Cynnyrch Naturiol ac Adnoddau Amgylcheddol, MRes

Systemau Morol a Dŵr Croyw

Prosiect hyfforddiant ac ymchwil sgiliau uwch

Lumpfish

Trosolwg o'r Cwrs

Mae amgylcheddau dyfrol yn cefnogi bioamrywiaeth eithriadol, yn darparu gwasanaethau ecosystem hanfodol ac maent yn gysylltiedig yn agos â chymdeithasau dynol. Ar yr un pryd, mae systemau morol a dŵr croyw yn cael eu trawsnewid gan newid yn yr hinsawdd, llygredd, addasu cynefinoedd, defnyddio adnoddau, rhywogaethau goresgynnol a phwysau amgylcheddol eraill. Mae deall sut mae’r systemau hyn yn gweithredu ac yn ymateb i newid a sut y gellir eu rheoli a’u hadfer yn effeithiol yn her wyddonol a chymdeithasol fawr.

Gan adeiladu ar hanes cryf Prifysgol Abertawe o ymchwil  ddyfrol, bydd ein MRes mewn Systemau Morol a Dŵr Croyw yn mabwysiadu ymagwedd ryngddisgyblaethol at gwestiynau sylfaenol a chymhwysol ar draws amgylcheddau morol a dŵr croyw.

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch chi’n cyfuno gwaith maes ac arbrofion labordy â monitro ecolegol, olrhain anifeiliaid a chofnodi data biolegol, ymagweddau moleciwlaidd a genomig, dulliau microbaidd a bioddaeargemegol, modelu meintiol ac ystadegol, dadansoddi gofodol, synhwyro o bell a data amgylcheddol hirdymor. Mae’r ehangder hwn yn galluogi prosiectau i ymchwilio i brosesau sy’n amrywio o fioleg ac ymddygiad organebau unigol i ddeinameg poblogaethau a chymunedau, sut mae ecosystemau’n gweithredu a rheoli ac adfer amgylcheddau dyfrol.

Byddwch yn treulio eich semester cyntaf yn datblygu eich sgiliau, eich profiad a'ch arbenigedd, ac yna byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol am y naw mis sy'n weddill. Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn dod yn rhan o gymuned ymchwil o safon fyd-eang, gan feithrin y sgiliau a'r arbenigedd i wireddu eich uchelgeisiau gyrfa yn hyderus ym meysydd cadwraeth, rheoli amgylcheddol ac ymchwil.

Nid oes angen i chi fod â phrosiect ymchwil wedi'i ddiffinio ymlaen llaw pan fyddwch yn gwneud cais. Mae'r semester cyntaf yn rhoi amser i chi archwilio ymchwil sy'n cael ei chynnal ar draws y Biowyddorau, nodi meysydd sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau, a datblygu prosiect priodol gyda goruchwylwyr posibl.

Ar gyfer eich prosiect ymchwil annibynnol, a gefnogir gan dîm goruchwylio, byddwch yn ymchwilio i gwestiwn ymchwil penodol, yn cynhyrchu traethawd ymchwil sylweddol ac yn cwblhau arholiad llafar.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

ENGHREIFFTIAU O BROSIECTAU MRES DIWEDDAR SYSTEMAU MOROL A DŴR CROYW

  • The diving behaviour of the whale shark Rhincodon typus (dan oruchwyliaeth yr Athro Rory Wilson a Dr Kayleigh Rose)
  • How do community interactions affect metal toxicity in aquatic ecosystems (dan oruchwyliaeth Dr Tamsyn Uren Webster a Dr Konstans Wells)
  • Using Unmanned Aerial Vehicles (UAVs) to assess population density and habitat use of foraging sea turtles in the Chagos Archipelago (dan oruchwyliaeth Dr Nicole Esteban a Dr Kim Stokes)
  • The potential competitive exclusion of edible crab (Cancer pagurus) by Montagu’s crab (Xantho hydrophilus), a climate-change indicator species (dan oruchwyliaeth yr Athro John Griffin)
  • Identifying the use of genetic diversity in the initial establishment of a restored seagrass meadow (dan oruchwyliaeth Dr Richard Unsworth a yr Athro Jim Bull)