Trosolwg
Ymunodd Dr Mike Harrison ag Adran Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol Prifysgol Abertawe yn 2022. Mae wedi gweithio yn y byd academaidd ers 2010 lle mae wedi addysgu myfyrwyr troseddeg israddedig ac ôl-raddedig, a recriwtiaid newydd i'r heddlu ar sawl cwrs Fframwaith Cymwysterau Addysg yr Heddlu.
Mae gan Mike nifer o ddiddordebau ymchwil yn gysylltiedig â phlismona. Cyn dechrau ei PhD yn 2015, roedd Mike eisoes wedi cyhoeddi a gweithio ar brosiectau’n ymwneud â phlismona trefn gyhoeddus. Aeth ei ymchwil PhD ati i ddadansoddi’n feirniadol ddehongliad heddlu lleol o ganllawiau plismona trefn gyhoeddus, ac arferion yn gysylltiedig â chanllawiau plismona trefn gyhoeddus. Mae gan Mike ddiddordeb hefyd yn hunaniaeth yr heddlu yng Nghymru, plismona a chyfiawnder troseddol o fewn llywodraethu datganoledig Cymru, a dylanwad ac effaith neoryddfrydiaeth ar blismona, ac mae wedi cyhoeddi papurau a phenodau llyfrau ar y pynciau hynny. Y tu hwnt i blismona, mae gan Mike ddiddordeb hefyd mewn troseddeg feirniadol a semioleg.
Yn 2015, cefais fy ngwahodd i Ankara, Twrci fel ymgynghorydd ar brosiect 'Gwella'r Gallu i Ddadansoddi ac Atal Troseddau yn Nhwrci' a ariannwyd gan amrywiaeth o adrannau llywodraethol ac anllywodraethol. Prif nod y prosiect oedd cynyddu diogelwch a diogeledd personol y boblogaeth drwy ddatblygu a gwella gallu sefydliadol y Gendarmerie a Heddlu Cenedlaethol Twrci i gynnal dadansoddiad ac asesiad mwy effeithiol o droseddau.