-
CY-130
Gramadeg a Geirfa
Ydych chi eisiau siarad Cymraeg yn fwy rhugl, gyda hyder a dealltwriaeth ddyfnach o batrymau¿r iaith? Mae¿r modiwl hwn yn cynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau iaith drwy adolygu gramadeg craidd y Gymraeg ac ehangu eich geirfa mewn ffordd ymarferol a bywiog. Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso patrymau¿r iaith lafar mewn cyd-destunau amrywiol, gan feithrin sylfaen gadarn ar gyfer astudio¿r Gymraeg ymhellach.
Do you want to speak Welsh more fluently, with confidence and a deeper understanding of how the language works? This module offers the chance to strengthen your language skills through revising core Welsh grammar and expanding your vocabulary in an engaging and practical way. You¿ll learn how to apply spoken language patterns in a range of real-life contexts, building a strong foundation for further study in Welsh.
-
CY-154
Ieithoedd Lleiafrifol: Pwer a Pholisi
Pwy sy¿n cael siarad? Llais pwy sy¿n cael ei glywed ¿ a phwy sy¿n cael ei dewi? Mae¿r modiwl hwn yn archwilio gwleidyddiaeth fyd-eang iaith, gan ganolbwyntio ar sut mae ieithoedd lleiafrifol yn cael eu siapio gan b¿er, gwrthsafiad ac hunaniaeth. O Gymru i Seland Newydd, o Quebec i Gatalonia, byddwch yn archwilio sut mae polisïau iaith yn gallu cynnwys, eithrio ac ail-lunio cymunedau. Trwy astudiaethau achos o¿r DU, Ewrop a thu hwnt, byddwch yn edrych ar y dylanwadau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd sy¿n effeithio ar ddefnydd ac amlygrwydd ieitihoedd lleiafrifiedig. Byddwch yn cael cymorth i gymharu¿n feirniadol rhwng Cymraeg a chyd-destunau ieithyddol lleiafrifol eraill, gan ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o amrywiaeth ieithyddol ¿ a¿r cwestiynau diwylliannol a gwleidyddol sy¿n deillio ohoni.
-
CY-157
Y Gymdeithas a'r Gymraeg Heddiw
Mae mwy o bobl nag erioed yn dysgu Cymraeg yng Nghymru ¿ ond faint sy¿n ei defnyddio o ddydd i ddydd? Yn y modiwl hwn, byddwn yn archwilio¿r ffactorau sy¿n dylanwadu ar ein dewis iaith, gan ystyried y cyfleoedd a¿r heriau sy¿n wynebu¿r Gymraeg heddiw. Byddwn yn trafod sut mae technoleg, addysg, y gweithle, a¿r cyfryngau traddodiadol a chymdeithasol yn siapio¿r ffordd rydym yn defnyddio¿r iaith yn ein bywyd bob dydd. Trwy drafodaethau, astudiaethau achos a darllen testunau syml, cewch gyfle i ymarfer eich Cymraeg a thrafod y cwestiynau sy¿n siapio¿r Gymraeg heddiw a¿i dyfodol.
-
CY-236
Amlddiwylliannedd a'r Gymraeg
Bydd y modiwl hwn yn archwilio sut mae syniadau am iaith, diwylliant a chenedl wedi esblygu dros y canrifoedd diwethaf, gyda ffocws arbennig ar dwf amrywiaeth mewn cymdeithas gyfoes. Trafodir prif ddulliau o ymdrin ag amrywiaeth, megis theori amlddiwylliannedd, a rhoddir sylw i¿r ffyrdd y mae¿r Gymraeg wedi¿i chynnwys neu¿i heithrio o¿r trafodaethau hyn. Anogir y myfyrwyr i fyfyrio ar ba fath o Gymru y gellir ei dychmygu ar gyfer y dyfodol yng nghyd-destun amlddiwylliannedd ac amlieithrwydd.
-
CY-365
Blas ar Ymchwil
Ydych chi¿n barod i gamu i fyd ymchwil annibynnol? Mae¿r modiwl hwn yn eich arfogi â¿r sgiliau, yr hyder a¿r creadigrwydd sydd eu hangen i baratoi ar gyfer un o uchafbwyntiau eich gradd: y prosiect estynedig.
