Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Cerdyn aelodaeth Undeb y Myfyrwyr Jeff Temple o'i ddyddiau fel is-lywydd

Cerdyn aelodaeth Undeb y Myfyrwyr Jeff Temple o'i ddyddiau fel is-lywydd

Mae miloedd o fyfyrwyr wedi mynd drwy ddrysau Prifysgol Abertawe dros y 100 mlynedd diwethaf, ond mae'n annhebygol bod llawer ohonynt wedi cael amser mwy cofiadwy na Jeffrey Temple. 

Roedd gweithredu'n rhan ganolog o'i amser yn Abertawe wrth iddo herio'r awdurdodau a chael ei arestio yn ystod Brwydr Abertawe, a oedd yn brotest enwog yn erbyn apartheid.

A chafodd gyfle i roi benthyg ei swyddfa i Paul McCartney o bawb.

Dychwelodd Jeffrey, a ddaeth i astudio peirianneg gemegol ym 1969, i'r Brifysgol wrth iddi nodi ei chanmlwyddiant, er mwyn cyflwyno eitemau cofiadwy o'i amser anhygoel fel myfyriwr.

Fel cyd-ddigwyddiad, mae ei lysfab bellach wedi dilyn ei gamre academaidd drwy astudio cyfrifiadureg yn y Brifysgol.

Mae casgliad Jeffrey o ffotograffau, cylchgronau rag, papurau arholiad, toriadau o bapurau newydd a chardiau aelodaeth o Undeb y Myfyrwyr yn rhoi cipolwg ar fywyd myfyrwyr hanner canrif yn ôl.

Ar ôl cyflwyno ei gasgliad i un o archifwyr Prifysgol Abertawe, Emily Hewitt, cafodd Jeffrey a Nadya, ei wraig, eu tywys o gwmpas y man lle caiff ei ddeunydd ei gadw.

Yn ogystal, dychwelodd Jeffrey i'r llyfrgell lle roedd wedi llafurio dros ei astudiaethau. Ar ôl treulio ei flynyddoedd cyntaf yn gweithredu, gwnaeth gellwair: “Yn y diwedd, gwnes i gwrdd â chriw gweithgar a ddifethodd y cwbl – a chefais i 2:1 wedi'r cwbl.”

Dywedodd Jeffrey, a raddiodd ym 1973, fod ei BSc wedi lansio gyrfa ryngwladol lwyddiannus.

“Ym 1972, cefais swydd haf mewn purfa olew yn Sbaen. Byddem yn dechrau am 8am, yn gorffen am 2pm ac yna’n mynd i'r traeth. Roeddwn wrth fy modd ac am ddilyn gyrfa ym maes peirianneg gemegol. Nid wyf byth wedi difaru.”

Fodd bynnag, gallai pethau fod wedi bod yn wahanol iawn pe bai ef wedi cael ei erlyn am ei ran yn y brotest yn erbyn apartheid a gynhaliwyd pan ddaeth teithwyr y Sbringbocs i chwarae yn erbyn Clwb Rygbi Abertawe ym mis Tachwedd 1969.

Esboniodd Jeffrey, cadeirydd Cymdeithas Gwrth-apartheid y Brifysgol bryd hynny, fod Peter Hain – a aeth ymlaen i fod yn Aelod Seneddol dros Gastell-nedd ac yn weinidog llywodraeth – wedi uno'r mudiad wrth i ragor o wybodaeth ddod i'r amlwg am anghyfiawnderau cyfundrefn apartheid.

“Byddwn yn dyfalu bod 90 y cant o'r Brifysgol o blaid y protestiadau. Abertawe oedd y ffrwydrad cyntaf. Aeth dwy ochr wrthwynebus benben â'i gilydd yn y man a'r lle.”

Un o gyfres o brotestiadau yn erbyn gemau'r teithwyr oedd Brwydr Abertawe. Gwnaeth protestwyr wrthdaro â'r heddlu, stiwardiaid y clwb a chefnogwyr rygbi. Cafodd cannoedd eu brifo a'u harestio.

Meddai Jeffrey: “Prynais docyn i'r gêm a phan roddwyd yr arwydd penodol, gwnaethom ddringo dros y ffens a heidio i'r cae. Roeddwn yn disgwyl y byddwn yn cael fy arestio a dyna'r hyn a ddigwyddodd. Roeddwn yn 18 oed ac yn ffôl gan y gallai fod wedi effeithio ar weddill fy mywyd pe bawn i wedi cael euogfarn yn fy erbyn.”

Ychwanegodd: “Roeddwn yn fwy ffodus na llawer o'm ffrindiau. Cafodd llawer ohonynt grasfa, gan y stiwardiaid yn fwy na'r heddlu. Cefais fy maglu gan heddwas a'm cicio gan ambell swyddog wrth i mi orwedd ar y llawr cyn i mi gael fy llusgo i'r celloedd.

“Taflwyd un o'm ffrindiau dros y rheiliau pigfain ac roedd yn ffodus i oroesi. Roedd yn gleisiau i gyd.”

