-
CY-149
Meistroli’r Iaith
Mae galw aruthrol am unigolion sy¿n gallu cyfathrebu¿n hyderus ac yn raenus yn y Gymraeg mewn sawl maes proffesiynol yng Nghymru, a bwriad y modiwl hwn yw rhoi cyfle i chi fireinio eich sgiliau cyfathrebu drwy gyfres o ymarferion. Byddwn yn archwilio nifer o gyweiriau ysgrifennu amrywiol ac yn magu¿ch hyder wrth ymdrin â gramadeg y Gymraeg, gan archwilio beth yn union yw Cymraeg Safonol ac ystyried y cyweiriau gorau i fynegi eich hunain yn ddibynnol ar gyd-destun.
-
CY-156
Trin a Thrafod Testunau
Sut yn union mae trin a thrafod testun? Dyma fodiwl sydd wedi¿i gynllunio i fagu¿ch hyder wrth drafod llenyddiaeth a beirniadaeth lenyddol y Gymraeg. Ar y modiwl yma, byddwch yn datblygu sgiliau dadansoddi ac yn cael eich annog i gwestiynu popeth, ochr yn ochr â datblygu eich rhuglder ieithyddol.
-
CY-158
Byw Brwydr: Llenyddiaeth Wleidyddol
A yw llenyddiaeth yn gallu newid y byd? Ar y modiwl hwn, cewch archwilio sut mae llenorion Cymraeg wedi defnyddio geiriau i geisio newid Cymru, dyfodol y Gymraeg a¿r modd yr ydym ni¿n gweld y byd trwy fynd i¿r afael â phynciau llosg megis anghyfiawnder cymdeithasol, newid hinsawdd, rhywedd ac iaith. Byddwch yn trafod ac yn ymateb yn feirniadol i destunau tanllyd sydd wedi, ac yn parhau i herio a phrocio ac weithiau esgor ar chwyldro. Cewch weld y byd trwy lens llenorion blaengar a¿u hymdrechion nhw ar ffurf amrywiaeth o genres sy¿n trosgynnu ystod o fudiadau llenyddol i newid y byd.
Can literature change the world? On this module, you will explore how Welsh-language writers have used words in an attempt to change Wales, the future of the Welsh language, and the way we see the world, by tackling burning issues such as social injustice, climate change, gender and language. You will critically engage with provocative and powerful texts that have challenged, stirred ¿ and at times sparked a revolution. You'll view the world through the lens of radical writers and their efforts, expressed across a range of genres that span literary movements as they strive to change the world.
-
CY-248
Y Gweithle Dwyieithog
Ar y modiwl hwn, byddwch yn bwrw ati i archwilio realiti gweithio¿n ddwyieithog yng Nghymru¿r unfed ganrif ar hugain, gan drafod arfer amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus, addysg, cyfieithu, cyfathrebu proffesiynol, meysydd creadigol, byd busnes a llawer mwy. Yn ogystal â thrafod arwyddocâd deddfwriaeth iaith, dyma gyfle i chi ddatblygu sgiliau cyfathrebu proffesiynol yn y ddwy iaith, a dod i ddeall sut mae'r Gymraeg yn gweithio yn y byd gwaith go iawn ¿ nid fel pwnc yn unig, ond fel adnodd proffesiynol, pwysig.
Beth allwch chi ei ddisgwyl?
¿ Trafodaethau bywiog ar hawliau ieithyddol a pholisïau dwyieithrwydd.
¿ Astudiaethau achos o weithleoedd Cymraeg a dwyieithog.
¿ Gweithdai ymarferol ar sgiliau iaith ar lafar ac yn ysgrifenedig.
¿ Gweithio ar senarios proffesiynol e.e. cyfieithu, cyfathrebu busnes, neu ddigwyddiadau cyhoeddus.
¿ Cyfraniadau gan siaradwyr gwadd o feysydd amrywiol.
-
CY-249
Llenyddiaeth Taith
Sut mae¿r Cymry¿n gweld y byd, a¿r byd yn gweld Cymru?
Dewch ar daith gyda beirdd a llenorion Cymru wrth iddynt ymateb yn greadigol i deithio¿r byd ac ystyried sut mae teithio¿n ffordd o ddehongli hunaniaeth bersonol a chenedlaethol. Byddwn yn trafod yn benodol y berthynas rhwng llenyddiaeth a lle, gan archwilio rôl twristiaeth lenyddol yng Nghymru a thu hwnt a chodi cwestiynau am arwyddocâd a chynaliadwyedd y sector.
