ddinas sydd â digonedd o swyn a chymeriad.

Darganfod mwy am Abertawe
Myfyrwyr yn chwarae ac yn sgwrsio ar y traeth

Bywyd myfyriwr yn Abertawe

Fe glywch chi hyn drwy’r amser, ond nid yw’n or-ddweud dweud bod mynd i’r brifysgol yn newid bywyd. Dyma’ch amser chi i wneud atgofion anhygoel a ffrindiau gydol oes.

Archwiliwch eich dyfodol yn Abertawe

Stori Elen yn Abertawe

Mae Elen yn un o'n cyn-fyfyrwyr sydd wedi mwynhau ei hamser yn Abertawe. Gwrandewch ar ei phrofiad a pam y dewisodd Abertawe.

Gweler mwy o straeon gan ein myfyrwyr i ddarganfod sut beth yw profiad y myfyriwr mewn gwirionedd.