Dyddiad dechrau
Hydref, Ionawr, Ebrill, Gorffennaf
Dyddiad cau
Medi 2026
Gwybodaeth Allweddol
Mae cwmnïau maint canolig yn boblogaeth hollbwysig o gyflogwyr yng Nghymru, sy’n cyfrannu at eu cymunedau ac yn darparu gwasanaethau a chynhyrchion hanfodol yn eu lleoliadau. Fodd bynnag, mae'r cwmnïau hyn ar goll o'r corpws ymchwil i raddau helaeth. Mae llunwyr polisi yn rhagdybio nad oes gan fusnesau yng Nghymru uchelgais, sgiliau arweinyddiaeth, rhwydweithiau nac adnoddau i dyfu'n llwyddiannus - a bod unrhyw gwmnïau sy'n 'llwyddiannus' yn cael eu brynu'n ddi-oed gan gwmnïau mwy yn Lloegr neu dramor (OSSW. 2023). Fodd bynnag, mae'r data i brofi hyn yn anecdotaidd ar y gorau.
Hoffai’r goruchwylwyr dderbyn cynigion a fydd yn archwilio, am y tro cyntaf, deithiau twf go iawn cwmnïau yng Nghymru, gyda sampl sylweddol o sylfaenwyr, arweinwyr a Chyfarwyddwr Bwrdd. Rydym yn chwilio am gynigion arloesol a fydd yn ychwanegu cyfraniadau unigryw at y prosiect hwn.
Ni fyddwn yn ystyried cynigion sy'n cael eu cynhyrchu gan AI
Cymhwyster
Cymwysterau gofynnol
O leiaf 2.1 ar lefel Israddedig a theilyngdod ar lefel Meistr, neu gymwysterau rhyngwladol cyfatebol.
Cefndiroedd pwnc a gaiff eu hystyried
Busnes, Arloesi, Entrepreneuriaeth, Economeg, rheoli, a Gwyddorau Cymdeithasol.
Profiad/sgiliau a rhinweddau eraill sy'n ofynnol
Rydym yn awyddus iawn i dderbyn ysgolhaig sydd â phrofiad o weithio gyda busnesau, sy'n entrepreneur neu sydd â phrofiad o weithio gydag arweinwyr busnes yn benodol. Fodd bynnag, gallwn bontio'r bwlch hwnnw ar gyfer yr ymgeisydd cywir.
Supervisors
Prif Oruchwyliwr - Yr Athro Louisa Huxtable-Thomas
- Ebost: l.a.huxtable-thomas@abertawe.ac.uk
- Ffôn: 01792 602621
Mwy o wybodaeth am Professor Louisa Huxtable-Thomas
Ail Oruchwyliwr - Dr Samuel Ebie
- Ebost: Samuel.ebie@abertawe.ac.uk
Mwy o wybodaeth am Dr Samuel Ebie
Sut i Wneud Cais
Porwch drwy ein Rhaglenni Ymchwil ôl-raddedig i ddod o hyd i'r dudalen cwrs rydych chi'n chwilio amdani ac ymgeisio gan ddefnyddio'r botwm "Ymgeisio" ar y dudalen.
Yna byddwch yn cael eich ailgyfeirio at ein system ymgeisio, lle gallwch ddilyn y cyfarwyddiadau i gwblhau eich cais.
Pwysig: Ychwanegwch enw'r goruchwylwyr a nodir uchod at eich cais i sicrhau bod eich cais yn eu cyrraedd. Gallwch ychwanegu eu henwau ar dudalen flaen eich cynnig ymchwil ac at eich datganiad personol.