Dyddiad dechrau

Hydref, Ionawr, Ebrill, Gorffennaf

Dyddiad cau

Medi 2026

Gwybodaeth Allweddol

Bydd y prosiect hwn yn ceisio cynhyrchu allbynnau ymchwil ryngddisgyblaethol gan ymchwilio'r themâu trosfwaol canlynol:

  1. sut mae cynhyrchion a brandiau bwyd lleol yn tirweddu ardaloedd trefol/gwledig o safbwynt cwsmer a/neu rwydweithiau bwyd amgen;
  2. dimensiynau gofodol a gofodol-amserol ymddygiad cwsmeriaid bwyd lleol;
  3. sut mae moeseg a gwleidyddiaeth prynu/bwyta bwyd lleol yn effeithio ar farchnata a pholisi cyhoeddus, gan gynnwys ffocws ar drefnu aml-randdeiliad (e.e. partneriaethau traws-sector, ar sail lle) ar gyfer rhoi cyfiawnder cymdeithasol-ecolegol ar waith mewn systemau bwyd- amaeth.

Gwahoddir darpar fyfyrwyr i ganolbwyntio ar un neu fwy o'r tair thema ymchwil hyn, ond maent yn rhydd i adeiladu arnynt yn greadigol, i gyd-fynd â'u diddordebau ymchwil penodol neu i gyflwyno elfennau o ddisgyblaethau eraill.

Cymhwyster

Cymwysterau gofynnol

O leiaf 2.1 ar lefel Israddedig a theilyngdod ar lefel Meistr, neu gymwysterau rhyngwladol cyfatebol.

Cefndiroedd pwnc a gaiff eu hystyried

Unrhyw gefndir pwnc yn y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, yn enwedig Marchnata, Rheoli a Daearyddiaeth Ddynol, ond heb fod yn gyfyngedig i'r rhain.

Profiad/sgiliau a rhinweddau eraill sy'n ofynnol

Mae gwybodaeth sylfaenol am fethodolegau ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol yn ddymunol (ond nid yw'n ofynnol).

Supervisors

Dr Alessandro Graciotti 

 Mwy o wybodaeth am Dr Alessandro Graciotti

Sut i Wneud Cais

Porwch drwy ein Rhaglenni Ymchwil ôl-raddedig i ddod o hyd i'r dudalen cwrs rydych chi'n chwilio amdani ac ymgeisio gan ddefnyddio'r botwm "Ymgeisio" ar y dudalen.

Yna byddwch yn cael eich ailgyfeirio at ein system ymgeisio, lle gallwch ddilyn y cyfarwyddiadau i gwblhau eich cais.

Pwysig: Ychwanegwch enw'r goruchwylwyr a nodir uchod at eich cais i sicrhau bod eich cais yn eu cyrraedd. Gallwch ychwanegu eu henwau ar dudalen flaen eich cynnig ymchwil ac at eich datganiad personol.