Yn ogystal, cyflwynir y theori ôl-drefedigaethol a byddwn yn ystyried cwestiynau ynghylch cynrychiolaeth ac arwyddocâd Cymru a'r Gymraeg mewn cyd-destun global, gan ystyried sut mae beirdd a llenorion o Gymru yn creu cysylltiad gyda gweddill y byd.
-
CY-262
Creu a Chyhoeddi yng Nghymru
Wrth gydio mewn llyfr, ydych chi erioed wedi meddwl o ble mae¿r llyfr hwnnw wedi dod? Pwy sydd wedi bod yn gyfrifol am ei greu, o¿r syniad cychwynnol hyd at sicrhau ei fod yn cyrraedd y siopau? Ar y modiwl hwn, byddwn yn bwrw golwg ar ddatblygiad cyfrol, o¿r e-bost cyntaf at wasg i¿r adolygiad cyntaf gan feirniad llenyddol. Dyma¿n cyfle i edrych ar destunau dethol a¿r diwydiant yn ei gyfanrwydd, gan drafod rôl gweisg amrywiol Cymru ac ystyried pwy yn union yw cynulleidfa cyfrolau Cymraeg. Bydd ystyried amrywiaeth a chynrychiolaeth deg wrth wraidd y modiwl hwn, wrth i chi weithio tuag at lunio ymgyrch i ddenu pobl at lenyddiaeth y Gymraeg.
-
CY-352
Gwlad Beirdd a Storiwyr
Wrth ddilyn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn astudio detholiad o destunau llenyddol o'r 20 ganrif a'r 21 ganrif. Astudir cerddi gan Waldo Williams, Gwyn Thomas, Alan Llwyd ac eraill, stori fer hir gan Kate Roberts, drama gan Saunders Lewis a nofelau gan Caradog Prichard, Alun Jones a Mihangel Morgan.
-
CY-362
Creu a Chyhoeddi yng Nghymru
Wrth gydio mewn llyfr, ydych chi erioed wedi meddwl o ble ae¿r llyfr hwnnw wedi dod? Pwy sydd wedi bod yn gyfrifol am ei greu, o¿r syniad cychwynnol hyd at sicrhau ei fod yn cyrraedd y siopau? Ar y modiwl hwn, byddwn yn archwilio datblygiad cyfrol, o¿r e-bost cyntaf at y cyhoeddwr i¿r adolygiad cyntaf gan feirniad llenyddol. Dyma¿n cyfle i drafod a dadansoddi testunau dethol a¿r diwydiant yn ei gyfanrwydd, gan drafod rôl gweisg amrywiol Cymru ac ystyried pwy yn union yw cynulleidfa cyfrolau Cymraeg. Wrth fwrw ati i ystyried sut mae¿r diwydiant yn cael ei gefnogi yng Nghymru, bydd cyfle i chi ystyried amrywiaeth a chynrychiolaeth deg wrth wraidd y modiwl hwn, wrth i chi weithio tuag at lunio ymgyrch i ddenu pobl at lenyddiaeth y Gymraeg.
-
CY-363
Cyfieithu
Meat Free = Cig am ddim?
Out of order = Allan o drefn?
Meeting in Progress = Cyfarfod mewn cynnydd?
Fel y gwelwch chi, mae modd i gyfieithiadau anghywir ac aneglur achosi cryn dipyn o ddryswch ac embaras. Ar y modiwl hwn, byddwn yn edrych ar yr arferion a thechnegau gorau i osgoi camgyfieithu o¿r fath ac i ddewis y dull gorau o gyfathrebu. Mae gan gyfieithwyr rôl hynod bwysig yn y Gymru sydd ohoni, drwy fodloni Safonau¿r Gymraeg (Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011) a sicrhau bod gan bawb yr hawl at wasanaethau Cymraeg a thrwy hyrwyddo¿r iaith yn ein bywydau bob dydd. Ar ein modiwl Cyfieithu, byddwn yn rhannu¿r technegau gorau i drin a thrafod y Gymraeg yn effeithiol, ac yn rhoi cynnig ar fathau gwahanol o gyfieithu, o¿r creadigol i¿r cyfreithiol, er mwyn datblygu¿r arfer gorau.
