
Mae astudiaeth sy'n torri tir newydd yn cynnig gwybodaeth ddigynsail am y gymuned incel (y rhai hynny sy’n anweddog yn anwirfoddol), gan ddatgelu ffeithiau allweddol sy'n herio stereoteipiau pennaf ac yn ehangu ein dealltwriaeth o'r is-ddiwylliant dadleuol hwn.
Mae astudiaeth sy'n torri tir newydd yn cynnig gwybodaeth ddigynsail am y gymuned incel (y rhai hynny sy’n anweddog yn anwirfoddol), gan ddatgelu ffeithiau allweddol sy'n herio stereoteipiau pennaf ac yn ehangu ein dealltwriaeth o'r is-ddiwylliant dadleuol hwn.
Dan arweiniad ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Texas yn Austin, yr astudiaeth hon yw'r un mwyaf cynhwysfawr o'i bath hyd heddiw, gan arolygu 561 o gyfranogwyr ar draws y DU a'r UD, mewn cydweithrediad â Chomisiwn Gwrthweithio Eithafiaeth y DU (CCE).
Mae incels yn is-grŵp o ddynion sy'n ei chael hi'n anodd sefydlu perthnasoedd rhywiol neu ramantaidd, gan amlaf yn creu ymdeimlad o hunaniaeth o gwmpas yr anallu canfyddedig hwn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu cynnydd bach yn nifer yr ymosodiadau treisgar sydd wedi cael eu cysylltu ag unigolion sy'n uniaethu fel incels.
Mae'r astudiaeth, sydd wedi'i chyhoeddi yn Archives of Sexual Behaviour, yn datgelu portread mwy amwys o incels, gan ddangos eu bod yn dod o gefndiroedd amrywiol, a bod ganddynt gredoau gwleidyddol amrywiol a nifer mawr o faterion iechyd meddwl. Er bod llawer yn cysylltu incels ag ideolegau asgell dde eithafol ac ymddygiad treisgar, mae'r ymchwil hon yn awgrymu set o ffactorau ehangach a mwy cymhleth sy'n cyfrannu at agweddau a chredoau niweidiol.
Meddai Dr Andrew G. Thomas, Uwch-ddarlithydd Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae incels fel arfer yn cael eu stereoteipio yn y cyfryngau fel dynion ifanc, gwyn, asgell dde sydd ddim mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant. Wrth i ni brofi cywirdeb y stereoteipiau hyn drwy gasglu data sylfaenol, daethom o hyd i gamsyniadau. Roedd y gymuned anweddog yn anwirfoddol yn cynnwys dynion gydag amrywiaeth eang o nodweddion. Pe byddai'n rhaid i ni nodi eu nodweddion mwyaf cyson, y rhain fyddai iechyd meddwl gwael iawn a'u teimladau o chwerwedd, rhwystredigaeth a chasineb tuag at fenywod - er bod hyd yn oed y rhain yn dangos amrywiaeth ymysg y sampl."
Canfyddiadau allweddol:
- Iechyd meddwl: Nododd cyfran sylweddol o'r cyfranogwyr eu bod wedi profi meddyliau am hunanladdiad, ac mae 37% o incels wedi nodi eu bod yn meddwl am hunanladdiad yn ddyddiol.
- Niwroamrywiaeth: Yr astudiaeth hon yw'r astudiaeth gyntaf i ddefnyddio'r Cyniferydd-10 Sbectrwm Awtistig (AQ-10), teclyn sgrinio dilys sy'n asesu a ddylai rhywun gael ei atgyfeirio am asesiad awtistiaeth ffurfiol. Roedd yn dangos bod 30% o gyfranogwyr yn bodloni'r lefel glinigol ar gyfer atgyfeirio, gan awgrymu nifer mawr o nodweddion awtistig, sy'n fwy na chyfradd sylfaenol y boblogaeth gyffredinol o 1% yn sylweddol.
- Unigrwydd: Dewisodd 48% o gyfranogwyr yr ymateb uchaf ar gyfer y tair eitem ar y raddfa unigrwydd, gan awgrymu lefelau uchel iawn o unigrwydd.
- Bwlio: Adroddodd 86% o incels eu bod wedi cael profiad o ryw fath o fwlio, o'i gymharu â 33% o'r boblogaeth gyffredinol.
- Amrywiaeth ethnig: Roedd yr astudiaeth yn cynnwys cynrychiolaeth ethnig leiafrifol: roedd 58% ohonynt yn bobl wen a 42% ohonynt yn uniaethu fel pobl o liw.
