Cyflwyno Cais i Brifysgol Abertawe

Os oes gennych chi anabledd, cyflwr meddygol hirdymor, Anhawster Dysgu Penodol, Cyflwr ar y Sbectrwm Awtistiaeth a/neu gyflwr iechyd meddwl, nid oes rheswm pam na ddylai'ch profiad yn y brifysgol fod yn union fel profiad pawb arall. Rydyn ni’n croesawu eich cais i astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

5 allan o 5 seren
...Dwi wir yn credu taw'r gefnogaeth gan y Brifysgol sydd wedi fy ngalluogi i ddod mor bell â hyn...

Derbyn cynnig lle trwy Glirio neu addasu

Os ydych chi wedi datgan anabledd trwy UCAS ac wedi derbyn cynnig lle i astudio yn Abertawe, gofynnir i chi lenwi Ffurflen Cymorth Myfyrwyr. Fodd bynnag, os nad ydych chi wedi derbyn y Ffurflen Cymorth Myfyrwyr neu os nad oeddech chi wedi datgelu eich anabledd trwy UCAS, mae modd llenwi Ffurflen Cymorth Myfyrwyr ar ein gwefan.

Ar ôl i ni adolygu'r Ffurflen, bydd y Gwasanaeth Lles ac Anabledd yn cysylltu â chi i roi cyngor ar y camau nesaf.

Mewn nifer fach o achosion, efallai na fydd modd i ni gyflawni’r trefniadau angenrheidiol erbyn i chi ddechrau'ch cwrs. Pe bai hyn yn cael effaith negyddol ar eich profiad yn y brifysgol neu ar eich diogelwch, gall y Gwasanaeth Lles ac Anabledd eich cynorthwyo i ystyried opsiynau eraill.

Darllenwch ein Canllaw i Gymorth a Chefnogaeth Ychwanegol i dderbyn rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni’n cefnogi myfyrwyr ag anableddau a’r broses ar gyfer rhoi gwybod i ni am eich anghenion.

Cysylltu â ni

Cysylltwch â ni yn y Gwasanaeth Lles ac Anabledd os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi.