Llun o enillwyr y Gwobrau Ymchwil ac Arloesi ar y llwyfan yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe.

Yn ystod Seremoni'r Gwobrau Ymchwil ac Arloesi, amlygwyd amrywiaeth anhygoel yr ymchwil a'r arloesi a gynhelir ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n cynnwys: canfod achosion o dorri hawliau dynol, gwarchod treftadaeth mewn ardaloedd gwrthdaro, seiberdroseddau, newid yn yr hinsawdd, atal datgoedwigo, diogelu plant ar-lein, darparu addysg sy'n seiliedig ar efelychu, cyflwyno prosiectau gwyddoniaeth perfformiad cymhwysol sy'n arwain yn fyd-eang a datblygu ein dealltwriaeth o wrthfater.

Cyflwynodd ymchwilwyr ar draws tair cyfadran y Brifysgol geisiadau ar gyfer pob un o'r deg categori gwobr i ddangos ansawdd, perthnasedd ac effaith fyd-eang gadarnhaol eu hymchwil a'i photensial i ysbrydoli. 

Roedd gwesteion o fyd diwydiant, y byd academaidd, y trydydd sector, cyrff cyllido a’r llywodraeth yn bresennol yn y seremoni lle gwobrwywyd y deg enillydd.

  • Cydweithredu Rhyngwladol Rhagorol Noddwyd gan Ping Pong Digital
    • OSR4Rights a TRUE (Ymddiriedaeth mewn tystiolaeth a gynhyrchir gan ddefnyddwyr)
  • Cyfraniad Neilltuol at Genhadaeth Ddinesig (Ymgysylltu â Rhanddeiliaid Rhanbarthol) Noddwyd gan The Conversation
    • Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru
  • Effaith Ragorol Gwyddoniaeth a Thechnoleg y tu hwnt i'r Byd Academaidd Noddwyd gan Fanc Datblygu Cymru
    • Sefydliad Gwyddorau Perfformio Cymru (WIPS)
  • Effaith Ragorol ar Iechyd a Lles Noddwyd gan Siemens Healthineers
    • Canolfan Efelychu a Dysgu Ymdrochol Prifysgol Abertawe (SUSIM)
  • Cyfraniad Neilltuol at y Celfyddydau, Diwylliant a Chymdeithas Noddwyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot
    • Yr Athro Nigel Pollard
  • Cyfraniad Neilltuol at Lywio Pobl, Diwylliant ac Amgylchedd y Brifysgol Noddwyd gan Infonetica
    • Grŵp CORE
  • Ymrwymiad Technegydd Rhagorol Noddwyd gan Brifysgol Abertawe
    • Tîm Technegwyr y Ganolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy (CSAR)
  • Goruchwyliaeth Ymchwil Ragorol Noddwyd gan Symbiosis IP
    • Dr Denis Dennehy
  • Seren y Dyfodol Ymchwil ac Arloesedd – Ôl-raddedig Noddwyd gan Rockfield Software
    • John Hudson
    • Dr Joe Whittaker, Dr Helen Chadwick a Dr Laura Galante
  • Seren y Dyfodol Ymchwil ac Arloesedd – Gyrfa Gynnar Noddwyd gan Bionema Group Ltd

Gweler yr holl geisiadau a gyrhaeddodd y rhestr fer yng nghategorïau'r gwobrau

Meddai Niamh Lamond, Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredol,

"Drwy waith caled ac ymroddiad ein cymuned ymchwil o safon fyd-eang, mae portffolio ymchwil Prifysgol Abertawe wedi tyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, o ran ei werth a'i effaith ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol. 

Roedd Gwobrau Ymchwil ac Arloesi eleni yn gyfle i ni gydnabod y rhagoriaeth hon ac i ddathlu'r partneriaid a'r buddiolwyr rydym yn falch o fod yn gweithio gyda nhw. Rwy'n estyn fy llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran, ac yn pwysleisio ein diolch i'n cydweithwyr a'n partneriaid ymchwil niferus am gydweithio mor effeithiol i sicrhau effaith drawsnewidiol i'n planed a'i phobl."

Meddai'r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymchwil ac Arloesi

“Hoffai Prifysgol Abertawe ddiolch yn fawr i'n prif bartner, Ymchwil ac Arloesi yn y DU (AHRC, ESRC, EPSRC, a Chyfrifon Cyflymu Effaith yr MRC). Mae eu cymorth parhaus yn parhau i alluogi effaith ymchwil a dathliad o'r cyfraniadau amrywiol at effaith, gan ddylanwadu'n gryf ar ein diwylliant ymchwil ac arloesi. Ers 2022, rydym wedi derbyn dros £4m gan UKRI i gyflwyno Cyfrifon Cyflymu Effaith sydd wedi galluogi staff ymchwil, technegwyr, cydweithwyr gwasanaethau proffesiynol, partneriaid a buddiolwyr i gydweithredu i gyflwyno dros 260 o brosiectau'n llwyddiannus hyd heddiw. Mae'r prosiectau hyn yn mwyafu effaith gweithgarwch ymchwil ac arloesi.

“Rydym yn diolch i'r holl bartneriaid yn ein hecosystem gydweithredol sydd wedi bod yn cyfrannu at y darganfyddiadau a'r atebion trawsnewidiol rydym wedi'u dathlu yn ein gwobrau. Edrychwn ymlaen at barhau â'r teithiau hyn, dyfnhau'r effaith a darganfod gwybodaeth newydd drwy greu ar y cyd â'n partneriaid a'n cymunedau ymchwil ac arloesi cydweithredol amrywiol.

“Yn olaf, diolch yn fawr iawn i Technology Connected, Symbiosis IP, Bionema, Banc Datblygu Cymru, The Conversation, Rockfield Software, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Siemens Healthineerscare, Ping Pong Digital, Infonetica, a The World BioProtection Forum sydd wedi noddi pob un o'n gwobrau niferus - rydym yn hynod ddiolchgar.”

Meddai Dr David Bembo, Prif Swyddog Ymchwil a Mentergarwch ym Mhrifysgol Abertawe,

"Mae'r Gwobrau Ymchwil ac Arloesi a gynhelir bob dwy flynedd yn dangos bod ansawdd, ehangder ac amrywiaeth eithriadol ymchwil ar draws Prifysgol Abertawe yn parhau i greu argraff ac ysbrydoli."

"Yn bwysig, mae'r Gwobrau yn rhoi cyfle pwysig i ni arddangos ein partneriaethau.  Fel sefydliad a sefydlwyd gan fyd diwydiant, ar gyfer byd diwydiant, mae cydweithredu wrth wraidd popeth a wnawn. Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweithio'n galed i feithrin perthnasoedd â thros 5,000 o sefydliadau. Rydym yn gweithio i ddatblygu mwy o gyfleoedd i gydweithio drwy symleiddio'r broses o ymgysylltu â Phrifysgol Abertawe, gan ddarparu mynediad uniongyrchol i sefydliadau at arbenigedd ymchwil ac arloesi a'n technoleg a'n cyfleusterau o'r radd flaenaf."

I ymuno â rhwydwaith cydweithredol Prifysgol Abertawe, ewch i Prifysgol Abertawe: LINC.

Rhannu'r stori