Grŵp o bobl yn cerdded ar hyd llwybr troed ger y môr

Cerddwyr yn codi ymwybyddiaeth o hunanladdiad mewn HOPEWALK blaenorol yn Abertawe.

Mae Prifysgol Abertawe unwaith eto wedi cydweithio â PAPYRUS i gynnal taith gerdded ar y traeth i helpu i godi ymwybyddiaeth o hunanladdiad.

 

Cynhelir HOPEWALK eleni ddydd Sul 13 Hydref er budd PAPYRUS yr elusen atal hunanladdiad sy'n cynnig cymorth a chyngor cyfrinachol i bobl ifanc. 

Dylai staff a myfyrwyr o’r Brifysgol ac aelodau'r cyhoedd sydd am gymryd rhan gwrdd ger y Secret Beach Bar and Kitchen ar Heol y Mwmbwls, Abertawe am 10am. 

Bydd y taith gerdded gylchol tair milltir o hyd yn mynd tua Blackpill ar hyd y traeth a'r llwybr cerdded glan môr. 

Bellach yn ei chweched flwyddyn yn Abertawe, mae cyfranogwyr y daith gerdded wedi codi mwy na £2,200 ar gyfer yr elusen, ac mae Rheolwr Iechyd Meddwl a Chwnsela Bywyd Myfyrwyr, Siân Bengeyfield, wedi cymryd rhan bob blwyddyn. 

Meddai: "Mae'n ddigwyddiad gwych, ac rydyn ni'n falch o weithio gyda PAPYRUS i godi ymwybyddiaeth o hunanladdiad a hyrwyddo cefnogaeth ar gyfer ei gwaith amhrisiadwy gyda phobl ifanc yn ein cymuned sy'n achub bywydau. 

"Yma yn Abertawe, mae iechyd meddwl, lles ac atal hunanladdiad yn flaenoriaethau i ni, ac mae gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau hanfodol megis Papyrus yn ein galluogi i ddatblygu a chefnogi ein sgiliau yn y maes hwn." 

Mae PAPYRUS yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau HOPEWALK ledled y DU yn ystod mis Hydref. Dylai unrhyw un a hoffai gymryd rhan yn y digwyddiad yn Abertawe gofrestru a/neu roi drwy'r dudalen JustGIVING. 

Yn y DU, mae mwy o bobl ifanc yn marw o ganlyniad i hunanladdiad nag unrhyw achos arall: nod y digwyddiad yw codi ymwybyddiaeth er mwyn helpu pobl ifanc i gael y cymorth mae ei angen arnynt. 

Cred PAPYRUS fod modd atal llawer o hunanladdiadau ifanc. Mae'n gweithredu HOPELINE247, llinell gymorth gyfrinachol sydd ar gael dros y ffôn, drwy decstio ac e-bostio i bobl ifanc sy'n meddwl am hunanladdiad, neu bobl o unrhyw oedran sy'n poeni am berson ifanc a allai fod yn meddwl am hunanladdiad.   Mae pob £1 a godir yn mynd tuag at dalu am gyswllt â HOPELINE247 a allai achub bywyd. 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Carl Ely

 

Rhannu'r stori