Delwedd montage o saith llun pen ac ysgwydd o unigolion a logo Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Mae saith person o Brifysgol Abertawe ymhlith Cymrodyr newydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Maent yn ymuno â mwy na 700 o Gymrodyr a etholwyd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru, gan gynrychioli rhagoriaeth yn y gwyddorau, y dyniaethau, y celfyddydau, y gwyddorau cymdeithasol a meysydd eraill. Mae'r Cymrodyr newydd yn dod o'r byd academaidd, y cyhoedd a'r gwasanaeth iechyd, a bywyd dinesig a diwylliannol ehangach Cymru. Maen nhw’n cael eu hethol oherwydd eu harbenigedd a'u profiad, a'u  hymchwil a'u gwybodaeth.

Y Cymrodyr newydd o Brifysgol Abertawe yw:

  • Dr Mahaboob Basha, Rheolwr Cysylltiadau Allanol ac Ymgysylltu yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg;
  • Dr Zubeyde Bayram-Weston, Uwch Ddarlithydd mewn Anatomeg a Ffisioleg yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd;
  • Yr Athro Delyth James, Athro mewn Fferylliaeth a Meddygaeth Ymddygiadol yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd;
  • Yr Athro Emeritws Arthur Lees, Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg;
  • Yr Athro Rhiannon Owen, Athro Ystadegau yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd;
  • Sîan Williams, Pennaeth Ymgysylltu a Churadu Casgliadau Diwylliannol; a,
  • Dr Yan Wu, Athro Cyswllt yn y Cyfryngau a Chyfathrebu yn y Gyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.

Meddai’r Athro Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru: "Rydym yn wynebu nifer enfawr o heriau, o newid hinsawdd i gythrwfl gwleidyddol, i fygythiadau iechyd sydd yn dod i'r amlwg. Bydd yr ateb i gymaint o'r problemau hyn yn cael ei ddarganfod mewn ymchwil a sefydliadau dinesig cadarn. Mae'r arbenigedd hwnnw'n amlwg yn ein Cymrodyr newydd. Rwy'n falch iawn o'u croesawu i Gymdeithas Ddysgedig Cymru."

Gellir gweld rhestr gyflawn o'r Cymrodyr newydd, sy'n rhestru eu sefydliadau a'u meysydd ymchwil yma

 

Rhannu'r stori