Treuliodd Jeffrey'r nos yn y celloedd. “Yn y diwedd, cefais fy nghyhuddo o dan Ddeddf Tor-heddwch 1361. Roeddwn wedi cael fy arestio, felly cymerwyd yn ganiataol fy mod wedi gwneud rhywbeth o'i le. Yn y pen draw, cafodd pob cyhuddiad ei ollwng, a chefais fy rhyddhau heb gosb.”

Ond roedd y protestwyr wedi llwyddo i yrru neges. Bwriadwyd i'r brotest fod yn ymarfer cyn taith ddadleuol tîm criced De Affrica i Brydain yn ystod yr haf canlynol. Oherwydd cryfder teimladau pobl, ni chynhaliwyd y daith honno.

Roedd diwedd y 1960au'n gyfnod llawn newidiadau mawr ac yn ôl Jeffrey roedd y digwyddiadau yn Abertawe'n rhoi cipolwg yn unig ar yr hyn a oedd yn digwydd mewn campysau ledled Ewrop.

“Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu aflonyddwch mawr. Sylweddolodd myfyrwyr fod ganddynt hawliau penodol, ond roedd y genhedlaeth hŷn yn dal i'w trin yn ddirmygus.”

Roedd teimladau'n dod i'r berw, yn enwedig yn Neuadd Beck, lleoliad i ferched yn unig yn Uplands. “Roedd y warden yn llym iawn. Roedd ganddi lawer o reolau a fyddai wedi llwyddo mewn ysgol fonedd, ond nid oeddent yn addas ar gyfer oedolion mewn prifysgol, gan gynnwys hwyrgloch.”

Roedd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl newydd gael ei chyflwyno, gan ostwng llawn oed o 21 oed fel y gallai pobl 18 oed brynu alcohol, bwrw pleidlais, priodi a rheoli eu bywydau.

“Roedd y merched wedi cael llond bol ac roeddent am i bethau newid. Gwnaethant gais hollol resymol i newid rôl y warden i fod yn fwrsar – o rywun â chyfrifoldeb llwyr i rywun a oedd yn darparu gwasanaethau a chymorth gweinyddol.

“Gwrthodwyd y cais hwnnw a chafodd rhai o'r merched eu gwahardd dros dro. Dyna oedd y sbardun a roddodd bethau ar droed.”

Penderfynodd Cymdeithas Sosialaidd y Brifysgol gymryd camau uniongyrchol. Gwnaeth tua 50 o aelodau orymdeithio i'r neuadd ac ymgynnull yn yr ystafell gyffredin. Roeddem yn credu bod y lleiafrif yn cael cam. Ychydig ar ôl i ni gyrraedd, daeth Pennaeth y Coleg i mewn, ynghyd â'r Dirprwy Bennaeth a'r warden a gwnaethant ein gorfodi i adael.

“Gwnaethom bleidleisio i ddychwelyd pe na bai'r merched yn cael eu hadfer. Drannoeth, cynhaliwyd cyfarfod cyffredinol o Undeb y Myfyrwyr. Roedd tua 1,000 o fyfyrwyr yno a gwnaeth y llywydd atgoffa pawb bod y merched wedi gofyn am yr hyn a oedd yn ddyledus iddynt yn ôl y gyfraith, a hynny'n unig – roedd Coleg y Brifysgol ar fai, nid y merched.

“Y peth nesaf a ddigwyddodd oedd gwahardd gweithgor Undeb y Myfyrwyr yn ei gyfanrwydd. Os ydych am brocio myfyrwyr, ewch ati i wahardd eu harweinwyr.”

Ymatebodd aelodaeth Undeb y Myfyrwyr i'r gwaharddiad drwy drefnu streic. “Roeddem yn credu bod ein hachos yn gyfiawn. Gwnaethom bleidleisio bron yn unfrydol i gynnal streic.” 

Mae adroddiadau’r papurau newydd am y digwyddiadau ymysg yr eitemau a roddwyd gan Jeffrey i'r archifau ac maent yn manylu ar y gefnogaeth a gafwyd o'r tu hwnt i Abertawe, gan gynnwys gan wleidyddion blaenllaw. Yn eu plith roedd Tony Benn, y Gweinidog Technoleg bryd hynny, a ddaeth i siarad â'r myfyrwyr.

Cawsant gefnogaeth hefyd gan yr ymgyrchydd dros hawliau dynol Bernadette Devlin, yr Aelod Seneddol ifancaf a'r fenyw ifancaf i'w hethol i Dŷ'r Cyffredin ar y pryd.

“Roedd hi'n un ohonom, roedd hi'n edrych yn debyg i ni, roedd hi tua'r un oedran â ni ac meddai, ‘Rwy'n eich cefnogi, fechgyn.’ Hi oedd ymgyrchydd mwyaf tanllyd yr oes a daeth i'n cefnogi.”

