Dyddiad cau: Gwnewch gais cyn gynted ag y bo modd

Gwybodaeth Allweddol

Gall myfyrwyr sy'n astudio Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) amser llawn ym Mhrifysgol Abertawe gael cyllid i helpu gyda chostau'r cwrs, ar yr amod bod yr holl feini prawf cymhwysedd Cyllid Myfyrwyr yn cael eu bodloni. 

 

Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth 2025/26

Bydd gan bob myfyriwr TAR Uwchradd sy'n astudio TAR Bioleg, Cemeg, Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Gwybodaeth, Mathemateg, Ieithoedd Tramor Modern (ITM), Ffiseg a Chymraeg, gyda dosbarthiad gradd blaenorol o 2.2 neu uwch, hawl i dderbyn cymhelliant o £15,000. Bydd y cymelldaliadau gwerth cyfanswm o £15,000 yn cael eu gwneud mewn tri rhandaliad. Byddant yn cael eu talu ar yr adegau canlynol yn ystod rhaglen AGA a dechrau gyrfa myfyriwr:

  • £6,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau tymor cyntaf ei gwrs TAR (taliad yn ystod y rhaglen)
  • £6,000 ym mis Gorffennaf neu Awst ar ôl cwblhau ei gwrs TAR yn llwyddiannus ac ar ôl dyfarnu SAC iddo. Os caiff myfyriwr ei asesu gan y bwrdd arholi ailgyflwyno, gwneir taliadau cyn 31 Rhagfyr (taliad SAC)
  • £3,000 ar ôl cwblhau'r cyfnod sefydlu yng Nghymru yn llwyddiannus (y cymelldaliad olaf)

Am ragor o wybodaeth, gweler nodiadau arweiniol 2025/26 yma

Mae Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol yn grant sydd ar gael i fyfyrwyr Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol sy'n astudio rhaglen AGA ôl-raddedig achrededig sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC). Mae cyfanswm o £5000 ar gael i ddarpar athrawon cymwys, a delir mewn dwy ran. Am ragor o wybodaeth, gweler nodiadau arweiniol 2025/26 yma.

Mae Cynllun Cymhelliant Llywodraeth Cymru, Iaith Athrawon Yfory 2025-26, ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cyfanswm o £5000 ar gael i ddarpar athrawon cymwys, a delir mewn dwy ran. Am ragor o wybodaeth, gweler nodiadau arweiniol 2025/26 yma

Cymhwyster

Gall myfyrwyr sy'n astudio Tystysgrif Addysg Ôl-raddedig mewn Addysg (TAR) yn llawn amser gael arian i helpu gyda chostau'r cwrs, ar yr amod bod holl feini prawf cymhwysedd Cyllid Myfyrwyr yn cael eu bodloni. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalen Cyllid TAR. Nid oes hawl gan Fyfyrwyr Rhyngwladol dderbyn ariannu myfyrwyr statudol ond gallent fod yn gymwys i gyflwyno cais am ariannu gan y Brifysgol.

Cyllid

Mae cyrsiau Tystysgrif Addysg i Ôl-raddedigion (TAR) yn derbyn yr un arian â chwrs gradd israddedig. Mae hyn yn golygu, os ydych chi'n gymwys, y byddwch chi'n gallu gwneud cais am gymorth ffioedd dysgu a chostau byw.

Sut i wneud cais

Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalen Cyllid TAR.