
Wythnos Byddwch yn Wyrdd yn dathlu ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe
Cynhaliwyd dros 29 o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos 3-9 Chwefror, gyda'n prif ddigwyddiad, y Ffair Byddwch yn Wyrdd, a oedd yn cynnwys dros 38 o stondinau, gweithdai, ymchwil i'r hinsawdd, ac elusennau lleol a grwpiau cymunedol ochr yn ochr â thapestri enfawr Prifysgol Abertawe. Roedd uchafbwyntiau eraill yn cynnwys digwyddiad Oergell Gymunedol Y Goleudy, adeiladu cerflun Masnach Deg yn fyw, a sesiynau gweu coed helyg ardderchog.
Roedd gennym gerddoriaeth fyw, gweithdai DJ, a bwyd fegan am ddim, a oedd yn nodi cynnydd o 25% ers y llynedd, yn ogystal â phlethora o weithgareddau a gweithdai eraill a oedd ar gael i fyfyrwyr, staff a'r gymuned leol gymryd rhan ynddynt drwy gydol y dydd. Creom bartneriaeth gyda thros 29 o gwmnïau a sefydliadau mewnol ac allanol i gynnal Wythnos Byddwch yn Wyrdd ar gyfer ein prifysgol a'n cymuned lleol, a oedd yn cynnwys ein gweithdy Zombie Plastics. Yn y gweithdy hwn, aeth y myfyrwyr i'r traeth i gasglu microblastigion gan ymgymryd â thaith economi gylchol, a mynd â'r cynnyrch adref gyda nhw ar ddiwedd y gweithdy!
Ar ddiwedd Wythnos Byddwch yn Wyrdd, cynhaliwyd arddangosfa ffotograffiaeth yn Taliesin a'r sioe theatr 'Art of Connection' a oedd yn cynnwys Jackie Morris a Jay Griffiths.
Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb a wnaeth greu partneriaeth, cefnogi, cymryd rhan, a mynychu!
Er bod Wythnos Byddwch yn Wyrdd wedi dod i dod i ben, gallwch Gymryd Rhan o hyd mewn gweithgarwch Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe. Ewch i'n Eventbrite i ddarganfod beth sy'n digwydd ar y campws!