Cwestiynau Cyffredin Clirio
- Hafan Clirio
- Eich Canllaw Clirio
- Lleoedd Clirio
- Llety i fyfyrwyr Clirio
- Cwestiynau Cyffredin Clirio
- Eich cais Clirio
- Cyllid i fyfyrwyr - Clirio
- Cysylltwch â'r Tîm Clirio
- Diwrnodau Agored Israddedig
- Sut i wrthod eich lle a dod i Abertawe drwy Clirio
- Cyngor clirio i fyfyrwyr ag anableddau
- Beth yw UCAS Extra? Eich canllaw cynhwysfawr
- Clirio - Straeon Myfyrwyr
- Adolygiadau Gan Fyfyrwyr
- Cyngor Clirio i Rieni
- Gofynion Mynediad Israddedig
Bywyd Prifysgol
Ydw i'n ddigon da i fynd i'r brifysgol?
Yn syml, ydych. Mae yna brifysgol i bawb a hyd yn oed os nad ydych yn cael y graddau sydd eu hangen arnoch, gallwch fynd drwy'r broses glirio i ystyried dewisiadau amgen neu hyd yn oed opsiynau newydd. Yn Abertawe, mae ein tîm derbyn wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, rydym hefyd yn cynnig cyrsiau sylfaen yn ogystal â chymorth academaidd ar gyfer pan fyddwch yn ymuno. Darllenwch fwy am glirio
A fyddaf yn teimlo'n gartrefol?
Mae Abertawe'n ddinas arfordirol fywiog lle gall myfyrwyr fanteisio'n llawn ar fywyd y ddinas wrth fwynhau’r traeth hefyd. Fel prifysgol gyda dau gampws, mae myfyrwyr yn dod yn rhan o'r gymuned yn gyflym lle maent yn cael y profiad cartrefol o gartref oddi cartref. Mae gennym amrywiaeth o opsiynau llety myfyrwyr sy'n addas ar gyfer gwahanol ffyrdd o fyw, yn ogystal â dros 150 o wahanol glybiau chwaraeon a chymdeithasau i ymuno â nhw, felly mae rhywbeth at ddant pawb! Darganfyddwch pam mae pobl yn caru Prifysgol Abertawe.
A fyddaf yn gwneud ffrindiau?
O gyd-letywyr a chyd-fyfyrwyr i dimau chwaraeon a chymdeithasau, mae digon o gyfleoedd i chi gwrdd â phobl o'r un anian a gwneud ffrindiau. Mae llu o ddigwyddiadau, gweithgareddau cymdeithasol, a nosweithiau allan lle gallwch chi feithrin cyfeillgarwch a chwrdd â phobl newydd. Darganfyddwch fywyd myfyriwr yma.
A allaf i fforddio mynd i'r brifysgol?
Un o’r pryderon mwyaf yw’r gost o fynd i’r brifysgol, bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr Cymru yn talu am eu ffioedd dysgu a’u costau byw trwy wneud cais am gymorth ariannol trwy wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Peidiwch ag anghofio y gallech hefyd fod â hawl i ysgoloriaeth neu fwrsariaeth - ym Mhrifysgol Abertawe gallech dderbyn hyd at £3,000! Mae ysgoloriaethau penodol ar gyfer myfyrwyr sy’n dewis astudio drwy’r Gymraeg ac mae gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ysgoloriaethau y gallwch ymgeisio amdanynt hefyd. Yn ogystal, mae llawer o swyddi myfyrwyr ar gael ar y campws a fydd yn cyd-fynd â'ch amserlen, ynghyd â chymorth cyflogadwyedd. Archwiliwch opsiynau cyllid myfyrwyr yma.
A fyddaf yn cael cymorth yn y brifysgol?