-
CY-365
Blas ar Ymchwil
Ydych chi¿n barod i gamu i fyd ymchwil annibynnol? Mae¿r modiwl hwn yn eich arfogi â¿r sgiliau, yr hyder a¿r creadigrwydd sydd eu hangen i baratoi ar gyfer un o uchafbwyntiau eich gradd: y prosiect estynedig.
Drwy gyfuniad o weithdai rhyngweithiol, trafodaethau gr¿p, a mentora unigol, byddwch yn darganfod sut i ddyfeisio, cynllunio a gwireddu prosiect estynedig, dod o hyd i ffynonellau perthnasol, a datblygu dulliau dadansoddi beirniadol a/neu datblygu eich arfer creadigol . Byddwch yn cael cyfle i archwilio eich diddordebau academaidd, profi syniadau, a chynllunio prosiect sy¿n wirioneddol adlewyrchu eich llais a¿ch gweledigaeth.
Beth yw bwriad y modiwl hwn?
¿ Ysbrydoliaeth i ddewis pwnc sy¿n eich cyffroi
¿ Sgiliau ymchwil uwch mewn llenyddiaeth, iaith, hanes neu ddiwylliant
¿ Cyngor ymarferol ar ysgrifennu, strwythuro a rheoli amser
¿ Cymorth personol i lunio cynnig ymchwil cadarn a chreadigol
¿ Sylfaen gadarn ar gyfer llwyddo yn y traethawd hir ac yn eich gyrfa
Dyma gyfle arbennig i fagu hyder, meithrin chwilfrydedd, a gosod y sylfeini ar gyfer darn o waith fydd yn eich arfogi â sgiliau ymchwil heb eu hail.
-
CY-366
Prosiect Estynedig
Ydych chi¿n barod i ddarganfod eich llais academaidd a gwneud cyfraniad gwreiddiol i fyd astudiaethau¿r Gymraeg? Mae¿r modiwl Prosiect Estynedig yn garreg filltir gyffrous yn eich gradd ¿ cyfle i blymio¿n ddwfn i bwnc sy¿n eich ysbrydoli, ac i ddangos eich gallu fel ymchwilydd, beirniad a chyfathrebwr.
O drafod pwnc sy¿n berthnasol i¿ch diddordebau ¿ llenyddiaeth, iaith, sosioieithyddiaeth, hanes diwylliannol, cyfieithu, hunaniaeth, polisi a chyfraith neu unrhyw faes arall sy¿n berthnasol i¿r Gymraeg ¿ byddwch yn datblygu prosiect cynhwysfawr ac unigryw, a hynny mewn fformat sy¿n gweddu i chi, gyda opsiynau¿n cynnwys (ond nid yn gyfyngedig i): traethawd estynedig, prosiect aml-gyfrwng, adroddiad a dyddiadur profiad gwaith, cyfieithiad estynedig a sylwadaeth neu bortffolio creadigol a beirniadaeth.
Pam dewis y modiwl hwn?
¿ Rhyddid i ddewis pwnc sy¿n wirioneddol eich cyffroi
¿ Cyfle i ddangos eich sgiliau ymchwil, dadansoddi a chyfathrebu
¿ Cymorth un-i-un gan staff academaidd profiadol
¿ Paratoad rhagorol ar gyfer astudiaethau ôl-radd neu yrfa broffesiynol
Mae¿r prosiect estynedig yn fwy na aseiniad yn unig ¿ mae¿n gyfle i ddweud rhywbeth newydd, i herio syniadau, ac i gyfrannu at ddyfodol y Gymraeg fel maes academaidd bywiog a pherthnasol.
-
GEG295C
Llenyddiaeth Taith
Sut mae¿r Cymry¿n gweld y byd, a¿r byd yn gweld Cymru?
Dewch ar daith gyda beirdd a llenorion Cymru wrth iddynt ymateb yn greadigol i deithio¿r byd ac ystyried sut mae teithio¿n ffordd o ddehongli hunaniaeth bersonol a chenedlaethol. Byddwn yn trafod yn benodol y berthynas rhwng llenyddiaeth a lle, gan archwilio rôl twristiaeth lenyddol yng Nghymru a thu hwnt a chodi cwestiynau am arwyddocâd a chynaliadwyedd y sector.
Yn ogystal, cyflwynir y theori ôl-drefedigaethol a byddwn yn ystyried cwestiynau ynghylch cynrychiolaeth ac arwyddocâd Cymru a'r Gymraeg mewn cyd-destun global, gan ystyried sut mae beirdd a llenorion o Gymru yn creu cysylltiad gyda gweddill y byd.