Yn chwilio am lety dros dro wrth ymweld â Phrifysgol Abertawe neu weithio yma? Mae ein llety ar Gampws y Bae yn cynnig opsiynau hyblyg a fforddiadwy i staff, myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr, ymchwilwyr ac ymwelwyr y Brifysgol. P'un a ydych yn cymudo, yn cymryd rhan mewn cwrs, neu'n ymweld ag ardal Abertawe, mae gennym y llety perffaith i chi.
Llety haf a thymor byr
- Opsiynau Llety
- Ffioedd Llety
- Gwneud Cais am Lety
- Llety i fyfyrwyr israddedig
- Llety i fyfyrwyr ôl-raddedig
- Llety i Fyfyrwyr Rhyngwladol
- Gwybodaeth i Breswylwyr
- Llety ar gyfer Mynediad ym mis Ionawr
- Cymorth Sydd Ar Gael
- Rhieni a Gwarcheidwaid
- Paratoi at Gyrraedd
- Llety Sector Preifat
- Landlordiaid
- Cysylltwch â'r tîm Llety
- Storfa Ddogfennau
- Gwybodaeth am ymadael
Llety Hyblyg i Staff, Myfyrwyr, Cyn-fyfyrwyr ac Ymwelwyr

Pwy sy'n gallu cadw ystafelloedd?
Staff y Brifysgol
Anghofiwch am deithiau cymudo hir! Wrth aros ar y campws, gallwch fod yn agos at ddarlithoedd, llyfrgelloedd a chyfleusterau'r campws a mwynhau mynediad hwylus i leoliadau prydferth, caffis ac amgueddfeydd Abertawe yn ogystal â Phenrhyn Gŵyr. Gyda'n cyfraddau wythnosol cystadleuol, byddwch chi'n gwario llai ar lety a mwy ar yr hyn sy'n bwysig i chi.
Myfyrwyr y Brifysgol
Ydych chi’n fyfyriwr sy'n cymudo i Abertawe neu'n chwilio am lety yn ystod cyfnodau gwyliau? Manteisiwch ar ein hopsiynau llety fforddiadwy yn ystod y tymor. Mae llety Campws y Bae yn cynnig y cyfleustra o fyw yn agos i'r campws, gyda thelerau hyblyg sy’n cyd-fynd â’ch amserlen.
Ymchwilwyr ac Ysgolheigion sy'n ymweld
Ydych chi'n cydweithredu â Phrifysgol Abertawe ar aseiniad ymchwil neu brosiect academaidd tymor byr? Llety Campws y Bae yw'r cartref oddi cartref perffaith ar gyfer ymchwilwyr ac ysgolheigion sy'n ymweld. Gallwch fwynhau’r agosatrwydd at y gymuned academaidd wrth aros mewn cyfleusterau cyfforddus a modern.
Cyn-fyfyrwyr
Fel aelodau gwerthfawr o gymuned cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, rydym yn eich croesawu i aros ar y campws wrth ymweld ag Abertawe. P'un a ydych yn dod i ddigwyddiadau, yn ailgysylltu â ffrindiau, neu'n mwynhau'r ddinas, mae ein hopsiynau llety'n darparu lleoliad cyfarwydd a chyfforddus yn ystod eich ymweliad.
Darpar Fyfyrwyr a'u Teuluoedd
Yn dod i ddiwrnod agored neu’n ymweld â'r campws? Mae llety Campws y Bae ar gael ar gyfer darpar fyfyrwyr a'u teuluoedd, gan wneud eich ymweliad â Phrifysgol Abertawe'n hwylus ac yn ddi-straen. Cewch aros yn agos at y campws, archwilio'r ardal, a chael teimlad am fywyd yn y brifysgol wrth fwynhau llety fforddiadwy a chyfleus.
Cyfranogwyr Cynadleddau a Digwyddiadau
Yn cynnal digwyddiad ym Mhrifysgol Abertawe neu’n dod i ddigwyddiad yma? Mae ein llety ar Gampws y Bae yn ardderchog ar gyfer cynadleddwyr sy'n chwilio am rywle cyfforddus i aros yn ystod eu digwyddiad. Gyda mynediad hawdd at leoliadau digwyddiadau a'r traeth, gallwch fwynhau gwaith ac amser hamdden yn ystod eich ymweliad.
Contractwyr y Brifysgol
Os ydych yn gweithio ar un o safleoedd Prifysgol Abertawe fel contractiwr, mae ein hopsiynau llety tymor byr yn cynnig ateb fforddiadwy a hwylus. Arhoswch yn agos i'ch prosiect a mwynhau cyfleustra ein cyfleusterau campws o’r radd flaenaf.
Ymwelwyr ag ardal Abertawe
Yn ymweld ag Abertawe at ddiben hamdden neu fusnes? Mae ein campws mewn lleoliad delfrydol i archwilio morlin hardd Bae Abertawe a’r atyniadau lleol. Hefyd, rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â busnesau lleol i gynnig gostyngiadau arbennig i'n gwesteion, gan wneud eich ymweliad yn fwy pleserus byth.
Pam cadw ystafell?
Llety Fforddiadwy a Hyblyg
Rydym yn cynnig cyfraddau cystadleuol ac opsiynau cadw ystafell hyblyg ar gyfer arosiadau byr neu hir. P'un a ydych yn aros am ychydig o ddyddiau neu fisoedd, mae gennym gynllun sy'n gweithio i chi.
Mannau Byw Modern a Chyfforddus
Mae ein holl opsiynau llety wedi'u dodrefnu'n llawn gyda chyfleusterau modern, gan gynnwys Wi-Fi cyflym, ystafelloedd en suite, ceginau cymunedol ac ardaloedd astudio. Mae popeth sydd ei angen arnoch ar gyfer arhosiad cyfforddus a chynhyrchiol yma ar y campws.
Lleoliad heb ei ail
Wedi'i leoli ar hyd morlin hardd Bae Abertawe, mae ein campws yn cynnig golygfeydd godidog a mynediad hawdd i’r traeth. Gyda chysylltiadau cludiant ardderchog i ganol y ddinas ac atyniadau cyfagos, mae Campws y Bae yn lleoliad cyfleus ar gyfer gwaith neu archwilio.
Cymuned campws ffyniannus
Mae aros ar Gampws y Bae yn golygu ymuno â chymuned fywiog. Manteisiwch ar gaffis, bwytai, canolfannau ffitrwydd a digwyddiadau cymdeithasol ar y campws. P'un a ydych yma i weithio neu astudio, byddwch chi'n teimlo'n gartrefol.
Sut gallaf gadw ystafell?
Myfyrwyr/Staff / Ymchwilwyr ac Ysgolheigion sy'n ymweld
Cysylltwch â ni i drafod eich archeb.
Ymwelwyr Allanol/ Cyn-fyfyrwyr / Contractwyr
Gallwch weld yr amrywiaeth o ystafelloedd sydd ar gael, cymharu prisiau a sicrhau eich lle yng nghymuned campws fywiog Abertawe heddiw. Am ragor o wybodaeth ac i gadw ystafell, cliciwch ar y dolenni isod.