Mae mynd i’r brifysgol yn amser cyffrous ond mae’n newid mawr ac mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod systemau cymorth cywir yn eu lle yn y brifysgol rydych chi am fynd iddi. Yn Abertawe mae gennym amrywiaeth o wasanaethau cymorth yn ymwneud â llwyddiant academaidd, cyllid, cyflogadwyedd, lles a mwy. Rydym yn darparu gwybodaeth, cyngor, arweiniad a chefnogaeth i alluogi pob myfyriwr i ddatblygu a chyflawni ei lawn botensial. Darganfyddwch ein holl wasanaethau cymorth yma.
A fyddaf yn gallu gwneud cais am lety?
Gall myfyrwyr sy'n gwneud cais yn ystod Clirio wneud cais am lety'r Brifysgol unwaith y byddant wedi cwblhau eu cais cwrs, gan ddefnyddio eu rhif adnabod UCAS. Os nad oes rhif adnabod UCAS gan y myfyriwr, gallant wneud cais unwaith y byddant wedi derbyn eu rhif myfyriwr gan y Brifysgol (byddwch yn derbyn y rhif ar ôl cyflwyno'ch cais cwrs). Gwnewch gais am lety wedi ei reoli gan y Brifysgol cyn Awst yr 20fed i gael cynnig llety wedi ei warantu.
Dysgwch ragor am Lety i fyfyrwyr sy'n gwneud cais yn ystod Clirio.
Rwy'n riant - a gaf i siarad gyda chi'n uniongyrchol?
Er na fydd yn bosibl i ni drafod cais eich plentyn oni bai eich bod wedi’ch enwebu ar ei ffurflen UCAS neu wedi cael caniatâd ganddo fe/hi.
Gyda chaniatâd, gallwn roi cyngor i chi ynglŷn â llety, y math o gefnogaeth a gânt pan fyddant yn cyrraedd ynghyd â gwybodaeth gyffredinol am y Brifysgol, Abertawe a’r ardal.
Ffoniwch ni ar ein Llinell Gymorth: 0808 175 3071 neu ewch i'n tudalennau gwybodaeth i rieni am ragor o wybodaeth.
Dewisais Abertawe yn benodol o’r holl brifysgolion eraill yng Nghymru oherwydd ei lleoliad yn y ddinas a’r daith lawr i’r traeth...rwyt ti’n dod i adnabod wynebau pobl o gwmpas y lle sy’n rhoi ymdeimlad cartrefol a chlos.Rhiannon, sy'n astudio Hanes
Y broses Clirio
Beth os na chaf y graddau?
Yn gyntaf, peidiwch â chynhyrfu ac nid ydych chi ar eich pen eich hun. Mae clirio yn ffordd wych o siarad naill ai â’ch prifysgol ddewisol ac archwilio’r opsiynau sydd yno neu gallwch siarad â phrifysgolion eraill a allai fod â lleoedd ar y cwrs yr hoffech ei astudio. Yn Abertawe gallwn fod yn hyblyg o amgylch rhai cynigion. Mae’n well cofrestru ar gyfer clirio cyn gynted â phosibl fel nad ydych yn colli allan ar unrhyw wybodaeth hanfodol. Cofrestrwch ar gyfer clirio yma.
Beth os ydw i wedi newid fy meddwl ac eisiau mynd i Abertawe?
Os ydych chi eisoes yn dal lle mewn prifysgol arall ac yn ystyried Abertawe, gallwch wrthod eich lle ac ymuno â'r broses Clirio o'r 5ed o Orffennaf. Gallwch ddysgu mwy am wrthod eich lle neu fe allwch chi gysylltu â ni i drafod eich opsiynau.
Rwyf wedi derbyn cynnig gan brifysgol arall ond hoffwn i ddod i Abertawe
Mae modd i chi ddefnyddio'r opsiwn hunan-ryddhau yn UCAS Hwb (drwy wrthod eich cynnig) os ydych chi wedi derbyn cais gyda phrifysgol arall ond yn newid eich meddwl ac eisiau dod i astudio yn Abertawe.
Ystyriwch y penderfyniad yma'n ofalus gan eich bod yn gallu colli eich lle yn y prifysgol gwreiddiol os ydych chi'n hunan-ryddhau ac yna'n newid eich meddwl.