Drwy gyfuniad o weithdai rhyngweithiol, trafodaethau gr¿p, a mentora unigol, byddwch yn darganfod sut i ddyfeisio, cynllunio a gwireddu prosiect estynedig, dod o hyd i ffynonellau perthnasol, a datblygu dulliau dadansoddi beirniadol a/neu datblygu eich arfer creadigol . Byddwch yn cael cyfle i archwilio eich diddordebau academaidd, profi syniadau, a chynllunio prosiect sy¿n wirioneddol adlewyrchu eich llais a¿ch gweledigaeth.
Beth yw bwriad y modiwl hwn?
¿ Ysbrydoliaeth i ddewis pwnc sy¿n eich cyffroi
¿ Sgiliau ymchwil uwch mewn llenyddiaeth, iaith, hanes neu ddiwylliant
¿ Cyngor ymarferol ar ysgrifennu, strwythuro a rheoli amser
¿ Cymorth personol i lunio cynnig ymchwil cadarn a chreadigol
¿ Sylfaen gadarn ar gyfer llwyddo yn y traethawd hir ac yn eich gyrfa
Dyma gyfle arbennig i fagu hyder, meithrin chwilfrydedd, a gosod y sylfeini ar gyfer darn o waith fydd yn eich arfogi â sgiliau ymchwil heb eu hail.
-
CY-366
Prosiect Estynedig
Ydych chi¿n barod i ddarganfod eich llais academaidd a gwneud cyfraniad gwreiddiol i fyd astudiaethau¿r Gymraeg? Mae¿r modiwl Prosiect Estynedig yn garreg filltir gyffrous yn eich gradd ¿ cyfle i blymio¿n ddwfn i bwnc sy¿n eich ysbrydoli, ac i ddangos eich gallu fel ymchwilydd, beirniad a chyfathrebwr.
O drafod pwnc sy¿n berthnasol i¿ch diddordebau ¿ llenyddiaeth, iaith, sosioieithyddiaeth, hanes diwylliannol, cyfieithu, hunaniaeth, polisi a chyfraith neu unrhyw faes arall sy¿n berthnasol i¿r Gymraeg ¿ byddwch yn datblygu prosiect cynhwysfawr ac unigryw, a hynny mewn fformat sy¿n gweddu i chi, gyda opsiynau¿n cynnwys (ond nid yn gyfyngedig i): traethawd estynedig, prosiect aml-gyfrwng, adroddiad a dyddiadur profiad gwaith, cyfieithiad estynedig a sylwadaeth neu bortffolio creadigol a beirniadaeth.
Pam dewis y modiwl hwn?
¿ Rhyddid i ddewis pwnc sy¿n wirioneddol eich cyffroi
¿ Cyfle i ddangos eich sgiliau ymchwil, dadansoddi a chyfathrebu
¿ Cymorth un-i-un gan staff academaidd profiadol
¿ Paratoad rhagorol ar gyfer astudiaethau ôl-radd neu yrfa broffesiynol
Mae¿r prosiect estynedig yn fwy na aseiniad yn unig ¿ mae¿n gyfle i ddweud rhywbeth newydd, i herio syniadau, ac i gyfrannu at ddyfodol y Gymraeg fel maes academaidd bywiog a pherthnasol.
-
GEG296C
Amlddiwylliannedd a’r Gymraeg
Bydd y modiwl hwn yn archwilio sut mae syniadau am iaith, diwylliant a chenedl wedi esblygu dros y canrifoedd diwethaf, gyda ffocws arbennig ar dwf amrywiaeth mewn cymdeithas gyfoes. Trafodir prif ddulliau o ymdrin ag amrywiaeth, megis theori amlddiwylliannedd, a rhoddir sylw i¿r ffyrdd y mae¿r Gymraeg wedi¿i chynnwys neu¿i heithrio o¿r trafodaethau hyn. Anogir y myfyrwyr i fyfyrio ar ba fath o Gymru y gellir ei dychmygu ar gyfer y dyfodol yng nghyd-destun amlddiwylliannedd ac amlieithrwydd.