Rydyn ni’n cynnig bwrsariaeth Patrick Carroll i fyfyrwyr therapi galwedigaethol Prifysgol Abertawe, sydd hefyd yn bodloni un neu fwy o’n Meini Prawf Ehangu Cyfranogiad ac sydd wedi nodi hyn ar eu cais UCAS. Os ydych chi’n meddwl eich bod chi’n bodloni unrhyw rai o’r meini prawf isod, ac os hoffech chi gael eich ystyried, llenwch y Ffurflen Gais.
Y dyddiad cau i gyflwyno cais yw 9am ar 23 Tachwedd 2026.
Mae ein Meini Prawf Ehangu Cyfranogiad yn cynnwys:
- bod ag anabledd dysgu neu gorfforol, gan gynnwys salwch hirdymor ac wedi nodi hynny ar eich cais UCAS;
- wedi'ch dieithrio o'ch rhieni ac wedi nodi hynny ar eich cais UCAS;
- wedi treulio amser mewn gofal ac/neu’n ymadawr gofal ac wedi nodi hynny ar eich cais UCAS;
- ymgeiswyr nad yw eich rhieni/gwarcheidwaid wedi mynychu addysg uwch ac wedi nodi hynny ar eich cais UCAS;
- yn gofalu am aelod o'r teulu neu ffrind sydd â salwch, anabledd, caethiwed neu broblem iechyd meddwl ac wedi nodi hynny ar eich cais UCAS;
- â chyfrifoldebau magu plant ac wedi nodi hynny ar eich cais UCAS;
- o deulu rhiant sengl neu a fyddai'n diffinio eu hunain fel rhiant sengl