- Cyfeiriadedd gwleidyddol: Ar gyfartaledd, yn wleidyddol roedd incels yn gosod eu hunain ychydig i'r chwith o'r canol. Mae hyn yn herio'r dybiaeth gyffredin bod incels yn alinio ag ideolegau asgell dde eithafol.
- Cefndiroedd economaidd-gymdeithasol: Roedd cyfranogwyr yn dod o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol amrywiol: roedd 40.6% ohonynt yn uniaethu fel dosbarth canol a 27.1% ohonynt o'r dosbarth canol is, gan herio'r syniad bod incels yn bennaf o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.
- Cyflogaeth ac addysg: roedd 42.2% ohonynt mewn cyflogaeth amser llawn, a 16.4% ohonynt mewn addysg amser llawn.
- Oed: Oedran cyfartalog cyfranogwyr ein hastudiaeth oedd 26 oed. Roedd 18% o incels yn 30 mlwydd oed neu'n hŷn ac roedd yr hynaf yn y sampl yn 73 mlwydd oed.
Mae'r astudiaeth hefyd yn datgelu dau ffactor allweddol sy'n cyfrannu at ddatblygu agweddau a chredoau niweidiol ymysg incels. Mae un yn gysylltiedig â lefelau uchel o nodweddion awtistig, hanes o fwlio a thrais a hunan-barch isel; mae'r ail yn gysylltiedig â nodweddion personoliaeth gwrthgymdeithasol megis seicopatheg, narsisiaeth a Maciafeliaeth, ochr yn ochr â safbwynt asgell dde eithafol.
Ychwanegodd Dr Thomas: "Mae ein canfyddiadau'n amlygu y gall fod is-grwpiau ymysg incels sydd yn y gymuned am resymau gwahanol. Mae hyn yn wybodaeth bwysig, oherwydd gall y llwybrau hyn arwain at ymyriadau gwahanol. Gall bodolaeth yr is-grwpiau hyn hefyd esbonio pam mae cyrff gwahanol er enghraifft y GIG a Prevent, weithiau'n ei chael hi'n anodd sefydlu pwy fydd y bobl orau i ymyrryd."
Meddai cyd-awdur yr astudiaeth Dr Joe Whittaker, Uwch-ddarlithydd Troseddeg ym Mhrifysgol Abertawe: "Yn ddiweddar, mae incels wedi bod yn ganolog i drafodaethau cyhoeddus - diolch i gymorth y sioe Netflix Adolescence, sydd wedi bod yn ffenomen fyd-eang. Er gall drama fod yn offeryn defnyddiol i hwyluso dadl gyhoeddus, mae'n bwysig hefyd gael ymchwil academaidd i gefnogi hyn.
"Mae ein hastudiaeth yn un o'r cyntaf sy'n ymchwilio'n ddwfn i sampl fawr o incels. Golyga hyn ein bod yn gallu gwneud cymariaethau pwysig rhwng is-grwpiau. Bydd ein canfyddiadau'n helpu i lywio polisi ac ymarfer ym myd gwrthderfysgaeth ac yn helpu rhanddeiliaid i ddatblygu ymatebion effeithiol a phriodol."
Ychwanegodd y cyd-awdur William Costello, ymchwilydd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Texas yn Austin: "Mae incels fel arfer yn cael eu portreadu yn ôl eu bygythiad tuag at eraill, ond mae ein canfyddiadau'n awgrymu y gallent fod yr un mor beryglus, os nad yn fwy peryglus, iddyn nhw eu hunain. Roedd y cyfraddau uchel iawn o syniadaeth hunanladdiad yn ein sampl ymysg y canfyddiadau mwyaf pryderus ac yn gofyn am sylw brys.
"Yn debyg, roedd y cyfraddau o nodweddion awtistiaeth yn llawer uwch na'r boblogaeth gyffredinol, sy'n amlygu'r angen am fwy o sylw clinigol at niwroamrywiaeth ymysg y grŵp hwn. Cafodd y gwaith hwn ei gynnal gyda chefnogaeth gan Gomisiwn Gwrthweithio Eithafiaeth y DU, ac rydym eisoes wedi cael y cyfle i gyflwyno ein canfyddiadau fel tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb yn Senedd y DU. Mae'n galonogol gweld yr ymchwil yn dechrau llywio trafodaethau polisi, a gobeithio y bydd yn parhau i wneud hyn."