Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle gwych i grwydro'n campysau hardd, gallwch gwrdd â staff academaidd a chael blas ar fywyd myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ein rhaglen Diwrnod Agored hyblyg a chyffrous yn rhoi digon o gyfle i chi weld ein cyfleusterau addysgu, dewisiadau llety, cyfleusterau chwaraeon a'r ystod o wasanaethau cefnogi myfyrwyr. Mae hefyd modd i chi gael cymorth ac arweiniad ar gyllid myfyrwyr a chefnogaeth ariannol.

Ydych chi eisiau holi am fywyd myfyrwyr? Siaradwch gydag un o'n llysgenhadon myfyrwyr a fydd o gwmpas drwy gydol y dydd i ateb eich holl gwestiynau. Holwch ni hefyd am fywyd myfyriwr Cymraeg ar y campws ac am y gefnogaeth a'r clybiau a chymdeithasau Cymraeg sydd ar gael i chi.

Methu ymuno â ni yn bersonol ar gyfer un o'n digwyddiadau ar y campws? Os na, ymunwch â ni ar-lein ar gyfer ein gweminar Holi ac Ateb byw ar Glirio i glywed gan banel o gynghorwyr a myfyrwyr presennol a all ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, a rhannu eu profiad o ddod i Abertawe drwy Glirio.

Digwyddiadau ar y campws

Mae ein Diwrnodau Agored Clirio bellach wedi gorffen ar gyfer 2025, ond os hoffech siarad â rhywun am drefnu ymweliad, cysylltwch â'r Tîm Clirio.

Os ydych chi'n ystyried gwneud cais am fynediad yn 2026, gallwch fynychu un o'n Diwrnodau Agored sydd ar ddod.

Dau fyfyriwr yn cerdded ar gampws y Bae