Mae tasg gyhoeddus Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe, fel y'i diffinnir gan Reoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth Sector Cyhoeddus (2015) wedi'i chynnwys yn ei swyddogaethau i gefnogi Siarter Atodol 2007 y Brifysgol sy'n nodi amcanion canlynol y Brifysgol:
Hyrwyddo dysgu a gwybodaeth drwy addysgu ac ymchwil, a chymryd rhan mewn gweithgareddau i hyrwyddo a chyfrannu at ddatblygiad diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru a'r tu hwnt.
Mae Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe yn cadw ac yn defnyddio gwybodaeth a dogfennau at y dibenion canlynol o fewn eu tasg gyhoeddus:
- Datblygiad a nodau strategol a chysylltiedig ein gwasanaethau
- Hyrwyddo ein hadnoddau llyfrgell a darparu mynediad iddynt
- Cynhyrchu adnoddau dysgu ac ymchwil sy'n gysylltiedig â'n gwasanaethau, gan gynnwys canllawiau gwybodaeth, canllawiau pwnc ac amrywiaeth o ddeunydd argraffedig ac electronig perthnasol
Mae gwybodaeth am weithgareddau cyffredinol Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe wrth ymgymryd â'u tasg gyhoeddus ar gael ar ein prif wefan.
Mae Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe yn caniatáu ailddefnyddio dogfennau penodol a grëwyd ar gyfer eu tasg gyhoeddus. Mae rhagor o wybodaeth am y dogfennau sydd ar gael ar ein prif wefan.
Gellir cyflwyno cwestiynau am ddatganiad tasg gyhoeddus Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe, ac unrhyw benderfyniadau a wneir dan y Rheoliadau, drwy'r Swyddfa Cydymffurfiaeth yn y cyfeiriad isod.
Bydd y datganiad hwn o dasg gyhoeddus yn cael ei adolygu'n rheolaidd a bwriedir ei ystyried eto ym mis Ionawr 2024).
Gwneud cais i ailddefnyddio gwybodaeth
Rhaid cyflwyno pob cais i ailddefnyddio gwybodaeth yn ysgrifenedig, naill ai ar ffurf e-bost neu lythyr. Rhaid iddo gynnwys y canlynol i fod yn gais dilys dan Reoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth Sector Cyhoeddus 2015.
- Enw'r ymgeisydd a chyfeiriad gohebu
- Manylion y ddogfen sy'n destun y cais
- At ba ddiben y bwriedir ailddefnyddio'r ddogfen
Manylion cyswllt i wneud cais i ailddefnyddio gwybodaeth:
Swyddog Cydymffurfiaeth y Brifysgol (Rhyddid Gwybodaeth/Diogelu Data)
Swyddfa'r Is-ganghellor
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP
E-bost: foi@swansea.ac.uk
Ymateb i Geisiadau
Mae gan y Brifysgol 20 niwrnod gwaith i ymateb i geisiadau, ond gellir estyn y cyfnod hwn dan rai amgylchiadau, er enghraifft, os yw'r wybodaeth yn sylweddol neu os yw'r cais yn codi materion cymhleth. Os nad yw'r wybodaeth wedi cael ei datgelu i'r cyhoedd o'r blaen, cam cyntaf ymateb i'r cais fydd ymdrin ag ef o dan ddeddfwriaeth mynediad i wybodaeth, e.e. Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data, wedyn dylid ymdrin â'r cais i ailddefnyddio gwybodaeth.
Bydd y Brifysgol yn ymateb i geisiadau am fynediad ac i ailddefnyddio gwybodaeth o fewn 20 niwrnod gwaith, ond gellir estyn y cyfnod hwn dan rai amgylchiadau wrth ymdrin â cheisiadau dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Taliadau
Mae'r rheoliadau'n caniatáu i'r Brifysgol godi tâl am ganiatâd i ailddefnyddio gwybodaeth (a fydd yn cynnwys costau atgynhyrchu, darparu a dosbarthu'r wybodaeth). Gweler isod am fanylion pellach ynghylch ein taliadau.
Trwyddedau
Gall y Brifysgol osod amodau ar ailddefnydd. Gall y Brifysgol ddarparu rhai mathau o wybodaeth i'w hailddefnyddio dan Drwydded Llywodraeth Agored neu drwyddedau Creative Commons yn ddi-dâl a heb unrhyw amodau. Fodd bynnag, gall trwyddedau eraill fod yn fwy priodol, yn enwedig pan godir tâl i ailddefnyddio gwybodaeth.
Gweithdrefn Gwyno
Os ydych yn anfodlon ar y canlyniad, ar ôl derbyn ymateb i gais am ailddefnydd, bydd gennych hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad. Dylid cyflwyno pob apêl mewn ysgrifen i'r:
Swyddog Cydymffurfiaeth y Brifysgol (Rhyddid Gwybodaeth/Diogelu Data)
Swyddfa'r Is-ganghellor
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP
neu drwy e-bost: foi@swansea.ac.uk
Er mwyn i ni allu prosesu'ch apêl mor gyflym â phosibl, dylech ddyfynnu cyfeirnod a dyddiad eich cais gwreiddiol, yn ogystal â'ch rhesymau dros gyflwyno'r apêl.
Dylech gynnwys manylion cyswllt llawn, gan gynnwys rhif ffôn lle bo modd, rhag ofn bod angen i ni gysylltu â chi yn ystod y broses apêl. Byddwn yn ysgrifennu atoch i gydnabod ein bod wedi derbyn eich apêl. Yn dilyn yr adolygiad, byddwch yn derbyn adroddiad yn cynnwys
y canlyniad a'r camau gweithredu a gymerwyd gan Brifysgol Abertawe.
Os na fyddwch yn fodlon ar ganlyniad yr apêl, bydd gennych hawl i apelio'n uniongyrchol i'r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gallwch gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth,
Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Swydd Gaer,
SK9 5AF