Darllenwch ein canllaw ar wrthod eich lle am ragor o wybodaeth.
Oes modd i mi fynd trwy'r broses Clirio heb gyflwyno cais?
Os wyt ti’n cyflwyno cais drwy UCAS ar gyfer mis Medi 2024, byddi di’n cael dy gynnwys yn awtomatig yn y broses Glirio os na fyddi di’n cael dy dderbyn gan dy ddewisiadau cadarn ac yswiriant, neu os byddi di’n cyflwyno dy gais ar ôl 30 Mehefin.
Os ddei di'n gymwys i ddefnyddio'r broses Clirio bydd botwm 'Add Clearing Choice' ar gael ar dy sgrin Track Choices. Neu, gwiria'n uniongyrchol â phrifysgolion dy ddewis cadarn a dewis yswiriant cyn gynted â phosib.
I nifer o fyfyrwyr, bydd y broses clirio ar gael iddynt ar ôl i'w canlyniadau gael eu derbyn a daw i'r amlwg nad ydynt wedi diwallu'r meini prawf mynediad. Diwrnod canlyniadau Safon Uwch yn 2024 yw dydd Iau 15 Awst.
Os nad oes gennych chi gais UCAS byw, peidiwch â phoeni, byddwch chi’n dal i allu cyflwyno cais yn uniongyrchol i Brifysgol Abertawe. Ffoniwch ni ar 0808 175 3071 o ddechrau mis Gorffennaf a bydd ein tîm yn eich tywys drwy’r broses.
Ystyried apelio'ch canlyniadau?
Os ydych chi’n apelio eich graddau, ac rydym wedi gwneud cynnig clirio ar gwrs sylfaen i chi neu gwrs arall yn seiliedig ar eich graddau cyfredol, nodwch fod siawns y gallwn eich symud i'ch prif ddewis o gwrs os yw eich graddau newydd yn cyrraedd gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwnnw. Rhowch wybod i ni cyn gynted ag y byddwch yn derbyn eich graddau wedi'u diweddaru. Os oes gennych rai cyn 15 Hydref 2024, byddwn yn gallu eich symud i'r rhaglen wreiddiol y gwnaethoch gais amdani.
Nodwch os gwelwch yn dda bod cyrsiau sydd wedi eu comisiynu/cyrsiau clinigol sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru wedi eu heithrio.
Beth os nad wyf wedi gwneud cais UCAS eleni?
Os nad ydych wedi gwneud cais UCAS yn ystod y cylch hwn, mae dal modd i chi wneud cais ar gyfer mis Medi.
Rydym yn eich cynghori i'n ffonio ni ar 0808 175 3071 yn y lle cyntaf, i wirio eich bod yn gymwys i wneud cais i'r cwrs.
Unwaith eich bod yn gwybod eich bod yn gymwys, mae modd gwneud cais drwy'r ffurflen gais ar-lein.
Nodwch taw'r unig adeg y gallwch chi dddefnyddio'r ffurflen hon yw os nad ydych chi wedi cofrestru gydag UCAS eleni.
Proses gwneud cais Clirio Abertawe
Mae cyflwyno cais Clirio i Brifysgol Abertawe yn rhwydd, dilynwch y pedwar cam syml yma:
Cam Un – Creu cyfrif
Cam Dau – Cwblhewch eich manylion personol, eich graddau (os oes gennych rai) a chliciwch ar cyflwyno. Os nad oes gennych eich graddau, gallwch dal gofrestru heddiw.
Cam Tri – Gwnewch gais am lety wedi ei reoli gan y Brifysgol cyn Awst yr 20fed i gael cynnig llety wedi ei warantu. Gwnewch gais am lety nawr.
Cam Pedwar – Os wnaethoch chi gofrestru heb eich graddau, pan fyddwch wedi'u derbyn, mewngofnodwch a llenwi'r manylion yna cyflwynwch eich cais Clirio cyflawn.