Gwnaeth y streic bara am 11 diwrnod nes i'r Brifysgol ildio, adfer y myfyrwyr a newid y rheolau.

Parhaodd gweithredu Jeffrey yn ystod protest genedlaethol gan fyfyrwyr pan oedd ymhlith grŵp o fyfyrwyr a feddiannodd bencadlys gweinyddol y Brifysgol yn Abaty Singleton am noson.

“Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, gwnes i brotestio'n fwy nag astudio. Wrth edrych yn ôl, roedd pennaeth fy adran yn oddefgar iawn.”
Gwasanaethodd Jeffrey ar bwyllgor gweithredol Undeb y Myfyrwyr o 1971 i 1972 ac roedd yn aelod o Gyngor Undeb y Myfyrwyr ym 1970 cyn mynd ymlaen i fod yn is-lywydd – rolau a roddodd sgiliau defnyddiol iddo.

“Mae wynebu 1,000 o bobl a chadw trefn yn dipyn o her, ond mae'n ddifyr. Drwy hynny, gwnes i fagu'r hyder i allu siarad yn gyhoeddus yn ddiweddarach yn fy mywyd a dysgais lawer o wersi.”

Un o'r gwersi oedd sut i ymdrin â cherddor enwog a oedd yn chwilio am rywle i newid ynddo.

Ym mis Chwefror 1972, roedd y wlad yn y tywyllwch sawl tro bob wythnos wrth i doriadau trydan ddeillio o'r anghydfod rhwng y llywodraeth ac Undeb Cenedlaethol y Glowyr.

Ar yr un pryd, roedd Paul McCartney, gynt o'r grŵp The Beatles, newydd ffurfio ei fand newydd, sef Wings, a chychwyn ar daith fer, ddirodres i brifysgolion y DU.

Meddai Jeffrey, yr is-lywydd bryd hynny: “Un prynhawn – ar ddiwrnod pan oedd gennym drydan – cawsom alwad yn gofyn a allai'r band dod i chwarae yn Abertawe y noson honno. Mor syml â hynny!

“Aeth y sïon ar led yn gyflym – o fewn awr, roedd mil o bobl mewn ciw y tu allan i'r adeilad. Gwnaethom drefnu popeth cyn iddo gyrraedd a newid yn fy swyddfa.

“‘Hi man,’ meddai, a ‘Hi Paul,’ meddwn. Roedd yn un o'r pethau anhygoel hynny. Roeddwn mor freintiedig i fod yno bryd hynny. Nid oedd yn costio dim i ni, ond roedd aelodau'r band yno'n perfformio eu sioe gyda ni yn Abertawe. Roedd yn wych.”

Aeth Jeffrey ymlaen i briodi myfyriwr arall, Gillian Thomas, yn Neuadd y Ddinas yn Abertawe ym 1974 a magu dau blentyn wrth iddo fwynhau gyrfa lwyddiannus a aeth ag ef i bedwar ban byd. Ond mae'n dweud bod ei hoffter o'r ddinas yn parhau.

“Gadael Abertawe oedd y peth anoddaf a wnes i erioed. Rwy'n dwlu ar y lle. Dridiau cyn fy arholiadau terfynol, es i am dro ar benrhyn Gŵyr ac rwy'n siŵr bod hynny wedi fy helpu i gael fy nghanlyniad terfynol, oherwydd fy mod wedi cael y cyfle i adfywio ac ymlacio ymlaen llaw.”

Gwaetha'r modd, bu farw ei wraig yn 2013, ond gan fod ei theulu'n dal i fyw yn yr ardal, mae cysylltiad Jeffrey â'r ddinas wedi parhau.

“Byddai fy mhlant yn dod i dreulio amser yma ac mae gennym atgofion hapus iawn.”
Ychwanegodd Jeffrey: “Nid wyf byth wedi anghofio Abertawe ac rwyf wedi defnyddio'r hyn a ddysgais yma drwy gydol fy ngyrfa.”

Ar ôl i'w wraig farw, dechreuodd Jeffrey wirfoddoli yn Kazakstan, lle roedd wedi gweithio yn y gorffennol. Drwy ei rôl gydag elusen yno, cyfarfu â Nadya, ei ail wraig.

Mae Jeffrey’n byw yn Tadworth yn Surrey bellach, ond mae'n dweud na wnaeth ddylanwadu ar ei lysfab Dima wrth iddo ddewis prifysgol.

“Aeth Abertawe â'i fryd ef ac mae'n mwynhau ei gwrs yn fawr. Mae'n wych gallu dychwelyd yma a gweld cynifer o leoedd cyfarwydd.

“Rwy'n credu bod fy eitemau wedi mynd i gartref gwych. Mae'n addas rywsut eu bod wedi dod yma yn y diwedd. Mae fy ngradd wedi bod yn basbort i mi drwy gydol fy ngyrfa, gan fynd â mi i bedwar ban byd, droeon. Rwyf mor ddiolchgar i'r Brifysgol am lawer o bethau.”

 

Rhannu'r stori